Skip page header and navigation

Introduction

Mae gweithio allan sut y byddwch chi’n eich cynnal eich hun yn ariannol yn ystod eich amser yn y coleg yn rhywbeth yr ydym yn eich annog i wneud cyn gynted â phosibl. 

Mae yna nifer o grantiau, benthyciadau a chronfeydd ar gael ar gyfer myfyrwyr yn dibynnu ar ba gwrs maen nhw’n astudio.  Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer pob un ohonynt ac yn anffodus efallai na fydd rhai dysgwyr yn gymwys i dderbyn unrhyw un.

Fel arfer, gallwch ddechrau gwneud cais am eich cyllid myfyriwr yn y mis Ebrill cyn i chi ddechrau, ond gallwch chi ddal i wneud cais bron hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae gennym dîm cyfeillgar o Swyddogion Lles ar gael i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr holl arian sydd ar gael i chi. 

I gael cymorth ariannol neu gyngor, ymwelwch â’r Tîm Lles ar eich campws neu drwy e-bostio:

financialsupport@colegsirgar.ac.uk

financialsupportcc@ceredigion.ac.uk

O fewn addysg bellach, mae tri phrif fath o gyllid ar gael. Mae dau drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) ac un yn uniongyrchol drwy’r coleg.

Lwfans Cynnal Addysg (EMA)

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) yn darparu’r Lwfans Cynnal Addysg (EMA) ar gyfer myfyrwyr 16-18 oed a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) ar gyfer myfyrwyr 19+ oed. Mae gennym ddigon o ffurflenni cais ar gyfer y rhain yn swyddfeydd ein Tîm Lles ac yn y swyddfeydd campws, ac mae croeso i chi ddod a chasglu un gennym.

Gronfa Ariannol Wrth Gefn

Y cyllid arall sydd ar gael yw trwy Gronfa Ariannol Wrth Gefn y coleg (FCF).  Mae’r gronfa hon yn benodol ar gyfer myfyrwyr sydd â hawl i un o’r cynlluniau Cyllid Myfyrwyr Cymru a restrir uchod a gall helpu gyda chost cyfarpar hanfodol, costau gofal plant, DBS, ffi stiwdio, teithio (os na fedrwch gael mynediad i wasanaeth cludiant y coleg) a chostau byw cyffredinol. 

Gallwch chi wneud cais am hyn drwy Google classroom pwrpasol, y mae’r codau ar gyfer hyn ar gael oddi wrth y Tîm Lles.

Cofiwch, os ydych chi (neu eich rhieni/gwarcheidwaid os yn berthnasol) angen unrhyw gyngor ac arweiniad, help gyda llanw neu wirio ffurflenni cyn eu cyflwyno, mae’r Swyddogion Lles yn barod i helpu. Rydym am wneud yn siŵr eich bod yn cael mynediad i’r holl gymorth ariannol sydd ar gael i chi. 

Cyllid Cyfrif Dysgu Personol (PLA)

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg ac i weithio o amgylch anghenion busnes a chyflogaeth, y nod yw uwchsgilio’r gweithlu mewn meysydd y nodwyd bod eu hangen yn rhanbarthol.

Os ydych yn 19 oed neu’n hŷn, yn byw yng Nghymru ac mae unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi, yna gallwch fod yn gymwys: 

  • Ennill llai na £30,596 y flwyddyn;
  • Gweithio ar gontract dim oriau;
  • Gweithio i asiantaeth;
  • Gofalwr llawn amser;
  • Troseddwr wedi’i ryddhau am y dydd;
  • Mae’r cwrs rydych chi am wneud wedi’i eithrio o’r cap cyflog h.y. digidol neu sero net.

Ni allwch gael PLA os nad ydych yn bodloni un o’r meini prawf hyn, os ydych mewn addysg lawn amser, yn ymgymryd â rhaglen brentisiaeth neu’n ddi-waith ar hyn o bryd. Gallwch gysylltu â ni o hyd i gael cyngor ynglŷn â pha gyllid arall sydd ar gael ar bdi@colegsirgar.ac.uk

Cyllid ReAct 

Os cawsoch eich gwneud yn ddi-waith neu eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth wedi’i deilwra er mwyn eich helpu i gael cyflogaeth, cyn gynted â phosibl.

Gall cymorth ReAct+ hefyd gynnwys help gyda chostau gofal plant/gofalu pan fyddwch yn hyfforddi, mentora a phrofiad gwaith a chostau eraill sy’n helpu i ddileu rhwystrau i gyflogaeth. I gael mwy o gyngor ynglŷn â hyn cysylltwch â rhaglen Cymru’n Gweithio neu ffoniwch nhw’n rhad ac am ddim ar 0800 028 4844.

  • Hyd at £1,500 i’ch helpu i gael y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnoch - Grant Hyfforddiant Galwedigaethol;
  • Hyd at £4,550 i helpu talu costau gofal plant/gofal pan fyddwch chi’n hyfforddi;
  • Hyd at £500 o gymorth datblygu personol i helpu dileu rhwystrau i gyflogaeth - Cymorth Datblygu Personol;
  • Mentora a phrofiad gwaith;
  • Hyd at £300 o gymorth ar ben hynny tuag at gostau ychwanegol pan fyddwch chi’n hyfforddi, gan gynnwys teithio a llety.

Cymhwysedd ReAct+

Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth ReAct+ mae’n rhaid eich bod yn 18 oed neu’n hŷn, yn byw yng Nghymru, gyda hawl i fyw a gweithio yn y DU, ac yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:

  • Wedi cael hysbysiad colli swydd ffurfiol;
  • Wedi colli swydd neu ddod yn ddi-waith o fewn y 12 mis diwethaf;
  • Bod rhwng 18 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
  • Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i hyd at £1500 i’ch helpu i gael y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnoch. 
  • Rhowch gipolwg ar y cyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Sir Gâr/Coleg Ceredigion a hefyd am rai astudiaethau achos gwych hyd yn hyn.

Ddim yn gymwys?

Gallwch gysylltu â ni o hyd i gael cyngor ynglŷn â pha gyllid a hyfforddiant arall sydd ar gael yn bdi@colegsirgar.ac.uk

Rydyn ni’n gwybod bod cyllid yn achos pryder mawr i fyfyrwr ac rydyn ni’n deall bod gwahanol anghenion ac amgylchiadau gan bawb. Mae yna gyfleoedd ariannu mewnol ac allanol ar gael gan gynnwys y Lwfans Cynnal Addysg, Grant Dysgu’r Cynulliad a’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, a gall ein tîm o ymgynghorwyr eich helpu gyda’r rhain.

Mae angen i fyfyrwyr presennol gysylltu â’u tiwtor neu swyddfa gampws i’w cyfeirio at ymgynghorydd neu fel arall, gysylltu â’r tîm ar 01554 748036 / 748102 neu ar e-bost financialsupport@colegsirgar.ac.uk i wneud ymholiadau pellach.

DOLENNI DEFNYDDIOL

Cyllid Myfyrwyr Cymru

NUS