Skip page header and navigation

TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Astudiaethau'r Cyfryngau

  • Campws Y Graig
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch - 2 Flynedd

‘Mae popeth yn golygu rhywbeth.  Y cyfan y mae angen i ni ei wneud yw darganfod sut i’w ddarllen’  Phillip Pullman

Yn yr oes ddigidol heddiw, mae astudiaethau’r cyfryngau yn hynod o ddefnyddiol wrth ddod i’r afael â, dadansoddi a deall effeithiau’r cyfryngau torfol modern.   Yn bennaf mae’n denu myfyrwyr sydd am: 

  • Ddehongli byd y cyfryngau o’u cwmpas
  • Creu eu cynyrchiadau cyfryngau eu hunain
  • Tyfu eu dealltwriaeth o gynhyrchion y cyfryngau
  • Adeiladu eu gyrfaoedd mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig â’r cyfryngau

Rydym yn cynnig cyfle i bob myfyriwr y cyfryngau gymryd rhan mewn Teithiau, Sgyrsiau a Chyfleoedd allanol, megis Clwb Ffilm arobryn y coleg.   Mae’r rhain yn ychwanegu’n helaeth at brofiad y dysgwyr a’u gallu i gymhwyso’u profiadau i’w dysgu: gan wella dealltwriaeth a chynyddu potensial.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch - 2 Flynedd

Ffi Gweinyddu: £25.00

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Daw myfyrwyr ar draws ystod o Destunau Cyfryngau, ar ffurf print a chlyweled
  • Staff addysgu sydd â lefel uchel o arbenigedd mewn cyfryngau/ffilm
  • Ystod o asesiadau ar ffurf arholiadau a gwaith cwrs
  • Mae’n darparu sail gadarn ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch
  • Mae’n cynyddu dealltwriaeth o’r byd rydym yn byw ynddo
  • Mae’n rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol
  • Mae’n cynnig profiad dysgu creadigol a dynamig

Lefel UG

Uned 1: Ymchwilio i’r cyfryngau

Yma rydym yn astudio’r tri diwydiant cyfryngau y dewch ar eu trawsyn eich blwyddyn gyntaf:

  • Gwerthu - Delweddau – Hysbysebu a Fideo Cerddoriaeth
  • Newyddion yn yr Oes Ar-lein
  • Diwydiannau Ffilm - o Gymru i Hollywood
  • Byddwn yn edrych ar ystod o destunau o
  • bob un o’r meysydd hyn, gan gwmpasu agweddau ar genre, y diwydiant, naratif, damcaniaeth cynulleidfa a materion cynrychioliadol.

ASESU

Arholiad ysgrifenedig ym mis Mai

(24% o’r Safon Uwch derfynol)

Uned 2: Creu cynhyrchiad y cyfryngau

Yma byddwch yn rhoi’r wybodaeth a’r theori a ddatblygwyd yn Uned 1 ar waith. Gan ddewis o ystod o friffiau, byddwch yn ymchwilio, cynllunio, creu a gwerthuso cynnyrch cyfryngau rydych wedi’i ddyfeisio eich hun.

BRIFFIAU ENGHREIFFTIOL

  • Ffilmio dilyniant agoriadol ffilm arswyd

  • Creu ymgyrch farchnata ar gyfer Comedi Rhamantaidd i bobl ifanc yn eu harddegau

  • Datblygu a marchnata cynnyrch cosmetig

  • Cynllunio a ffilmio fideo cerddoriaeth

ASESU

Gwaith cwrs: Ymchwilio, Cynllunio, Cynnyrch, Adolygu

(16% o’r Safon Uwch derfynol)

Lefel U2

Uned 3: Y cyfryngau yn yr oes fyd-eang

Uned 4: Creu cynhyrchiad ar gyfer gwahanol gyfryngau

Mae llwybrau gyrfaol sy’n agored i fyfyrwyr cyfryngau yn cynnwys dilyniant i gyrsiau cyfryngau yn y Brifysgol ar gyfer newyddiaduraeth, ysgrifennu sgriptiau, cynhyrchu, cyfarwyddo, astudiaethau cyfryngau uwch, hysbysebu a llawer, llawer mwy.  Yn ogystal, mae astudiaethau’r cyfryngau yn ychwanegiad gwych i’r rheiny sy’n dilyn llwybrau sy’n gysylltiedig â Saesneg, hanes, gwleidyddiaeth, y gyfraith a seicoleg.

Lefel UG:

  • Uned 1: arholiad ysgrifenedig (24% o’r Safon Uwch terfynol)
  • Uned 2: Gwaith cwrs (16% o’r Safon Uwch terfynol)

Lefel U2:

  • Uned 3: asesiad dan reolaeth ym Mehefin (36% o’r Safon Uwch terfynol)
  • Uned 4:  Prosiect creu cynhyrchiad ar gyfer gwahanol gyfryngau  (24% o’r Safon Uwch terfynol)

Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys:  TGAU Saesneg Iaith a/neu TGAU Astudiaethau’r Cyfryngau ar radd B neu uwch. TGAU Mathemateg ar radd C neu uwch. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cymryd TGAU Astudiaethau’r Cyfryngau ond sydd â lefel uchel o allu mewn pynciau cysylltiedig yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

I Ddehongli eich Byd: Rydym yn defnyddio’r cyfryngau i greu sut rydym yn gweld y byd (meddyliwch am eich hoff ffilm - fel rheol rydym yn cael ein denu at ffilmiau sy’n adlewyrchu sut yr hoffem i’r byd fod). Fodd bynnag, o straeon newyddion i hysbysebion i gemau fideo, rydym yn defnyddio creadigaethau pobl eraill i wella ein dealltwriaeth a’n mwynhad o’r byd. Oni fyddai’n syniad da deall yn well sut mae’r pethau hyn yn cael eu gwneud, sut mae ystyr yn cael ei ymgorffori ynddynt, a sut maent yn cyfleu gwerthoedd y tu hwnt i’r hyn rydym yn ei adnabod ar yr wyneb.

I Dyfu: Mae Astudiaethau’r Cyfryngau yn annherfynol o ddiddorol ac mae’n caniatáu i chi dreulio amser gyda’r pethau rydych eisoes yn frwd yn eu cylch. Yn ychwanegol, mae’n eich cyflwyno i ystod enfawr o theori a deunydd na fyddwch wedi dod ar ei draws o’r blaen. Mae dilyn cwrs Astudiaethau’r Cyfryngau hefyd yn golygu astudio agweddau ar Gymdeithaseg, Athroniaeth, Gwyddor Gwleidyddiaeth a’r Celfyddydau Gweledol. Mae sgiliau Astudiaethau’r Cyfryngau yn drosglwyddadwy iawn i bynciau Safon Uwch eraill, gan gynnwys y Gyfraith, Saesneg, Ffotograffiaeth, Hanes a Thechnoleg Gwybodaeth.

I Greu: Mae Diwydiant y Cyfryngau yn ddiwydiant twf mawr yng Nghymru a thu hwnt. Byddwch yn dysgu hanfodion cynllunio, paratoi a chreu cynnyrch cyfryngau yma!

I Adeiladu Eich Gyrfa: Waeth beth yr hoffech chi fynd ymlaen i’w wneud, bydd gwybodaeth am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, Photoshop, a golygu fideo yn effeithiol, a’r sgiliau ysgrifennu a dadansoddi y byddwch chi’n eu datblygu drwy’r cwrs ond yn cryfhau eich CV.

Mwy o gyrsiau Safon Uwch

Chwiliwch am gyrsiau