Skip page header and navigation

Tystysgrif AU mewn Gemwaith (CertHE)

  • Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

Mae dylunio gemwaith yn broses greadigol gyffrous sy’n rhoi boddhad ac sy’n eich galluogi i gyfuno estheteg, crefftwaith, a mynegiant personol i greu darnau o waith celf unigryw y gellir eu gwisgo.

Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein Rhaglenni Gradd.  Bydd y cwrs yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy’n ofynnol yn eu pwnc dewisol a dysgu amdanynt. 

Yn ystod y flwyddyn astudio gyntaf, caiff myfyrwyr y cyfle i archwilio sgiliau ymarferol sy’n amrywio o ffurfio metel, ffabrigo, torri â laser, enamlo a chastio.  Ochr yn ochr â hyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithdai lluniadu a ystyrir yn hanfodol i ddatblygiad sgiliau dylunio ac arsylwi.  Byddant hefyd yn datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol fanwl a gwybodus am y maes gemwaith.     

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Rhan amser
Iaith:
  • Cymysg
Côd sefydliad:
C22
Côd UCAS:
CACJ
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn adnabyddus am ei hawyrgylch ‘deuluol’, a’i pholisi drws agored. Mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail. Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar grefft a sgil.  Byddwch yn cael eich man gwaith unigol eich hun a mynediad i weithdai cerameg a gemwaith pwrpasol. Mae’r rhain yn cynnwys mannau pwrpasol ar gyfer ffabrigo gemwaith, enamlo a chastio metel, torri â laser a thechnoleg argraffu decal metel o’r radd flaenaf.

Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os byddwch yn dewis gwneud hynny.

Ar ôl cwblhau’r radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) mae’r gyrfaoedd sydd ar gael yn cynnwys gemydd annibynnol, artist neu ddylunydd, dylunydd cyfwisgoedd, artist cymhwysol, addysgwr, curadur arddangosfeydd, prynwr adwerthu, gweinyddwr celfyddydau, gweithiwr celf cymunedol, therapydd celf, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), arloeswr ac ati.

Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Ymchwilio i Ddefnyddioldeb, Proses a Delweddu, Enamel, Ffurf ac Arwyneb, Datblygu Iaith Weledol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a’ch bod chi’n iawn ar gyfer y cwrs.

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau