Tystysgrif AU mewn Ffasiwn: Dylunio a Llunio (CertHE)
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Mae astudio ffasiwn yn daith gyffrous sy’n cynnwys archwilio’r byd dylunio, creadigrwydd, a’r tueddiadau sy’n datblygu’n barhaus mewn dillad a chyfwisgoedd.
Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sy’n cwmpasu blwyddyn gyntaf ein rhaglen radd. Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol mewn dylunio ffasiwn a’u dysgu.
Nod y rhaglen yw datblygu galluoedd a hyder myfyrwyr wrth ddylunio a llunio dillad trwy brofiad a phrosesau a arweinir gan ymarfer sy’n meithrin datblygiad hunaniaeth ddylunio unigol. Yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Mae’r cwrs yn aelod-goleg o’r Cyngor Ffasiwn Prydeinig nodedig sy’n rhoi mynediad i golegau a myfyrwyr i brosiectau uchel eu parch yn y diwydiant ac interniaethau.
Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Delweddu: Cysyniad a Phroses, Dylunio a Llunio Dillad, Datblygu Iaith Weledol, Ymarfer Digidol Creadigol (a ddefnyddir o fewn ffasiwn), Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.
Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os ydych yn dewis gwneud hynny.
Ar ôl cwblhau’r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) y swyddi sydd ar gael yw dylunio ffasiwn, darlunio ffasiwn, prynu ffasiwn, rhagweld gogwyddion ffasiwn, steilio, marsiandïaeth weledol, dylunio gwisgoedd ar gyfer ffilmiau/teledu, torri patrymau, technoleg dillad, cynorthwyydd samplo, athro/darlithydd ac astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD). Mae llwyddiant graddedigion yn uchel, gyda llawer o fyfyrwyr yn datblygu eu labeli ffasiwn eu hunain, tra bod eraill wedi dod o hyd i gyflogaeth yn dylunio mewn tai dylunio mwy neu yn y sector ffasiwn ehangach.
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.
Dylai myfyrwyr rhan-amser wneud cais drwy system ymgeisio’r coleg https://www.colegsirgar.ac.uk/index.php/en/application-form
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs.
Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.