Skip page header and navigation

Campws Ffynnon Job

Campws Ffynnon Job

Introduction

Campws Heol Ffynnon Job yw prif gampws y coleg ar gyfer celf a dylunio a dyma gartref Ysgol Gelf Caerfyrddin. Mae gan yr Ysgol hanes sy’n dyddio nôl i 1854. Mae’r campws yn gyfleuster celf a godwyd yn benodol i’r pwrpas ac felly mae ganddo awyrgylch ysgol gelf unigryw a chyfeillgar, sydd wedi’i neilltuo i weithgareddau celf a dylunio.

Lleolir y campws drws nesaf i gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ac mae’n rhannu adnoddau gyda’r brifysgol. Mae’r campws yn darparu ystod eang o gyfleusterau i’r myfyrwyr ar gyfer gweithgareddau megis cerfio carreg, gofannu a chastio metel, cerfio pren, cerameg, tecstilau, ffasiwn, peintio a lluniadu, ffotograffiaeth, graffeg a darlunio digidol.

Ceir cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer gwaith celf a dylunio â chymorth cyfrifiadur; gwehyddu â gwŷdd jacquard; weldio â laser a ffasno gwisgoedd ffasiwn/tecstilau; a thorri â laser. Mae’r campws hefyd yn gartref i Oriel Henry Thomas, a ddefnyddir ar gyfer arddangosfeydd gan y myfyrwyr ac arddangosfeydd cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn, ac sydd yn arbennig yn un o leoliadau’r gyfadran ar gyfer arddangosfeydd diwedd blwyddyn y myfyrwyr sydd ar raddfa fawr. Gall myfyrwyr hefyd weithio y tu allan ac ar dir y campws lle caiff cerfluniau pren, maen a dur eu harddangos yn ogystal â darnau o waith sydd ar y gweill, sy’n ei wneud yn lle cyffrous a chreadigol i astudio ynddo.

books in a row

Dod o hyd i gwrs ar Gampws Ffynnon Job

Cyfeiriad Campws

Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
SA31 3HY 
01554 748000