
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Astudiaethau Busnes
- Campws Y Graig
Os oes gennych ddiddordeb yn y byd busnes deinamig yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang, yna mae Safon Uwch Busnes ar eich cyfer chi. Gyda diweddariad rheolaidd o storïau newyddion busnes sydd newydd ddod i law, tasgau ymchwil, a chyflwyniadau, mae’r byd busnes yn dod yn fyw yn yr ystafell ddosbarth. Yn ogystal, byddwch yn ymweld â busnesau lleol ac yn elwa o’r cyflwyniadau a roddir gan siaradwyr gwadd gwahoddedig sydd ag arbenigeddau mewn swyddogaethau busnes allweddol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gystadlu mewn cystadlaethau busnes.
Mae busnes yn bwnc sydd yn cyfuno’n effeithiol â llawer o feysydd pwnc gan gynnwys ieithoedd, mathemateg, gwyddorau a dyniaethau.
Ymhlith y busnesau yr ymwelwyd â hwy hyd yma mae Ffatri Injan Ford, Cadbury World a Chastell Howell.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Disgwylir i chi fod yn gyfarwydd â materion busnes cyfredol a gallu ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso cyfleoedd a phroblemau busnes cyfoes mewn ystod eang o gyd-destunau, tra’n cydnabod sut mae busnesau’n addasu i weithredu mewn amgylchedd busnes deinamig.
Byddwch yn cael y cyfle i weithio’n unigol, mewn grwpiau ac fel dosbarth cyfan, gan gyflwyno canfyddiadau ymchwil a chyfrannu at gyflwyniadau a thrafodaethau. Yn ei dro, bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich hyder wrth siarad â chynulleidfa a hefyd y cyfle i ddangos dyfnder eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth.
Mae’r cwrs busnes Safon Uwch yn cynnwys pedair uned, 2 uned UG a 2 uned U2.
Mae cynnwys y pwnc yn eich galluogi i ymchwilio i wahanol fathau a meintiau o sefydliadau mewn amrywiol sectorau busnes ac i dynnu ar gyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang, gan gynnwys data sy’n ymwneud ag amgylchedd busnes Cymru. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gyfannol o fusnes a menter ac yn ymwybodol o’r cyfleoedd a’r bygythiadau o weithredu mewn marchnad fyd-eang.
Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Cyllid - dadansoddi gwybodaeth am fuddsoddiadau, mesur perfformiad a phenderfyniadau ariannol.
- Strategaethau Marchnata - dewis strategaethau marchnata llwyddiannus, datblygu cynlluniau marchnata.
- Strategaethau Gweithrediadau - materion gweithredol, lleoliad, arloesedd a gwella effeithlonrwydd gweithredol.
- Strategaethau Adnoddau Dynol - cynllunio’r gweithlu, addasu strwythurau sefydliadol, cysylltiadau gweithwyr llwyddiannus.
Mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu cymhwyster Safon Uwch mewn busnes yn llwyddiannus wedi mynd ymlaen i addysg uwch i astudio ystod o gyrsiau gradd gan gynnwys, busnes a rheolaeth, busnes a Ffrangeg, busnes a ffasiwn, cyfrifeg, marchnata a Chyfraith busnes. Maen nhw wedi cael lleoedd mewn nifer o brifysgolion, gan gynnwys Caerdydd, Birmingham a Leeds sy’n aelodau o Brifysgolion nodedig y Grŵp Russell.
Mae myfyrwyr eraill wedi cwblhau prentisiaethau mewn ystod o feysydd, gan gynnwys syrfeo siartredig, rheolaeth eiddo tirol, adwerthu a bancio.
Yn ogystal, mae rhai myfyrwyr wedi manteisio ar y cyfle i wneud cyrsiau hyfforddiant rheolaeth wedi’u lleoli gyda’r adwerthwyr lle maent wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod y cwrs Safon Uwch. Er enghraifft, H&M a Tesco.
Asesir unedau yn allanol.
- UG Uned 1 Arholiad ysgrifenedig 1 awr 15 munud (60 marc)
- UG Uned 2 Arholiad ysgrifenedig 2 awr (80 marc)
- U2 Uned 3 Arholiad ysgrifenedig 2 awr 15 munud (80 marc)
- U2 Uned 4 Arholiad ysgrifenedig 2 awr 15 munud (80 marc)
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Saesneg a Mathemateg ar radd C neu uwch.
I Roi Cipolwg I Chi I’r Byd Busnes Deinamig: Bob Dydd O’n Bywydau Mae Gwahanol Agweddau Ar Fyd Busnes Yn Effeithio Arnom. Mae’r Cwrs Hwn Yn Rhoi Cipolwg I Chi Ar Fyd Yr Entrepreneur A’r Marchnadoedd Lleol, Cenedlaethol A Byd-eang Y Mae Busnesau’n Gweithredu Oddi Mewn Iddynt. Byddwch Hefyd Yn Dysgu Am Y Materion Busnes Sy’n Berthnasol I Amgylchedd Busnes Cymru Gan Gynnwys Ffactorau Amgylcheddol, Moesegol A Chyfreithiol.
I Dyfu: Mae Busnesau Yn Gwneud Penderfyniadau Allweddol Bob Dydd A Byddwch Yn Cael Y Cyfle I Archwilio Effaith Y Penderfyniadau Hyn Ar Fudd-ddeiliaid Busnes Allweddol. Byddwch Yn Cael Cyfle I Ddefnyddio Ystod O Sgiliau Allweddol Gan Gynnwys Sgiliau Rhifiadol, Cyfathrebu, Trefnu Amser Ac Arwain. Mae Busnes Safon Uwch Yn Cyfuno’n Effeithiol Gyda’r Astudiaeth O Lawer O Bynciau Gan Gynnwys Gwyddoniaeth, Mathemateg, Saesneg, Ieithoedd Tramor A’r Gyfraith.
I Greu: Mae’r Byd Busnes Yn Esblygu’n Gyson Yng Nghymru A Thu Hwnt. Byddwch Yn Dysgu Am Bwysigrwydd Y Byd Deinamig Hwn A’i Effaith Ar Yr Holl Bartïon Dan Sylw. Yma Rydyn Ni’n Astudio’r Materion Allweddol Sy’n Ymwneud  Busnesau Newydd Sy’n Cychwyn A Mentrau Canolig Eu Maint.