Skip page header and navigation

Introduction

Neidia ‘Mlaen I’r Rhannau Da â Twf Swyddi Cymru+

Am ennill arian, bod yn annibynnol a chael dy droed ar yr ysgol yrfa?

Efallai dy fod yn chwilio am y swydd iawn neu am gymryd y camau nesaf ym myd addysg ac angen rhywfaint o help llaw.

Dyna lle gall Twf Swyddi Cymru+ dy helpu. Mae’n ffordd wych o roi hwb i dy hyder ac yn gyfle heb ei ail i ti gael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb i ti. Bydd gen ti hefyd fynediad at hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi â thâl gyda chyflogwyr yn dy ardal.

• Rhwng 16-19 oed?
• Newydd adael yr ysgol?
• Di-waith?
• Neu’n ansicr am eich gyrfa yn y dyfodol?

Jobs Growth Wales logo - girl with sunglasses - text that says Fast Forward to the good bits with JobsGrowth Wales +

Bydd yr elfen hon o raglen Twf Swyddi Cymru+ yn eich helpu i benderfynu beth i wneud nesaf. Mae hefyd yn lle da i ddechrau os oes angen mwy o gefnogaeth arnoch i’ch helpu i gymryd rhan mewn cyflogaeth ac addysg.

Mae’n rhoi’r cyfle i chi brofi swyddi a allai fod o ddiddordeb i chi cyn i chi ymrwymo i gwrs neu brentisiaeth. Bydd yn eich helpu chi hefyd i baratoi ar gyfer camu i fyd gwaith.

Byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster Cyflogadwyedd.

Telir lwfans hyfforddi hyd at fwyafswm o £60 i chi (am gwblhau 30 awr yr wythnos, pro rata am lai na 30 awr) ynghyd â chostau teithio, fel bo’n briodol.

Angen cymwysterau neu gymorth pellach i gymryd dy gam nesaf?

Angen cymwysterau ychwanegol neu gefnogaeth i gymryd eich cam nesaf?

Oes oes swydd neu lwybr gyrfaol penodol gennych mewn golwg, bydd yr elfen hon o raglen Twf Swyddi Cymru+ yn eich helpu i droi hyn yn realiti.

Gallwch chi ennill sgiliau newydd yn eich pwnc dewisol a chymwysterau i’ch helpu i symud ymlaen i lefel uwch.

Byddwch chi hefyd yn ennill profiad gwaith gyda chyflogwyr lleol. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn cael cyfweliad am swydd go iawn ar ddiwedd eich profiad gwaith, a bydd y gefnogaeth rydych chi’n derbyn trwy raglen Twf Swyddi Cymru+ yn eich helpu i wneud argraff dda.

Telir lwfans hyfforddi hyd at fwyafswm o £60 i chi (am gwblhau 30 awr yr wythnos, pro rata am lai na 30 awr) ynghyd â chostau teithio, fel bo’n briodol.

Mae llwybrau eraill ar gael; cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

  • Bydd yn ofynnol i chi fynychu’r coleg i astudio Trin Gwallt Lefel 1 a Chymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol. Hefyd byddwch yn mynychu profiad gwaith mewn salon.

  • Bydd yn ofynnol i chi fynychu’r coleg i astudio Adeiladu Lefel 1 a Chymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol. Hefyd byddwch yn ennill profiad gwaith ar safle bob wythnos.

  • Bydd yn ofynnol i chi fynychu’r coleg i astudio Adeiladu Lefel 1 a Chymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol. Hefyd byddwch yn ennill profiad gwaith ar safle bob wythnos.

  • Bydd yn ofynnol i chi fynychu’r coleg i astudio Adeiladu Lefel 1 a Chymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol. Hefyd byddwch yn ennill profiad gwaith ar safle bob wythnos.

Angen Help i Gael Swydd?

Os ydych yn gwybod beth rydych chi am wneud ac rydych yn barod i ddechrau gweithio, gall elfen Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ eich helpu i ddod o hyd i swydd.

Beth sydd ynddo i chi?

Mae’r rhaglen hon yn gadael i chi roi cynnig ar brofiad gwaith yn gyntaf. Wedi hynny, gallwch chi symud i mewn i swydd â thâl ar yr isafswm cyflog ar gyfer eich oedran, am hyd at chwe mis. Bydd eich cyflogwr hefyd yn cael ychydig o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i helpu talu eich cyflog yn ystod yr amser hwn.

Bydd eich Ymgynghorydd Cymru’n Gweithio yn ystyried a ydych yn barod ar gyfer swydd ac yn canolbwyntio ar eich gyrfa.

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Dylech chi fod:

  • Yn chwilio am waith yn weithredol
  • Yn llawn cymhelliant ac yn ymrwymedig
  • Yn realistig ynghylch eich rhagolygon o ran swydd 
Pa gefnogaeth allwch chi gael?

Gallwch chi gael help gyda:

  • Goresgyn unrhyw rwystrau i gyflogaeth
  • Paratoi ar gyfer gwaith, fel gwybod beth i ddisgwyl mewn swydd
  • Ennill sgiliau hanfodol
  • Dod o hyd i swyddi ac ymgeisio amdanynt
  • Hyfforddiant a mentora yn ystod eich chwe mis cyntaf o waith i’ch helpu i feithrin a datblygu eich sgiliau
Faint fyddwch chi’n ennill?

Tra rydych yn chwilio am swydd trwy raglen Twf Swyddi Cymru+, gallwch chi gael lwfans hyfforddi hyd at £60 yr wythnos.

Mae angen i chi fynychu’r coleg neu leoliad gwaith am o leiaf 16 awr bob wythnos. Fodd bynnag, i dderbyn y lwfans hyfforddi llawn o £60, mae rhaid i chi fynychu am 30 awr neu fwy mewn unrhyw gyfnod saith diwrnod. Bydd y swm rydych chi’n cael yn dibynnu ar faint o oriau rydych chi’n cymryd rhan.

Pan ydych yn cael swydd, yn hytrach na lwfans hyfforddi byddwch yn ennill cyflog iawn a delir ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf.

Unwaith eich bod yn gyflogedig, yn hytrach na lwfans hyfforddi byddwch yn ennill cyflog iawn a delir ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf.

I’r rhai sydd ei angen, mae cymorth ariannol a phersonol ychwanegol ar gael i dy helpu i gwblhau dy raglen Twf Swyddi Cymru+. Bydd meini prawf cymhwyster yn gymwys, a bydd ein cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn trafod dy amgylchiadau wrth iddyn nhw asesu dy anghenion.