Celf a Dylunio Lefel 1 (Cwrs Coleg)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r cwrs celf a dylunio lefel un hwn gan Gorff Dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn gwrs rhagarweiniol lle mae gweithdai yn eich helpu i adeiladu eich hyder a’ch dealltwriaeth o gelf a dylunio.
Byddwch yn arbrofi gydag ystod o ddeunyddiau a ffyrdd o weithio i fynegi a datblygu eich syniadau. Mae gweithio mewn grwpiau yn rhoi cyfle i chi feithrin cyfeillgarwch ac ymgysylltu ag eraill er mwyn archwilio ystod o gyfryngau celf a dylunio newydd a chyffrous. Nod y cwrs yw eich galluogi i gynhyrchu corff o waith creadigol wrth ddatblygu eich sgiliau creadigol a phersonol ar hyd y ffordd.
Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i ddiploma lefel dau mewn celf a dylunio, er gall eraill ddewis llwybrau astudio amgen neu waith llawn amser.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Elfen ganolog o’r cwrs yw datrys problemau wrth weithio trwy dasgau cyffrous, cymryd risgiau, arbrofi a datblygu syniadau newydd.
Bydd prosiectau ysgogol ac ymestynnol yn eich herio i feddwl ynghylch sut a pham rydych chi’n gwneud gwaith celf.
Bydd trafodaethau stiwdio a llyfrgell gyda’ch tiwtoriaid a’ch cymheiriaid yn rhoi cyfle i chi edrych ar waith artistiaid a dylunwyr eraill, a fydd yn ei dro yn rhoi’r hyder i chi siarad am eich gwaith eich hun.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys saith uned sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau celf, dylunio a chyfryngau, gan gynnwys gwaith 2D, 3D a gwaith seiliedig ar amser, ymchwil, ymwybyddiaeth gyd-destunol, sgiliau datblygiad creadigol a sgiliau dilyniant.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a Sgiliau cyflogadwyedd.
Cwrs rhagarweiniol yw hwn, lle mae gweithdai yn eich helpu i adeiladu eich hyder a’ch dealltwriaeth o gelf a dylunio.
Byddwch yn arbrofi gydag ystod o ddeunyddiau a ffyrdd o weithio i fynegi a datblygu eich syniadau.
Mae gweithio mewn grwpiau yn rhoi cyfle i chi feithrin cyfeillgarwch ac ymgysylltu ag eraill er mwyn archwilio ystod o gyfryngau celf a dylunio newydd a chyffrous. Nod y cwrs yw eich galluogi i gynhyrchu corff o waith creadigol wrth ddatblygu eich sgiliau creadigol a phersonol ar hyd y ffordd.
Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i Ddiploma lefel dau mewn Celf a Dylunio, er gall eraill ddewis llwybrau astudio amgen neu waith llawn amser.
Caiff pob uned ei hasesu’n fewnol a’i dilysu’n fewnol ac eithrio’r prosiect mawr terfynol, sy’n cael ei gymedroli’n allanol gan y Corff Dyfarnu, Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL).
Asesir pob uned ar waith portffolio’r myfyriwr.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf, crefft a dylunio i’w cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs lefel un hwn feddu ar ai:
- tri TGAU graddau A* - G mewn naill ai Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg neu gyfwerth, neu fod wedi cwblhau cwrs cyflwyniad i’r coleg Dechrau Newydd neu fod
- â phortffolio o waith celf, dylunio a chrefft.
Byddem yn annog dysgwyr nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau neu brofiad blaenorol i gwblhau’r cwrs cyflwyniad i’r coleg Dechrau Newydd cyn y lefel un er mwyn datblygu sgiliau llythrennedd, cyfathrebu a chreadigol addas. Fodd bynnag, caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Mae yna ffi stiwdio o £150 ar gyfer y cwrs hwn a fydd yn darparu deunyddiau sylfaenol i chi ddatblygu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a’n cyfleusterau stiwdio. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.