Skip page header and navigation

TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Dylunio Graffig

  • Campws Y Graig
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Ydych chi’n edrych ar hysbysebion, cynlluniau cylchgronau neu arddangosfeydd busnes/adwerthu ac yn meddwl y byddech chi’n hoffi gyrfa mewn creadigrwydd?   Os oes gennych ddiddordeb mewn dylunio, archwilio eich creadigrwydd a datblygu gwell dealltwriaeth o’r egwyddorion gweledol a ddefnyddir mewn marchnata brand, yna Dylunio Graffig yng Ngholeg Sir Gâr yw’r cwrs i chi.

Byddwch yn datblygu ac yn meithrin eich dealltwriaeth o’r elfennau gweledol a fydd yn eich galluogi i ddylunio, brandio a chynhyrchu graffeg o safon broffesiynol yn effeithiol.  Rydym yn astudio technegau darluniadol mewn lliw, cyfansoddiad, teipograffeg, a Delweddau mewn fformatau traddodiadol a digidol trwy Adobe Photoshop ac Illustrator sy’n galluogi’r holl gyfranogwyr i gynhyrchu safon uchel yn eu gwaith portffolio. Mae’r cymhwyster hwn yn arwain at ddilyniant i gyrsiau sylfaen a chyrsiau gradd ac mae’n bwnc partner rhagorol ar gyfer cael mynediad i gymwysterau uwch mewn graffeg, ffotograffiaeth, dylunio a chelfyddyd gain. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Ffi Gweinyddu: £25.00

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Rhaglen ddwy flynedd yw hon, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth eang o gyfathrebu graffig yn y cyfryngau cymdeithasol, marchnata a hysbysebu.  Mae cyfathrebu graffig yn ymwneud â datblygu’r gallu i gyfathrebu’n weledol; defnyddio arloesedd a chreadigrwydd i ddatrys problemau dylunio, gan archwilio cyfryngau a phrosesau dylunio i gyfathrebu syniadau. 

Nod y rhaglen yw bod pob dysgwr yn datblygu eu llais unigryw eu hunain gan ddefnyddio delweddaeth weledol, a chymhwyso dealltwriaeth dechnegol a chyd-destunol yn hyderus i wireddu eu bwriadau. Anogir dysgwyr i archwilio diddordebau a syniadau unigol dros ystod o genres trwy ddatblygu llyfrau braslunio i gofnodi eu cynnydd. Mae’r rhaglen yn cynnwys technegau megis creu delweddau digidol gan ddefnyddio Photoshop ac Illustrator, darlunio traddodiadol, collage a gwneud printiau. Mae datblygu syniadau gan ddefnyddio lluniadu arsylwadol uniongyrchol a ffotograffiaeth yn fan cychwyn hanfodol ar gyfer pob prosiect.

Darperir cyfleoedd a chystadlaethau allanol i’r holl ddysgwyr er mwyn eu gwthio y tu hwnt i’w cylch cysur a datblygu profiadau allgyrsiol.  Mae’r holl ddysgwyr yn cael y newyddion diweddaraf am arddangosfeydd cyfredol a digwyddiadau o ddiddordeb, gyda theithiau’n cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn. Mae UG cyfathrebu graffig yn cynnwys portffolio gwaith cwrs ac asesiad dan reolaeth ac mae Safon Uwch cyfathrebu graffig yn cynnwys modiwl portffolio wedi’i sbarduno gan y myfyriwr ei hun ac asesiad dan reolaeth a osodir yn allanol. 

Mae ein myfyrwyr graffeg llwyddiannus wedi mynd i Gaerdydd, Abertawe, Caerfaddon, Ysgol Gelf Caerfyrddin a Llundain i astudio ar gyrsiau Graffeg a Darlunio gan arwain at lefelau cyflawniad uchel a chyflogaeth o fewn crefftau cysylltiedig. Mae gennym nifer sylweddol o’n myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs ac sy’n mynd yn syth i brentisiaeth Dylunio Graffig neu yrfa lawn amser yn y proffesiwn. 

Bydd y sgiliau rydych yn eu hennill a’u datblygu ar y cwrs yn eich paratoi ar gyfer pa bynnag lwybr sydd fwyaf addas i chi: ar gyfer byd gwaith, prentisiaethau neu lwybrau Addysg Uwch.

Byddwch yn datblygu ac yn meithrin eich dealltwriaeth o’r elfennau gweledol a fydd yn eich galluogi i ddylunio, brandio a chynhyrchu graffeg o safon broffesiynol yn effeithiol. Rydym yn astudio technegau darluniadol mewn Lliw; Cyfansoddiad; Teipograffeg a Delweddau mewn fformatiau traddodiadol a digidol trwy Adobe Photoshop ac Illustrator sy’n galluogi’r holl gyfranogwyr i gynhyrchu safon uchel yn eu gwaith portffolio. Mae’r cymhwyster hwn 1yn arwain at ddilyniant i gyrsiau Sylfaen a chyrsiau Gradd ac mae’n bwnc partner rhagorol ar gyfer cael mynediad i gymwysterau uwch mewn Graffeg, Ffotograffiaeth, Dylunio a Chelfyddyd Gain.

  • Technegau darlunio, ffotograffiaeth a lluniadu
  • Astudiaeth o deipograffeg a’i defnyddiau sylfaenol mewn dylunio
  • Theori lliw i ddatblygu brandio
  • Theori cynlluniau a chyfansoddiad
  • Adobe Illustrator ac Adobe Photoshop
  • Egwyddorion hysbysebu
  • Adobe Creative Cloud Digital Suite

Lefel UG - 40% o’r radd gyflawn.

Gwaith cwrs i gyd gyda phwyslais cryf ar waith portffolio a llyfrau braslunio manwl, ymchwilio a datblygu. 

U2, Safon Uwch - 60% o’r radd gyflawn.

Gwaith cwrs 76%, Asesiad dan Reolaeth 24%.  Eto mae’r portffolio a’r manylder yn y llyfrau braslunio yn hanfodol ar gyfer y graddau uwch.  

Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys:  TGAU Mathemateg, Saesneg Iaith, a phwnc seiliedig ar gelf (neu bortffolio o waith) ar radd C neu uwch.  

Mae yna ffi stiwdio o £20 i dalu am adnoddau a chyfarpar arbenigol sydd eu hangen.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

quote

“Mae astudio cyfathrebu graffig yng Ngholeg Sir Gâr wedi bod yn brofiad anhygoel.

Rwy'n dysgu'r holl sgiliau technegol sydd eu hangen arnaf i lwyddo yn y cwrs a chefais y rhyddid i archwilio pynciau a chysyniadau rwy'n frwdfrydig yn eu cylch.

Diolch i help fy narlithwyr, mae gen i gyfle nawr i astudio cyfathrebu graffig yn Plymouth sy'n brifysgol sy'n arbenigo mewn celf a dylunio. "
Liam Olczyk

Mwy o gyrsiau Safon Uwch

Chwiliwch am gyrsiau