Skip page header and navigation
Laura Thomas stood in gallery in front of her artwork

Mae Laura Thomas, artist sefydledig tecstilau wedi’u gwehyddu a darlithydd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, wedi ennill aur yn Eisteddfod genedlaethol 2024. 

Cyflwynodd Laura chwe darn o waith i’r dewiswyr eu hystyried yn ystod y gystadleuaeth crefft a chelf a arddangoswyd yn ‘y lle celf’ yn ystod yr Eisteddfod yn Pontypridd. Mae’r casgliad yn dathlu prydferthwch edafedd yn ei ffurf fwyaf pur; ei hanfod a’r trosiadau mae’n grisialu. 

Meddai Laura am ei gwaith: “Cafodd y gweithiau celf a wehyddwyd â llaw eu creu’n reddfol ac fe’u bwriadwyd i gyflwyno myfyrdod gweledol, tawel; adwaith yn erbyn anhrefn ac ansicrwydd y cyfnod diweddar.

“Mae yna rythmau esmwyth, cipolwg tu hwnt i’r arwyneb a thecstilau atgofus i gipio ein chwilfrydedd a llorio meddyliau prysur.”

Fe wnaeth un o ddewiswyr yr arddangosfa agored, Cecile Johnson Soliz, ddisgrifio gwaith Laura fel “gwrthrychau syfrdanol o hardd.” 

Datblygodd Laura ddiddordeb angerddol ar gyfer tecstilau, yn gyntaf wrth ymgymryd â Chwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 1994-95.

Yna aeth ymlaen  i arbenigo mewn gwehyddu yn ystod ei gradd ffasiwn/tecstilau ym mhrifysgol dinas Birmingham lle enillodd radd dosbarth cyntaf . Mae gan Laura radd BA, gradd MA o’r coleg celf brenhinol a dwy gymrodoriaeth ymchwil i’w henw.

Yn 2004 sefydlodd Laura ei phractis stiwdio yn Ne Cymru ac mae wedi gweithio ar ystod amrywiol o brosiectau yn ymestyn dros gelf gyhoeddus,  gwaith dylunio tecstilau masnachol, curadu, cyfnodau artist preswyl a chreu gwaith ar gyfer arddangosfeydd.

Mae gwaith Laura yn cael ei arddangos mewn casgliad parhaol yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nrefach Felindre, Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain, Amgueddfa Powerhouse  yn Sydney a llawer o gasgliadau preifat. 

Mae Laura wedi bod yn ddarlithydd rhan-amser y cwrs BA Tecstilau yn Ysgol Gelf Caerfyrddin ers 2004, ac mae hefyd wedi cyflwyno darlithoedd, gweithdai a phrosiectau curadurol o gwmpas y wlad.

Gwyliwch y casgliad wedi’i wehyddu/heb ei wehyddu yma: 

https://www.laurathomas.co.uk/wovenunwoven  

Laura's artwork 'cascade'
Laura's artwork 'glimpse'

Rhannwch yr eitem newyddion hon