Astudio TGAU yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Yn y byd cystadleuol sydd ohoni heddiw, mae bod â sylfaen addysgol gadarn yn bwysig. Ar gwrs TGAU yng Ngholeg Sir Gâr a Cheredigion, byddwch yn ennill yr holl wybodaeth a sgiliau angenrheidiol i’ch paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Mae ein staff addysgu cyfeillgar a brwdfrydig yn deall nad yw addysg yn ymwneud yn hollol â gwerslyfrau a phrofion. Maen nhw’n mabwysiadu dull creadigol, nad yw’n teimlo fel ysgol o gwbl mewn gwirionedd.
Mae ein cyrsiau TGAU wedi’u teilwra i sicrhau tra rydych yn adeiladu eich hyder academaidd, byddwch chi hefyd yn hogi eich meddwl beirniadol, eich gallu i ddatrys problemau, a’ch sgiliau cyfathrebu, gan eich paratoi ar gyfer llwyddiant ym mhob agwedd ar addysg bellach a bywyd gwaith.
Felly os ydych yn awyddus i baratoi eich hun ar gyfer dyfodol disglair, dewch i ymweld â ni mewn diwrnod agored, llenwch eich cais, a gadewch i ni adeiladu’r sylfaen ar gyfer llwyddiant gyda’n gilydd.
Pam astudio TGAU gyda ni?
Past Students

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…
- Astudio cyrsiau TAR a dod yn athrawon.
- Cwblhau Graddau Meistr mewn Seicoleg.
- Gweithio fel parafeddygon.
Newyddion cysylltiedig...
Penderfynodd myfyriwr Coleg Ceredigion Joshua Taylorson ailsefyll ei arholiadau TGAU mewn mathemateg a Saesneg er mwyn helpu datblygu ei gyfleoedd gyrfaol o fewn Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mae Coleg Sir Gâr wedi croesawu aelod newydd o staff sydd eisoes ar flaen y gad addysgol gyda'i gwaith ymgyrchu ysbrydoledig a gwobrwyedig.
