Amgylchedd Dysgu
Introduction
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i ddatblygu eu darpariaeth a’u hethos dwyieithog. Rydym yn hyrwyddo dwyieithrwydd ac yn annog ein holl fyfyrwyr i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn unigryw i Gymru ac yn bwysig iawn i ni fel coleg.

Ein huchelgais yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion yw creu man cynhwysol i weithio ac astudio ynddo, un a nodweddir gan Undod rhwng ein holl gymuned. Lle mae yna ymdeimlad o gydraddoldeb, amrywiaeth, ac ymdeimlad o berthyn rhwng ein holl fudd-ddeiliaid.

Rydym eisiau i’n HOLL fyfyrwyr fod yn ddiogel a rhoi gwybod i ni os ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw mewn perygl o gael niwed. Mae gennym bolisïau clir iawn ar Amddiffyn Plant ac Amddiffyn oedolion sy’n Agored i Niwed.

Mae ein Cod Ymddygiad yn seiliedig ar dair egwyddor a chafodd ei ysgrifennu ar y cyd â’n Hundeb Myfyrwyr. Credwn trwy ddilyn y setiau rheolau sylfaenol hyn, fod ein coleg yn amgylchedd hapusach a mwy diogel i bawb.
