Skip page header and navigation

Cyflwyniad i Greadigrwydd Digidol (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
5.30pm i 8.30pm, 3 awr bob dosbarth, un noson x 10 wythnos = cyfanswm o 30 awr

Bydd y cwrs digidol newydd cyffrous hwn yn caniatáu i chi ddysgu’r sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol i greu celf ddigidol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
5.30pm i 8.30pm, 3 awr bob dosbarth, un noson x 10 wythnos = cyfanswm o 30 awr

£100

Disgrifiad o'r Rhaglen

Gan ddefnyddio cyfarpar a meddalwedd safonol y diwydiant, dangosir i chi sut i ddefnyddio tabledi lluniadu i greu tirluniau peintiedig hardd, dysgu sut i greu ymddangosiad o wahanol ddeunyddiau, golygu ffotograffau i greu collages digidol a hyd yn oed ychydig o gerflunio clai - ond yn ddigidol. 

Mae’r holl sgiliau hyn yn drosglwyddadwy i’ch hoff ddisgyblaethau artistig e.e. peintio, lluniadu, printio, tecstilau, cerflunio, cerameg, gemwaith, ffasiwn, celf gysyniadol a 3D.

Tua diwedd y cwrs gyda chefnogaeth eich tiwtor, cewch y cyfle i greu celfyddydwaith unigryw gan ddefnyddio’r sgiliau hyn. 

Os oeddech chi dan 19 oed ar 1af Medi 2023 y gost fydd £25 yn unig.

Caiff deunyddiau sylfaenol eu darparu ond bydd eich tiwtor yn dweud wrthych am unrhyw ddeunyddiau ychwanegol y bydd angen i chi eu prynu eich hunan.

Mae lleoedd yn gyfyngedig ar bob cwrs er mwyn caniatáu digon o hyfforddiant un i un. Os yw cwrs yn llawn pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn a rhoddir gwybod i chi pan ddaw lle ar gael.

Caiff yr holl leoedd eu harchebu ar sail ‘cyntaf i’r felin’.

Cysylltwch â susan.hayward@colegsirgar.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr.

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau