Telerau, Amodau a Gwybodaeth Cyrsiau Byr Celf a Dylunio
Introduction
Diolch i chi am eich diddordeb yn ein cyrsiau byr mewn celf a dylunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr. Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhestru’r Telerau ac Amodau ar gyfer mynychu’r cyrsiau hyn, ynghyd â pheth gwybodaeth a ddylai ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin a dderbynnir gennym.
A wnewch chi ddarllen y manylion canlynol ac ymgyfarwyddo â nhw cyn archebu a thalu am le.
Cyrsiau:
Mae’r cyrsiau byr a gynigir ar hyn o bryd yn gyrsiau achrededig, mae hyn yn golygu eu bod yn un uned o gwrs Lefel 1, 2 neu 3. Byddwch yn gweithio i friff penodol i gyflawni canlyniad a chael eich gwaith wedi’i asesu gan eich tiwtor.
Ar gwblhau’n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif a roddir gan y corff dyfarnu.
I’r rheiny ohonoch sy’n anghyfarwydd â’r broses hon, peidiwch â phoeni. Nid oes angen unrhyw gymwysterau neu brofiad blaenorol arnoch ar gyfer gwneud cais, yr unig beth rydyn ni angen yw eich brwdfrydedd a’ch parodrwydd i roi cynnig arni! Mae maint y dosbarthiadau yn fach gan ganiatáu digon o sylw un-i-un. Mae cyrsiau yn addas ar gyfer dechreuwyr neu’r rheiny sydd am adnewyddu sgiliau presennol (oni bai y nodir fel arall), ac ar gyfer y rheiny sy’n un ar bymtheg oed neu’n hŷn.
DS. ar gyfer y dysgwyr hynny ym mlynyddoedd 10 ac 11 (TGAU) a grwpiau oedran blynyddoedd 12 a 13 (UG / Safon Uwch), rydyn ni yn cynnig rhaglen o ddosbarthiadau meistr celf a dylunio dan y Prosiect Criw Celf a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru; ar gyfer dysgwyr TGAU yr enw am hyn yw Portffolio, ac ar gyfer UG / Safon Uwch Codi’r Bar. Ar gyfer dysgwyr 13 i 16 oed ceir hefyd Glybiau Sadwrn Sefydliad Sorrell. Gellir dod o hyd i fanylion llawn y ddau gyfle i bobl ifanc yn y ddolen gyswllt ganlynol:- https://www.colegsirgar.ac.uk/index.php/en/saturday-clubs
Cynnwys y cwrs mae cynnwys y cwrs yn gywir adeg ei ryddhau. Rydym yn cadw’r hawl i newid unrhyw fanylion cwrs o fewn y rhaglen cyrsiau byr fel y bo angen. Os caiff unrhyw newidiadau eu gwneud, rhoddir gwybod i ymgeiswyr trwy e-bost cyn gynted â phosibl.
-
Bydd yr holl gyrsiau byr celf a dylunio yn cael eu cynnal yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr, Campws Heol Ffynnon Job, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin. SA31 3HY ffôn. 01554 748 201.
-
Defnyddir y rhestr bostio yn unig at ddiben rhoi gwybod i chi am ein rhaglen cyrsiau byr, digwyddiadau, arddangosfeydd, nosweithiau /diwrnodau agored yma yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, ac ni chaiff ei rhannu gydag unrhyw bartïon eraill.
Os nad ydych chi bellach am dderbyn y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen ar waelod un o’r negeseuon e-bost hyn i dynnu eich hun oddi ar y rhestr, e-bostiwch susan.hayward@colegsirgar.ac.uk neu ffoniwch Swyddfa’r Campws 01554 748 201 a bydd eich manylion cyswllt yn cael eu dileu pan dderbynnir y cais
-
Anfonwch e-bost at susan.hayward@colegsirgar.ac.uk neu ffoniwch Swyddfa’r Campws 01554 748 201 gan nodi ar ba gwrs/gyrsiau rydych yn dymuno cofrestru. Ychwanegir eich enw a’ch manylion cyswllt at y ffurflen archebu. Yn ychwanegol i’ch enw, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhifau ffôn symudol/cartref, rhowch eich cyfeiriad gan gynnwys y cod post.
D.S. Er mwyn i’r cyrsiau hyn fynd yn eu blaen, maen nhw’n amodol ar gyflawni’r nifer lleiaf o gyfranogwyr i gyflenwi’r costau rhedeg. Mae lleoedd yn gyfyngedig i’r nifer mwyaf a nodir yn nisgrifiad pob cwrs, a chânt eu dosrannu ar sail ‘cyntaf i’r felin’. Ni fydd eich lle ar y cwrs yn sicr nes y derbynnir y tâl llawn yn swyddfa’r campws.
D.S. Ni allwch ail-wneud cwrs os mai’r un Uned gan y corff dyfarnu a ddysgwyd yn flaenorol ydyw, ac rydych eisoes wedi’i chwblhau’n llwyddiannus
-
Os byddwch yn gwneud cais am le ar gwrs sydd wedi’i ordanysgrifio, cewch eich hysbysu ac ychwanegir eich enw at y rhestr wrth gefn. Os daw lle ar gael, caiff ei gynnig i’r person cyntaf ar y rhestr, os nad ydynt yn gallu derbyn y lle, caiff ei gynnig i’r ail berson ar y rhestr, ac yn y blaen. Fel arfer caiff cyrsiau poblogaidd eu cynnig eto ar ddyddiad yn y dyfodol.
-
Talwch dros y ffôn (01554 748 201) yn ystod yr oriau 9am i 4pm ddydd Llun i ddydd Gwener. Gellir gwneud taliad trwy gerdyn credyd/debyd, neu siec yn daladwy i Goleg Sir Gâr (postiwch i:- Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr, Campws Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin SA31 3HY - atodwch nodyn yn dweud am ba gwrs rydych chi’n talu. Gofynnir i chi dalu cost lawn y cwrs pan geir cadarnhad fod y nifer lleiaf o gyfranogwyr wedi’i gyflawni, a chewch eich hysbysu ynghylch hyn trwy e-bost. Y terfyn amser ar gyfer talu fydd y dydd Mercher cyn i’ch cwrs ddechrau
-
Ffioedd ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/2024 bydd y ffioedd fel a ganlyn:
- Myfyrwyr 16 i dan 19 oed ar 1 Medi 2023 oed, £25.00 y cwrs, bydd prawf o’ch oedran yn ofynnol adeg cofrestru.
- Ar gyfer pob myfyriwr arall y ffioedd fydd £90.00 y cwrs
-
Mae ein holl gyrsiau byr celf a dylunio yn gyrsiau achrededig sy’n disgyn o fewn y strwythur ffioedd cwrs cydnabyddedig cenedlaethol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ffioedd hyn eisoes yn isel a chost-effeithiol gan ganiatáu cyfle i’n cymunedau lleol ac ehangach gyfranogi. Yn anffodus, ni allwn gynnig consesiynau.
-
Yn gyffredinol, mae’n flin gennym nad ydym yn gallu cynnig ad-daliadau am gwrs rydych chi wedi ei ddechrau eisoes. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, byddai’r coleg (Coleg Sir Gâr) yn ystyried ad-daliad. Bydd ad-daliadau am unrhyw reswm fel y gwêl y coleg yn ddoeth, a bydd penderfyniad y coleg yn derfynol.
-
Pan fyddwch wedi cael eich hysbysu bod y cwrs yn mynd yn ei flaen, cewch wybod pryd bydd cofrestru’n digwydd cyn dechrau eich cwrs. Pe byddech yn gallu neilltuo tuag awr ar gyfer hyn, byddai hynny’n ddelfrydol. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gofrestru a holiadur iechyd (gweler y nodiadau isod ynghylch hyn) a hefyd gwneud taliad os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod.
Noder - Ni fyddwch yn gallu dechrau eich cwrs oni bai eich bod wedi cofrestru a thalu.
Mynychu Cwrs:
-
Cewch eich addysgu gan diwtoriaid gwybodus, arbenigol mewn gweithdai â chyfleusterau pwrpasol.
-
Gwisgwch ddillad ‘gwaith’ (dillad nad oes ots gennych eu bod yn trochi/ neu’n cael paent/inc na fydd yn golchi allan), ac esgidiau call/cysurus â blaenau caeedig iddynt.
Os oes gennych wallt hir, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu ei glymu nôl os oes angen. Os ydych yn gwisgo sgarff hir neu fwclis, gofynnir i chi eu tynnu yn y gweithdy pan fyddwch yn defnyddio peiriannau (e.e. olwyn crochenydd) er eich diogelwch eich hun.
Efallai bydd rhai cyrsiau yn gofyn eich bod yn gwisgo ffedog (gallai hyn fod yn ffedog gegin) neu oferôls (nodir hyn yn nisgrifiad y cwrs), mae cotwm 100% yn ddelfrydol.
-
Nid yw’r coleg yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i eitemau personol o eiddo’r myfyrwyr/ymwelwyr maen nhw’n dod â nhw i’r campws.
-
Darperir cyfarpar arbenigol a deunyddiau sylfaenol. Os yw’n ofynnol i chi gyflenwi offer/deunyddiau ychwanegol, nodir hyn yn nisgrifiad y cwrs.Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol i ddod â’ch llyfr nodiadau/llyfr braslunio eich hun gyda chi ar gyfer cymryd nodiadau a datblygu syniadau
-
Os ydych rhwng 16 a 18 oed bydd arnom angen caniatâd ysgrifenedig rhiant/gwarcheidwad; efallai gofynnir am brawf o’ch oedran adeg cofrestru, felly dewch â phrawf adnabod ffurfiol gyda chi.
Yn ystod sesiynau addysgu, dim ond oddi wrth y tiwtor bydd modelau lluniadu’r byw yn derbyn cyfarwyddiadau.Ni chaniateir ffotograffiaeth yn yr ystafell lluniadu’r byw.
Os ydych yn cyrraedd yn hwyr i’r dosbarth, curwch ar y drws ac arhoswch i gael eich gadael i mewn tra bod y dosbarth lluniadu’r byw ar fynd.
-
Dewch â’ch lluniaeth eich hun (bwyd/fflasg/dŵr) gyda chi. Dim ond nifer cyfyngedig o beiriannau gwerthu ‘snaciau’ sydd ar y campws ar gyfer eu defnyddio gyda’r nos.
-
A digwydd bod larwm tân yn seinio, ewch ar unwaith i’r man ymgynnull agosaf. Bydd eich tiwtor cwrs yn rhoi gwybod i chi am hyn ar ddechrau eich cwrs. Peidiwch â dychwelyd i’r adeilad am unrhyw reswm oni bai eich bod wedi cael gwybod ei fod yn ddiogel i wneud hynny.
-
Bydd myfyrwyr yn gallu parcio ar y campws ar gyfer eu dosbarthiadau gyda’r nos, ac ar gyfer dosbarthiadau sy’n para drwy’r dydd ac yn rhedeg yn ystod Hanner Tymor/Wythnos Ddarllen neu wyliau’r Pasg/Haf. Mae parcio ym maes parcio Campws Heol Ffynnon Job ar gyfrifoldeb perchenogion y ceir eu hunain.
Nid yw’r coleg yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i gerbydau pan fyddant wedi’u parcio ar safleoedd y coleg.
-
Mae Campws Heol Ffynnon Job ar lefel y ddaear trwyddi draw gyda mynediad cadair olwyn i’r adeilad cyfan. Mae parcio a thoiledau i’r anabl ar gael.
-
Mae eich diogelwch o’r pwysigrwydd eithaf i ni. Llenwch Holiadur Iechyd y coleg wrth gofrestru, a rhowch wybod i ni am unrhyw gyflyrau a all fod gennych eisoes e.e. epilepsi, cyflwr ar y galon, cefn tost, alergeddau, yr angen i gario epi pen, meddyginiaeth y mae angen i chi gario gyda chi. Caiff unrhyw wybodaeth a ddatgelir ei gadw’n ddiogel, a’i drin yn hollol gyfrinachol ar sail ‘angen gwybod’ yn unig, yn unol â pholisïau diogelu data presennol y coleg.
-
Yn ymwneud â’n cyrsiau byr. Rhowch wybod i’r coleg, o leiaf pythefnos cyn dyddiad dechrau’r cwrs, am unrhyw anghenion dysgu ychwanegol/gofynion arbennig a all fod gennych. Bydd y Coleg yn gwneud pob ymdrech i gefnogi’r rhain, ond o ystyried hyd byr y cyrsiau hyn efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser. Caiff unrhyw wybodaeth a ddatgelir ei gadw’n ddiogel, a’i drin yn hollol gyfrinachol ar sail ‘angen gwybod’ yn unig, yn unol â pholisïau diogelu data presennol y coleg.
-
Os digwydd bod tiwtor yn methu bod yn bresennol ar gyfer dosbarth a amserlennir/neu ddosbarth yn cael ei ganslo, byddwn yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â chi. Cewch eich hysbysu trwy e-bost / cysylltir â chi dros y ffôn cyn gynted a bo hynny’n ymarferol i’w wneud. Os nad ydym wedi gallu cysylltu â chi, arddangosir hysbysiadau yng nghyntedd y campws. Caiff dosbarthiadau a ganslwyd eu hail-drefnu ac fe’ch hysbysir am y dyddiad newydd trwy’r e-bost.
-
Os digwydd i’r coleg gau o ganlyniad i amodau tywydd gwael, rhoddir negeseuon ar wefan y coleg http://www.colegsirgar.ac.uk /, neges peiriant ateb ar brif switsfwrdd y coleg (01554 748 000), tudalen Facebook y coleg https://www.facebook.com/ColegSirGarOfficial , a hefyd hysbysir gorsafoedd radio Scarlet FM, Radio Sir Gâr, The Wave, Real Radio, Radio Sir Benfro, Radio Wales a Radio Cymru. Caiff dosbarthiadau a ganslwyd eu hail-drefnu ac fe’ch hysbysir am y dyddiad(au) newydd trwy’r e-bost cyn gynted a bo hynny’n ymarferol.
-
Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn gallu sbario ychydig eiliadau i lanw’r holiadur byr, di-enw rydym yn ei ddosbarthu ar ddiwedd eich cwrs, bydd yn cymryd tua 5 munud i’w gwblhau.
Bydd y wybodaeth a ddatgelir yn helpu i lywio’r ddarpariaeth gyrsiau yn y dyfodol. Os oes angen eglurhad arnoch neu os oes gennych gwestiwn nas atebwyd gan unrhyw un o’r pwyntiau uchod, cysylltwch â susan.hayward@colegsirgar.ac.uk neu ffoniwch swyddfa’r campws ar 01554 748 201
Diolch.