Myfyrwyr celf a dylunio yn archwilio diwylliant a chreadigrwydd ym Merlin
Treuliodd bron i 30 o fyfyrwyr celf a dylunio o Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr dridiau ym Merlin yn archwilio diwylliant yr Almaen a phob dim creadigol.
Fe wnaeth y myfyrwyr ddarganfod bod gan Ferlin ystod amrywiol o weithiau celf a dylunio hanesyddol a chyfoes ar draws gwahanol arddangosfeydd ac amgueddfeydd lle rhoddwyd amser iddynt archwilio llawer o ddarnau a oedd yn cael eu harddangos.
Ymwelodd y grŵp ag orielau, amgueddfeydd ac ardaloedd hanesyddol fel Wal Berlin a Checkpoint Charlie, y man croesi enwocaf rhwng Dwyrain a Gorllewin Berlin.
Buont hefyd yn ymweld â safleoedd fel Cofebion yr Holocost ger Porth Brandenburg a siarad am effaith y digwyddiadau hyn ar gymunedau ehangach.
Meddai Amelia Kilvington, Pennaeth Adran Celf a Dylunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr: “Profodd ein myfyrwyr lefel tri, y bydd rhai ohonynt yn gwneud cais am le yn y brifysgol fel eu cam nesaf, rywfaint o ddiwylliant a hanes Berlin a hefyd ymweld â phrif leoliadau arddangos yn y ddinas.
“Cynhaliodd y myfyrwyr waith ymchwil a braslunio trwy gydol eu teithiau. Buont hefyd yn samplu bwydydd lleol ac yn llywio rhai o’r rhwydweithiau trafnidiaeth prysuraf yn Ewrop. Roedd yn daith gofiadwy i bawb a gymerodd ran.”


