Mynediad i Addysg Uwch
Introduction
Mae cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn darparu dechrau newydd a her newydd i’r rheiny sy’n cofrestru i fynd â’u taith addysgol a’u gyrfa i’r lefel nesaf. P’un a ydych chi’n teimlo ei bod hi’n bryd newid gyrfa neu ni chawsoch gyfle i fynd i’r brifysgol o’r blaen oherwydd ymrwymiadau teuluol, os ydych chi dros 18 oed ac yn barod i symud ymlaen i addysg uwch, yna mae cwrs Mynediad ar eich cyfer chi.
Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio i baratoi pobl sydd heb gymwysterau traddodiadol neu’r rheiny sy’n ceisio newid mewn gyrfa, ar gyfer astudio yn y brifysgol. Mae’n gwrs dwys ond meithriniol lle mae staff addysgu’n deall anghenion myfyrwyr hŷn ac yn eu helpu i baratoi ar gyfer eu cam nesaf.
Gall Mynediad fod y cam cyntaf wrth droi eich bywyd a’ch gyrfa o gwmpas.
Ein Cyrsiau.
Cwrdd a’r tîm.
-
“Rwyf wedi bod yn addysgu ar ôl ennill fy ngradd mewn Mathemateg, cyn hynny roeddwn yn dysgu gweithgareddau awyr agored. Fel rhywun a aeth i’r Brifysgol fel myfyriwr aeddfed, rwy’n gyffrous am y cyfleoedd y gall y diploma mynediad eu hagor mewn addysg.”
-
“Cyn addysgu roeddwn yn gweithio i’r elusen ryngwladol Oxfam fel Cydlynydd Logisteg, trefnais symud pobl, dŵr a chyfarpar iechyd i argyfyngau ledled y byd. Erbyn hyn rwyf yn dysgu Daearyddiaeth Safon Uwch a Mynediad i’r Dyniaethau. Rwyf wedi dysgu Daearyddiaeth am y 24 mlynedd diwethaf.
“Rwyf wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau academaidd ymhellach. Hoffwn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil, llythrennedd, cyfathrebu, cyflwyno a rhifedd. Helpu myfyrwyr i fagu eu hyder wrth baratoi i astudio yn y brifysgol yw pwrpas canolog fy rôl.”
-
“Ar ôl graddio gyda Gradd yn y Gyfraith, dechreuais yn y proffesiwn cyfreithiol a gweithio mewn cwmni lleol cyn mynd ati i newid gyrfa. Rwyf bellach wedi gweithio ym maes Addysg Bellach ers dros 25 mlynedd yn darlithio yn y Gyfraith ar Safon Uwch. Yn y cyfnod hwnnw, rwyf hefyd wedi addysgu ar gyrsiau Mynediad amrywiol ar ôl bod yn rolau’r Tiwtor Personol, Cydlynydd y Cwrs a nawr y Tiwtor Academaidd. Rwyf hefyd yn gweithio fel Safonwr Allanol Agored Cymru, y bwrdd arholi sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am gyrsiau Mynediad yng Nghymru.
“Does dim byd mwy boddhaol na gweld oedolion sy’n cyrraedd ar gwrs Mynediad, weithiau gydag ychydig neu ddim hyder, yn ymrwymo i astudio mewn ymgais i wella eu hunain a’u teuluoedd, a symud ymlaen i gam nesaf eu taith boed hynny i addysg uwch neu newid mewn gyrfa. Mae cyrsiau mynediad wir yn newid bywydau pobl.”
-
“Fe wnes i hyfforddi fel nyrs oedolion yn 2014. Rydw i wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau fel trawma, meddygaeth, y gwasanaeth carchardai a nyrsio cymunedol. Deuthum yn nyrs arbenigol yn 2016 ond penderfynais ddod yn ddarlithydd yn 2022. Rwy’n dal i ymarfer fel nyrs mewn gofal acíwt ac yn ei fwynhau’n fawr.”
“Rwy’n hynod frwd dros baratoi pobl ar gyfer y realiti a’r yrfa anhygoel a all fod mewn gofal iechyd. Rwy’n eiriolwr cryf dros ofal tosturiol ac urddasol. Rwy’n gobeithio trosglwyddo fy ngwybodaeth glinigol mewn gofal iechyd i ddysgu o brofiad.”
“Mae mynediad i mi yn broses symlach i ganiatáu’r rheiny sy’n wirioneddol frwd ac o ddifrif am ofal iechyd i dderbyn y wybodaeth a’r paratoad sy’n ofynnol i gyflawni rôl mewn gofal iechyd. Petawn wedi bod mewn sefyllfa i gwblhau mynediad cyn fy ngradd byddai wedi newid fy safbwynt
ar y gwasanaeth iechyd yn gyfan gwbl. Byddai wedi fy ngalluogi i feithrin sgiliau a gwybodaeth mewn maes yr oeddwn, wrth edrych yn ôl, heb fod yn gwbl barod ar ei gyfer.”
-
“Rwyf wedi bod yn dysgu yng Ngholeg Sir Gâr am yr 16 mlynedd diwethaf. Rwyf wedi bod yn addysgu yn bennaf ar gyrsiau Safon Uwch a Mynediad ond hefyd wedi cael y pleser o weithio gyda rhai staff gwych mewn cyfadrannau eraill. Er mai yn y Cyfryngau mae fy ngradd, rwyf hefyd wedi ymwneud yn helaeth â chyflwyno sgiliau llythrennedd a chyfathrebu ar sgiliau hanfodol a chymhwyster bagloriaeth Cymru trwy gydol fy ngyrfa addysgol.”
“Mae mynediad yn gyfle i ddechrau eto. Gallaf ddweud yn onest, ar gyfer yr holl gymwysterau yr wyf wedi’u haddysgu ar hyd fy ngyrfa, nad oes yr un sy’n rhoi mwy o foddhad i mi’n bersonol na’r diplomâu Mynediad. Mae aberth a phenderfyniad yn chwarae rhan fawr i ddysgwr Mynediad. Does dim byd yn fy llenwi â mwy o falchder na gweld ein dysgwyr yn dod i’r diwedd (o’r hyn sy’n gwrs dwys iawn) ac yn cyflawni eu cyrchnodau i symud ymlaen i brifysgol a gwneud y newid hwnnw mewn bywyd nid yn unig iddyn nhw eu hunain, ond i’w teulu hefyd.”
Dywed Trina Smith mai un o’r penderfyniadau gorau a wnaeth hi oedd gwneud cais am gwrs mynediad i addysg uwch gan ei fod wedi rhoi’r hyder a’r sgiliau iddi hyfforddi ar gyfer gyrfa newydd fel nyrs iechyd meddwl.
Mae cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn darparu dechrau newydd a her newydd i’r rheiny sy’n cofrestru i fynd â’u taith addysgol a’u gyrfa i’r lefel nesaf.