BA (Anrh)Ffotograffiaeth (BA (Hons))
- Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
Mae’r rhaglen BA (Anrh) mewn Ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr, wedi ennill ei phlwyf. Fe’i cynlluniwyd i annog creadigrwydd a datblygu sgiliau ffotograffig yn seiliedig ar ddiddordebau unigol, tra’n defnyddio dulliau technegol a chysyniadol eang sy’n adlewyrchu datblygiadau a thueddiadau ymarfer ffotograffig cyfoes. Gan gyfuno technolegau newydd gydag arferion gweithio traddodiadol (digidol a ffotograffau arian), sy’n cael eu cefnogi gan raglen theori integredig, mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i weithio’n hyderus a phroffesiynol tra’n datblygu gyrfa mewn ffotograffiaeth.
Cefnogir dulliau myfyrwyr unigol gan ddarlithwyr; y mae eu hymarferion eu hunain yn cael eu llywio gan ystod eang o brofiadau gan gynnwys ffotograffaeth ddogfennol, golygyddol, ffasiwn, masnachol, ffotograffiaeth celfyddyd gain, cyhoeddi a chreu cynnwys. Mae ein hysgol yn darparu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol i fyfyrwyr archwilio eu hopsiynau a datblygu eu steil unigol a photensial. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail.
Yn allweddol i lwyddiant ein dysgwyr, rydym yn gweithio’n agos gyda’n myfyrwyr i ddatblygu eu meddwl beirniadol ac entrepreneuraidd, sy’n hanfodol ar gyfer cael gwaith yn y diwydiant ffotograffig. Mae’r rhaglen hon yn sicrhau bod graddedigion yn gadael gyda phortffolio proffesiynol eang, sy’n arddangos hunaniaeth bersonol, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy, gan wella cyfleoedd a chyflogadwyedd. Mae graddedigion diweddar wedi cael eu cydnabod mewn nifer o wobrau proffil uchel gan gynnwys The Taylor Wessing Award, Rankin, Bafta Cymru, Printspace Trajectory, Cymdeithas y Ffotograffwyr a Sefydliad Ffotograffiaeth y Byd; gyda chomisiynau’n cael eu darparu gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru / National Portrait Gallery / Y Senedd / The British Council / Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Ffotogallery, ymysg llawer o lwyddiannau eraill.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae gan y rhaglen adnoddau da gydag ystod o gamerâu proffesiynol, goleuadau stiwdio a goleuadau lleoliad ar gyfer ffotograffiaeth gyfoes. Mae ganddi adnoddau cyfrifiadurol pwrpasol sy’n gymesur â diwydiant, ar gyfer gwaith ystafell dywyll digidol proffesiynol a phrosesu delweddau creadigol, yn ogystal ag ystafell dywyll draddodiadol gyda dulliau gweithio analog, i adlewyrchu’r diddordeb newydd mewn ffotograffiaeth arian.
Gan ystyried ymarfer ffotograffiaeth proffesiynol yn cynnwys gwaith llawrydd a diwydiannau creadigol, cynlluniwyd ein rhaglen i roi cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio gwneud delweddau mynegiadol ar gyfer ymarfer celf, tra bod yn ymwybodol hefyd o’r potensial ehangach i gymdeithas o ddefnyddwyr amlgyfrwng sy’n troi o gwmpas y gweledol. Mae cynnwys modiwlau’n cwmpasu ystod eang o ddulliau ffotograffig, gan gynnig cyfleoedd i weithio ym maes ffotograffiaeth ddogfennol, ffasiwn, olygyddol a ffotograffiaeth celfyddyd gain, a thrwy hynny ennyn potensial galwedigaethol a chyflogadwyedd cynaliadwy.
Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.
Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso’r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy’n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.
Ffotograffydd Celfyddyd Gain, Ffotograffydd Ffasiwn, Ffotograffydd Dogfennol, Ffotonewyddiadurwr, Ffotograffydd Hysbysebu, Ffotograffydd Lluniau Llonydd ar gyfer ffilm a theledu, Ffotograffydd Bywyd Gwyllt / Tirwedd, athro/darlithydd, Astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD).
Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.
Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.
Gweithdrefnau dethol
Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein drwy UCAS, ein cod Sefydliad UCAS yw C22 a chod y cwrs yw W640. Gwneir cynigion yn seiliedig ar y cais UCAS, graddau disgwyliedig (os yw’n berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs. Oherwydd datblygu perthynas â chi o’r cychwyn cyntaf, mae ein cyfraddau tynnu’n ôl yn fach iawn. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.
Mae croeso i ymgeiswyr hŷn sydd â phrofiad blaenorol perthnasol ac fe’u hystyrir ar sail unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.
Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.
Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau.
Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion