
Tystysgrif a Diploma Cymhwysol Lefel 3 Troseddeg
- Campws Y Graig
Mae trosedd o’n cwmpas ym mhobman. Mae’n rhan annatod o’n cymdeithas. Bydd astudio Troseddeg yn caniatáu i chi archwilio gwahanol fathau o droseddau a pham eu bod yn cael eu cyflawni. Byddwch yn astudio damcaniaethau troseddoldeb ac yn datblygu dealltwriaeth o ymddygiad troseddol o ystod o safbwyntiau, gan gynnwys biolegol, seicolegol a chymdeithasegol. Os oes gennych ddiddordeb yn y ffactorau sy’n cyfrannu at drosedd, mae Tystysgrif Cymhwysol mewn Troseddeg CBAC ar eich cyfer chi.
Mae Troseddeg yn bwnc hynod ddiddorol ac mae’n newid drwy’r amser. Byddwch yn dysgu pam y mae’n llai tebygol rhoi gwybod am rai troseddau, a byddwch hefyd yn cael cyfle i greu eich ymgyrch eich hun i godi ymwybyddiaeth o droseddau sy’n cael eu tan-riportio.
Byddwch yn astudio cynrychioliad y cyfryngau o drosedd, gan archwilio’r rhesymau pam y mae gennym i gyd cymaint o ddiddordeb mewn trosedd trwy raglenni dogfen, ffilmiau a gwasanaethau ffrydio fel YouTube. Byddwch yn dadansoddi sut mae’r cyfryngau yn gallu creu stereoteipiau troseddol, a sut mae gemau fel Grand Theft Auto yn aml yn cael eu beio am fod yn sail i ymddygiad troseddol ymhlith pobl ifanc.
Byddwch yn astudio ystod o ddamcaniaethau troseddegol, a sut y gallant fod yn berthnasol i ystod o droseddwyr bywyd go iawn, gan gynnwys llofruddion cyfresol. Byddwch yn dadansoddi a yw eu gweithrediadau yn ganlyniad geneteg neu adeileddau ymennydd, ffactorau seicolegol fel magwraeth a datblygiad, neu ffactorau cymdeithasegol fel labelu a phrofiadau o fewn cymdeithas.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymddygiad troseddol, gan gynnwys y rhesymau y tu ôl i bobl yn cyflawni trosedd, troseddau yr adroddir amdanynt yn y cyfryngau a’r ystod o bobl sy’n ymwneud ag ymchwiliadau troseddol, byddwch yn mwynhau astudio Troseddeg.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys dadleuon cyffrous sy’n procio’r meddwl ar ystod o bynciau a damcaniaethau troseddegol. Er enghraifft, byddwch yn darganfod ac yn trafod y ffactorau sy’n cyfrannu at ymddygiad troseddol, fel geneteg, cefndir, a’r amgylchedd. Mae’r cwrs hwn yn gyfwerth ag un Safon Uwch ar ôl y ddwy flynedd, ac mae wedi’i gynllunio i’w astudio ochr yn ochr â phynciau Safon Uwch eraill.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd astudio Troseddeg yn rhoi ystod o sgiliau i chi sy’n hanfodol ar gyfer symud ymlaen i’r brifysgol a/neu gyflogaeth. Trwy astudio ystod o bynciau troseddegol, byddwch yn datblygu gwybodaeth am ymgyrchoedd troseddol dros newid, damcaniaethau trosedd, prosesau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau troseddol, ac effeithiolrwydd cosbau fel carchar.
Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol trwy gymryd rhan mewn ystod o dasgau dadlau a thrafod. Byddwch hefyd yn cynllunio eich ymgyrch dros newid eich hun mewn perthynas â throsedd, cyfle i ddatblygu sgiliau llythrennedd digidol a chreadigrwydd. Mae’r cwrs hwn yn ddiddorol, yn gyffrous, ac yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymddygiad troseddol.
Uned 1 - Newid ymwybyddiaeth o drosedd
Uned 2 - Damcaniaethau troseddegol
Uned 3 - O Leoliad y Drosedd i’r Llys
Uned 4 - Trosedd a chosb
Mae llawer o ddefnyddiau ymarferol i droseddeg a chyfleoedd i feithrin ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys sgiliau ymchwil, trafod a sgiliau TGCh. Mae Troseddeg yn cydfynd yn berffaith ag ystod o bynciau Safon Uwch, er enghraifft Seicoleg, Cymdeithaseg, y Gyfraith, Astudiaethau Cyfryngau a Bioleg.
Bydd astudio Troseddeg ar Lefel 3 yn eich paratoi ar gyfer cyfleoedd cyffrous i astudio ymhellach a chyflogaeth hefyd. Mae llawer o’n myfyrwyr Troseddeg yn mynd ymlaen i astudio Troseddeg yn y brifysgol, sy’n gallu arwain at yrfaoedd yn y system cyfiawnder troseddol a thu hwnt. Gallai enghreifftiau o yrfaoedd gynnwys gweithio gyda’r heddlu, gwyddoniaeth fforensig, ymchwilydd safle trosedd, gwaith cymdeithasol a llawer mwy.
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu sylfaen ddelfrydol i chi ar gyfer astudio Troseddeg a/neu bwnc cysylltiedig yn y brifysgol. Gall hefyd ddarparu ystod o gyfleoedd cyflogaeth i chi yn dilyn hyn, er enghraifft gyrfa fel Troseddegydd, ystod o swyddi o fewn yr heddlu, gyrfa fel gwyddonydd fforensig, a llawer mwy!
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr Troseddeg yn mynd ymlaen i astudio Troseddeg yn y brifysgol, gyda rhai myfyrwyr yn dewis cyfuno Troseddeg â phwnc cysylltiedig arall, er enghraifft y Gyfraith, Seicoleg neu Gymdeithaseg.
Uned 1 - Newid ymwybyddiaeth o drosedd - Asesiad dan reolaeth mewnol (50% o’r dystysgrif neu 25% o’r diploma)
Uned 2 - Damcaniaethau troseddegol - Arholiad allanol - 1 awr 30 (50% o’r dystysgrif neu 25% o’r diploma)
Uned 3 - O leoliad y drosedd i’r llys - Asesiad dan reolaeth mewnol (25% o’r diploma)
Uned 4 - Trosedd a chosb - Arholiad allanol - 1 awr 30 (25% o’r diploma)
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith ar radd C neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.