Datganiad Diogelu Data.
Introduction
-
Mae’r hyn sy’n dilyn yn ddisgrifiad bras o’r modd mae Coleg Sir Gar yn prosesu gwybodaeth bersonol. Er mwyn deall sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu, mae’n bosibl y bydd angen ichi gyfeirio at unrhyw ohebiaeth bersonol rydych wedi’i derbyn, darllen unrhyw hysbysiadau preifatrwydd mae’r sefydliad wedi’u darparu, neu gysylltu â’r sefydliad i ofyn am eich amgylchiadau personol.
-
Rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol i’n galluogi i ddarparu addysg a gwasanaethau cymorth i’n myfyrwyr a’n staff; hysbysebu a hyrwyddo’r Coleg a’r gwasanaethau a gynigiwn; cyhoeddi cylchgrawn y Coleg a chysylltiadau â chyn-fyfyrwyr; ymgymryd ag ymchwil a chodi arian; rheoli ein cyfrifon a’n cofnodion a darparu gweithgareddau masnachol i’n cleientiaid. Rydym hefyd yn prosesu gwybodaeth bersonol i ddefnyddio systemau CCTV i fonitro a chasglu delweddau gweledol i ddibenion diogelwch ac atal a chanfod trosedd.
-
Rydym yn prosesu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r dibenion/rhesymau uchod. Gall hyn gynnwys:
- manylion personol
- manylion teuluol
- ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
- manylion addysg a chofnodion myfyrwyr
- manylion addysg a chyflogaeth
- manylion ariannol
- cofnodion disgyblu a phresenoldeb
- archwiliadau fetio
- nwyddau neu wasanaethau a ddarparwyd
- delweddau gweledol, ymddangosiad personol ac ymddygiad
- gwybodaeth a gedwir er mwyn cyhoeddi cyhoeddiadau’r Coleg.
Rydym hefyd yn prosesu dosbarthiadau sensitif o wybodaeth a all gynnwys:
- tras hiliol neu ethnig
- aelodaeth o undeb llafur
- credoau crefyddol neu gredoau eraill tebyg
- manylion iechyd corfforol neu feddyliol
- bywyd rhywiol
- troseddau a throseddau honedig
- achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau
-
Rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol am y canlynol:
- myfyrwyr
- cyflogeion, gweithwyr ar gontract
- cyflenwyr, cynghorwyr ac ymgynghorwyr proffesiynol
- cysylltiadau busnes
- landlordiaid, tenantiaid
- achwynwyr, ymholwyr
- cyfranwyr a chyfeillion y Coleg
- awduron, cyhoeddwyr a chrewyr eraill
- pobl a all fod yn destun ymholiad
- trydydd partïon sy’n cymryd rhan mewn gwaith cwrs
- sefydliadau cymdeithasol, iechyd a lles
- cyfeillion y Coleg
- unigolion wedi’u dal ar ddelweddau CCTV
-
Weithiau bydd angen inni rannu’r wybodaeth bersonol a brosesir gennym gyda’r unigolyn ei hun a hefyd sefydliadau eraill. Lle bo angen, mae’n ofynnol inni gydymffurfio â holl agweddau’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae’r hyn sy’n dilyn yn ddisgrifiad o’r mathau o sefydliadau y gall fod angen inni rannu peth o’r wybodaeth bersonol a brosesir gennym gyda nhw am un rheswm neu fwy.
Lle bo angen neu lle bo’n ofynnol, rydym yn rhannu gwybodaeth gyda’r canlynol:
- teulu, swyddogion cyswllt a chynrychiolwyr y person yr ydym yn prosesu ei ddata personol
- cyn-gyflogwyr, cyflogwyr cyfredol neu ddarpar gyflogwyr
- sefydliadau gofal iechyd, cymdeithasol a lles
- addysgwyr a chyrff arholi
- cyflenwyr a darparwyr gwasanaeth
- undeb myfyrwyr
- sefydliadau ariannol
- asiantaethau casglu ac olrhain dyledion
- archwiliwyr
- heddluoedd, sefydliadau diogelwch
- llysoedd a thribiwnlysoedd
- gwasanaethau carchar a phrawf
- cynrychiolwyr cyfreithiol
- llywodraeth leol a chanolog
- ymgynghorwyr a chynghorwyr proffesiynol
- undebau llafur a chymdeithasau staff
- cymdeithasau arolygu ac ymchwil
- y wasg a’r cyfryngau
- sefydliadau gwirfoddol ac elusennol
- landlordiaid
-
Weithiau gall fod angen trosglwyddo gwybodaeth bersonol dramor. Pan fo angen gwneud hyn, gellir trosglwyddo gwybodaeth i wledydd neu diriogaethau ledled y byd. Bydd unrhyw drosglwyddiadau a wneir yn cydymffurfio’n llawn â holl agweddau’r ddeddf diogelu data.
-
Mae’r rheolwr data hwn hefyd yn prosesu data personol sydd wedi’i eithrio rhag ei hysbysu.
-
I wneud cais i gael mynediad at y data y mae Coleg Sir Gâr yn dal arnoch chi, cysylltwch â’r swyddog diogelu data.