Skip page header and navigation

TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Cymdeithaseg

  • Campws Y Graig
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Astudiaeth o ymddygiadau a rhyngweithiadau dynol yw cymdeithaseg ac mae’n faes o ddiddordeb a dylanwad academaidd sy’n tyfu.   Mae’r cwrs cymdeithaseg hwn yn edrych yn fanwl ar faterion cyfoes yn ein cymdeithas megis anghydraddoldebau cymdeithasol mewn perthynas â hil, rhyw, a dosbarth cymdeithasol drwy astudio sefydliadau cymdeithasol megis y teulu, addysg a throsedd. 

Yn ogystal â dod ar draws y pynciau hyn yn yr ystafell ddosbarth academaidd, mae ymweliadau coleg i leoedd megis Carchar EM Abertawe, yn helpu myfyrwyr i gymhwyso’r theori at sefyllfaoedd ymarferol yn ogystal ag ennill cipolwg ar y gyrfaoedd niferus sydd ar gael yn y maes hwn.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Ffi Gweinyddu: £25.00

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Cysylltiadau gydag UG llywodraeth a gwleidyddiaeth
  • Trafodaethau ynghylch materion cyfoes
  • Mae’n datblygu sgiliau trosglwyddadwy.
  • Mae’n datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol ymhellach

Lefel UG:

Caffael diwylliant a chymdeithaseg y teulu, cymdeithaseg addysg a dulliau  ymchwilio cymdeithasegol.

Lefel U2:

Cymdeithaseg trosedd a gwyredd, anghydraddoldeb cymdeithasol a damcaniaeth gymdeithasegol a dulliau ymchwilio.

Gyda phrifysgolion yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau megis cymdeithaseg a throseddeg, cymdeithaseg a’r gyfraith yn ogystal â chymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, mae astudio ar lefel israddedig yn y maes hwn wedi dod yn ddewis poblogaidd gyda’n myfyrwyr.  Mae sgiliau sydd wedi eu mireinio mewn cymdeithaseg hefyd yn addas ar gyfer llwybrau dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol eraill.

Mae nifer o gyn-fyfyrwyr wedi cwblhau eu graddau gwyddorau cymdeithasol yn llwyddiannus ac maen nhw bellach yn gweithio fel rheolwyr yn y GIG ac mewn agweddau ar waith cymdeithasol i lywodraethau lleol a byrddau iechyd.

Bydd arholiad allanol yn cael ei sefyll ar gyfer pob uned.

Bydd arholiadau’r unedau UG yn cael eu sefyll ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf o astudio a bydd arholiadau’r unedau U2 yn cael eu sefyll ar ddiwedd yr ail flwyddyn.

Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys:  TGAU Saesneg Iaith ar radd B neu uwch, TGAU Mathemateg ar radd C neu uwch.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Mwy o gyrsiau Safon Uwch

Chwiliwch am gyrsiau