Skip page header and navigation

Clwb Sadwrn Celf, Dylunio a Ffasiwn (Cwrs Coleg)

  • Campws Y Graig
1 Flwyddyn

Mae’r Clwb Sadwrn Celf, Dylunio a Ffasiwn hwn yn rhaglen gyffrous, werth chweil a ledled y wlad a gyflwynir yma yng Ngholeg Sir Gâr, sy’n rhad ac am ddim i bob dysgwr 13 - 16 oed.

Byddwch yn cael y cyfle, yr arweiniad a’r gefnogaeth i arbrofi â phob peth creadigol. Darperir yr holl gyfleusterau, deunyddiau a chyfarpar i aelodau’r clybiau eu defnyddio ac i archwilio â nhw. Dyma gyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd ac i herio eich meddwl creadigol a’ch gallu i ddatrys problemau drwy raglen greadigol amrywiol a deinamig.

Mae gweithio gydag unigolion creadigol eraill yn caniatáu cyfle i gydweithio a dysgu oddi wrth eich gilydd ond hefyd i feithrin cyfeillgarwch.

I wneud cais, e-bostiwch:
tuesday.howells@colegsirgar.ac.uk

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae rhaglen y Clwb Sadwrn yn cynnwys gweithdai am 30 wythnos wedi’u lleoli ar gampws y Graig, dosbarth meistr gydag unigolyn blaenllaw’r diwydiant, cyflwyno gwaith ar gyfer ein harddangosfa ddigidol flynyddol, ymweliad â Llundain ar gyfer ein graddio a golwg breifat ar ein harddangosfa ffisegol a gynhelir yn Nhŷ Somerset!

Cawn ein cefnogi â balchder gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Ymgyrraedd yn Ehangach a’r Adran Addysg. Mewn partneriaeth â Sefydliad Cyngor Ffasiwn Prydain, Sefydliad Ffasiwn Prydain a Chatham House.

Mae’r clwb yn agor llwybrau ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau creadigol ac mae llawer o’n haelodau yn gwneud cais am ein cyrsiau Celf a Dylunio yn y coleg yn y blynyddoedd dilynol.   Ein ffocws yw galluogi ein pobl ifanc i brofi a datblygu eu sgiliau a’u diddordebau, yn ogystal â datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cydweithio,  annibyniaeth, sgiliau cymdeithasol, cyfathrebu, meddwl yn greadigol a datrys problemau.

Hefyd gall dysgwyr ddefnyddio’r gwaith a gynhyrchir yn y Clwb Sadwrn i ategu pynciau TGAU lle bo’n briodol.

Does dim gofynion mynediad nac unrhyw angen am gefndir creadigol. Y cyfan yr ydym yn ei ofyn yw eich bod yn dod ag awydd i gael hwyl, ennill sgiliau creadigol a pharodrwydd i ymuno lle y gallwch!

I wneud cais, e-bostiwch:
tuesday.howells@colegsirgar.ac.uk

Saturday Club Instagram
National Saturday Club Website

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau