Celf a Dylunio Lefel 2 (Cwrs Coleg)
- Campws Pibwrlwyd
Sianelwch eich brwdfrydedd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad personol a chreadigol.
Mae’r cwrs celf a dylunio lefel dau hwn gan Gorff Dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ymestyn eu profiad o gelf, dylunio a chyfryngau, a datblygu eu gallu a’u hyder.
Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i ddiploma lefel tri mewn celf a dylunio, er gall eraill ddewis llwybrau astudio pellach amgen neu waith llawn amser.
Byddwch yn creu eich gwaith eich hun ac yn archwilio ystod o brosesau newydd, megis gweithio gyda phatrymau arwyneb, pren, cerameg, metelau, print, ffotograffiaeth a chyfryngau digidol. Bydd yna gyfleoedd i chi ymdaflu i luniadu, gwneud marciau a dod o hyd i ffyrdd i gofnodi, deall a chyfleu’r byd o’ch cwmpas.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Elfen ganolog o’r cwrs yw datrys problemau wrth weithio drwy dasgau llawn hwyl, cymryd risgiau a datblygu syniadau newydd. Bydd prosiectau ysgogol ac ymestynnol yn eich herio i feddwl ynghylch sut a pham rydych chi’n gwneud gwaith celf.
Bydd trafodaethau stiwdio a llyfrgell gyda’ch tiwtoriaid a’ch cymheiriaid yn rhoi cyfle i chi edrych ar waith artistiaid a dylunwyr eraill, a fydd yn ei dro yn rhoi’r hyder i chi siarad am eich gwaith eich hun.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys wyth uned sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau celf, dylunio a chrefft, gan gynnwys gwaith 2D, 3D a gwaith seiliedig ar amser, ymchwil, ymwybyddiaeth gyd-destunol, sgiliau datblygiad creadigol a sgiliau dilyniant.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a Sgiliau cyflogadwyedd.
Byddwch yn cael digonedd o gymorth wrth ddod o hyd i ffyrdd newydd i ymchwilio ac ymholi a bydd eich holl brofiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddarganfod eich cryfderau creadigol.
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch fel y rhaglen Celf a Dylunio lefel tri a bydd y cwrs yn rhoi’r sgiliau i chi a all arwain at hyfforddiant mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau.
Caiff pob uned ei hasesu’n fewnol a’i dilysu’n fewnol ac eithrio’r prosiect mawr terfynol, sy’n cael ei gymedroli’n allanol gan y Corff Dyfarnu, Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL).
Asesir pob uned ar waith portffolio’r myfyriwr.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf, crefft a dylunio i’w cyfweliad. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs lefel dau feddu ar bedwar TGAU graddau A* - D gyda dwy radd C, un naill ai’n Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.
Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt hyd yn hyn y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae yna ffi stiwdio o £150 ar gyfer y cwrs hwn a fydd yn darparu deunyddiau sylfaenol i chi ddatblygu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a’n cyfleusterau stiwdio.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.