Skip page header and navigation

Cyrsiau Herio

Os ydych chi’n 19 oed a hŷn ac nad oes gennych chi TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn mathemateg, gallwch chi gael mynediad i gyrsiau rhifedd am ddim trwy gynllun Lluosi er mwyn magu eich hyder gyda rhifau ac ennill cymhwyster.

Multiply hero image

Gall sgiliau rhifedd da agor cyfleoedd gwaith, arwain at gyflogau uwch, a’ch paratoi ar gyfer astudio pellach. Maen nhw hefyd yn helpu mewn bywyd bob dydd, megis helpu plant gyda gwaith cartref a chyllidebu arian.

Pam astudio gyda Herio?

01
Ariennir yn llawn ar gyfer unigolion cymwys
02
Ffyrdd eraill o ddysgu, sy'n addas ar gyfer pob lefel
03
Cefnogir trwy bob cam

UK Gov

Wedi Ariannu can llywodraeth y DU

Math and Testimonial

Math the mascot sticker
“Fe wnes i fwynhau’r diwrnod yn fawr iawn … roedd y cwrs rhifedd yn ddiddorol a gwnaeth i mi ddefnyddio celloedd fy ymennydd, yn hytrach na defnyddio cyfrifiannell.  A fyddai’n dderbyniol gwneud bwciad ar gyfer cwrs arall o’r fath?”
- A. Bushell

Gwybodaeth am y Cwrs

Sut all ein cyrsiau eich helpu chi?

Gall sgiliau rhifedd da agor cyfleoedd gwaith, arwain at gyflogau uwch, a’ch paratoi ar gyfer astudio pellach. Maen nhw hefyd yn helpu mewn bywyd bob dydd, megis helpu plant gyda gwaith cartref a chyllidebu arian.

Dysgwr Lluosi canol oed gyda sbectol yn cymryd rhan yn y cwrs eDdysgu Cyllidebu

Ble alla i fynychu cwrs?

Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rheiny sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.

Dysgwraig Lluosi â gwallt melyn yn torri darn o ffabrig gyda siswrn mewn dosbarth crefftau Lluosi

Archwilio Dysgu Ar-lein

Mae ein cyrsiau wythnosol ar-lein Lefel 2 yn dilyn amserlen strwythuredig gyda sesiynau byw wedi’u cynnal gan diwtoriaid mathemateg profiadol. Mae’r sesiynau hyn yn darparu profiad ystafell ddosbarth o gysur eich cartref. Mae maint grwpiau yn cael eu cadw’n fach er mwyn sicrhau sylw personol. Mae dosbarthiadau wedi’u trefnu yn ystod y dydd, gyda’r nos, a’r penwythnosau i ddarparu ar gyfer eich ffordd o fyw prysur.

Mae Coleg Sir Gâr wedi ymrwymo i wneud addysg yn hygyrch a chyfleus i bawb. P’un a ydych chi am wella eich sgiliau rhifedd, rheoli eich cyllid yn well, neu gael cymhwyster ffurfiol, mae ein dewisiadau dysgu ar-lein wedi’u cynllunio i weithio o’ch cwmpas chi.

Eicon cloc glas

Dysgu Hyblyg
Astudiwch ar eich cyflymder eich hun gyda chyrsiau eDdysgu sydd ar gael 24/7.

eicon cymorth glas

Cymorth Arbenigol
Byddwch yn cael arweiniad a chefnogaeth gan diwtoriaid profiadol ac arbenigwyr cyllidebu.

eicon clipfwrdd glas yn dangos rhestr

Cynigion Cwrs Cynhwysfawr
O sgiliau rhifedd i gynllunio ariannol, mae ein cyrsiau’n cwmpasu ystod eang o bynciau hanfodol.s.

Mae ein cyrsiau wythnosol ar-lein Lefel 2 yn dilyn amserlen strwythuredig gyda sesiynau byw wedi’u cynnal gan diwtoriaid mathemateg profiadol. Mae’r sesiynau hyn yn darparu profiad ystafell ddosbarth o gysur eich cartref. Mae maint grwpiau yn cael eu cadw’n fach er mwyn sicrhau sylw personol. Mae dosbarthiadau wedi’u trefnu yn ystod y dydd, gyda’r nos, a’r penwythnosau i ddarparu ar gyfer eich ffordd o fyw prysur.

Mae ein cyrsiau eDdysgu yn caniatáu i chi astudio ar eich cyflymder eich hun, unrhyw bryd ac unrhyw le. Bydd gennych chi fynediad at diwtor y gellir ei anfon e-bost ato/ati unrhyw adeg a bydd yn ymateb o fewn un diwrnod gwaith.

Pa gyrsiau sydd ar gael?

Trosiadau, Degolion, Fformiwlâu, Ffracsiynau, Cymedr, Modd, Canolrif ac Amrediad, Mesurau, Arian, Canrannau, Perimedr, Gwerth Lle, Cyflwyno Data, Tebygolrwydd„ Cymhareb, Graddfa a Gwerth, Talgrynnu ac Amcangyfrif, Siapiau, Amser

Ar ôl cwblhau pob cwrs yn llwyddiannus, fe’ch gwahoddir i ymuno â ni am ddiwrnod asesu er mwyn cael Cymhwyster Lefel 2 ffurfiol mewn lleoliad cymunedol yn agos atoch chi.

Herio i Gyflogwyr

Gwella eich Anghenion Hyfforddi gyda Choleg Sir Gâr

Yng Ngholeg Sir Gâr, mae ein tîm Multiply yn ymroddedig i helpu cyflogwyr i ddatblygu eu gweithlu, gan weithio o gwmpas eich anghenion busnes penodol a’ch amserlenni prysur. Rydym ni’n cynnig sesiynau wedi’u teilwra sy’n canolbwyntio ar eich gofynion eich hun, er mwyn sicrhau bod eich gweithwyr yn ennill sgiliau gwerthfawr sy’n berthnasol i’w rolau.

Ymunwch â ni a chychwyn ar daith i wella eich sgiliau rhifedd.

Am ragor o wybodaeth, mae croeso i chi anfon e-bost i: multiply@colegsirgar.ac.uk

Dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Instagram
X
LinkedIn
Facebook

logo Coleg Sir Gâr
logo Addysg Oedolion Cymru
logo cyngor sir caerfyrddin