Skip page header and navigation
Agos o waith celf Will Matthews

Gwnaeth Will Matthews, myfyriwr sylfaen celf a dylunio, argraff ar y panel a’r cyhoedd yng ngwobrau celf Osi Rhys Osmond gan ennill y wobr gyffredinol a dewis y bobl. 

Trefnir y digwyddiad ar y cyd ag Ysgol Gelf Caerfyrddin i goffáu bywyd a gwaith Osi Rhys Osmand, yr artist, awdur ac athro sy’n adnabyddus yn rhyngwladol ac a fu’n byw ac yn gweithio yn Llansteffan hyd ei farwolaeth yn 2015. Fel cyn bennaeth sylfaen yn yr ysgol gelf, roedd myfyrwyr Osi yn dwlu arno am y brwdfrydedd a feithrinwyd ganddo. 

Cynhaliwyd y digwyddiad yn neuadd Llansteffan, gydag enghreifftiau printiedig o waith yr wyth myfyriwr ar restr fer y cwrs sylfaen eleni yn cael eu harddangos. Cyhoeddwyd enillydd gwobr gelf Osi Rhys Osmond yn ystod y noson, gan gynnwys gwobr y bobl, a bleidleisiwyd gan y rheiny a oedd yn bresennol yn ystod y noson. Aeth y ddwy wobr i Will Matthews, artist a gafodd ei ddylanwadu’n fawr gan ei amgylchoedd a harddwch naturiol ei ardal leol. 

Ysbrydolwyd darn celf Will Matthews gan ei dirwedd leol. Ac yntau’n tynnu ysbrydoliaeth o fyd natur yn aml, nod Will oedd creu cyfres o weithiau sy’n crynhoi harddwch naturiol a hanfod aruchel ei ardal leol. 

Dywedodd Will am y broses o greu’r darn buddugol:  “Mae’r frwydr i gyflawni paentiad a’r risg wirioneddol y bydd yn mynd i ddarnau. .   yn ymddangos yn rhan hanfodol o geisio gwneud rhywbeth sydd â chyffro a phrofiad y dirwedd ei hun.”

Dywedodd Imogen Mills, cyfarwyddwr rhaglen cwrs sylfaen celf a dylunio “Mae Will Matthews wedi bod yn fyfyriwr anhygoel eleni. 

“Mae e wedi bod yn uchelgeisiol iawn wrth weithio ar beintiadau lluosog i gyd ar yr un pryd.  Mae wedi malu ei bigmentau ei hun o ddeunyddiau a gasglwyd ar y safle ac wedi mynegi bywiogrwydd tirwedd trwy wneud marciau ystyriol.

“Mae Will wedi ymgorffori hanfod Sylfaen yn ei ymdrech i arbrofi ac arloesi”

Mae darn buddugol Will Matthews gan gynnwys gwaith llyfr braslunio bellach yn cael ei arddangos yn Oriel Osi yn Llansteffan. Mae Will yn symud ymlaen i astudio BA celfyddyd gain ym mhrifysgol fetropolitan Manceinion.

https://osirhysosmond.com/ 

Luke Osmond a Will Matthews yn dal y wobr
Casgliad llawn o waith celf buddugol

Rhannwch yr eitem newyddion hon