
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Saesneg Iaith a Llenyddiaeth
- Campws Y Graig
P’un a ydych chi’n mwynhau dadlau sut mae byd llenyddiaeth yn siapio ein ffordd o feddwl; trafod sut mae ysgrifenwyr wedi datblygu technegau a meistroli’r defnydd o’r iaith Saesneg, neu ddeall y ffactorau cyd-destunol sydd wedi helpu i ddylanwadu ar destun, yna Safon Uwch mewn Saesneg iaith a llenyddiaeth yw’r cwrs i chi.
Rydym yn astudio amrywiaeth eang o destunau gwahanol dros y ddwy flynedd, yn amrywio o waith ffeithiol, i elfennau clasurol barddoniaeth a drama. Mae Saesneg iaith a llenyddiaeth yn bwnc hwyluso i mewn i nifer o raddau prifysgol a llwybrau gyrfaol, gan gynnwys newyddiaduraeth, ysgrifennu creadigol a bywgraffyddol, y gyfraith, darlithio, curadu ac addysgu.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen i chi yn yr agweddau technegol ar astudio iaith; gan wella cywirdeb ysgrifennu’r myfyrwyr eu hunain a’u hyder wrth ddefnyddio a thrafod nodweddion iaith penodol. Ceir elfen ysgrifennu creadigol sylweddol ar lefel UG ac U2 hefyd ac rydym yn treulio amser yn dadansoddi strategaethau llwyddiannus a thechnegau llenyddol er mwyn cynorthwyo gyda chynnydd a llwyddiant ar lefel Safon Uwch.
Yn Saesneg@CSG, rydym yn darparu ystod o weithgareddau ymarferol ac ymweliadau allanol i annog myfyrwyr i gymryd rhan weithredol a darparu ysgogiad ar gyfer eu gwaith ysgrifennu eu hunain. Mae pumdeg y cant o’r cwrs yn seiliedig ar destunau llenyddol, felly mae myfyrwyr yn ymgyfarwyddo ymhellach â barddoniaeth, drama a rhyddiaith. Mae’r cwrs yn cyfuno’n dda gyda phynciau dyniaethau eraill, ond mae hefyd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr gwyddoniaeth sydd angen parhau i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Mae cyfuniadau eraill yn gweithio’n dda iawn gyda Saesneg iaith a llenyddiaeth, yn enwedig astudio ieithoedd tramor ac astudiaethau cyfryngau a ffilm.
Lefel UG
Yn UG/blwyddyn 1, Byddwch yn astudio’r broses a phwysigrwydd dadansoddi cymharol mewn ysgrifennu creadigol, wrth fireinio’r sgiliau sydd eu hangen i greu gweithiau gwreiddiol. Caiff eich sgiliau meddwl yn feirniadol a dadansoddi llenyddiaeth eu datblygu drwy astudio testunau anllenyddol a drama a all eich helpu i ddatblygu sgiliau ehangach a mwy soffistigedig yn eich ysgrifennu chi.
Lefel U2
Yn astudiaethau’r ail flwyddyn, rydym yn edrych yn feirniadol ar destun o waith Shakespeare ac yn datblygu eich sgiliau rhyddiaith a barddoniaeth ymhellach wrth ddadansoddi testunau nas gwelwyd o’r blaen. Mae yna elfen gwaith cwrs, sy’n werth 20% o’ch cymhwyster Safon Uwch cyflawn sy’n rhoi’r cyfle i chi weithio’n fwy annibynnol ac ymgysylltu’n feirniadol â genre y mae gennych ddiddordeb ynddo. Caiff y darn hwn o waith ei gwblhau’n fewnol, ond ei gymedroli’n allanol.
Mae myfyrwyr Saesneg diweddar wedi symud ymlaen yn llwyddiannus i yrfaoedd a graddau prifysgol yn y gyfraith, newyddiaduraeth, ysgrifennu copi, cyfieithu, gwleidyddiaeth ac addysgu. Aeth myfyriwr Safon Uwch diweddar yn y pwnc hwn ymlaen i Brifysgol Caerdydd, i ddilyn gyrfa yn y gyfraith. Bu’r sgiliau a’r wybodaeth a ddatblygwyd ganddo ac a enillwyd yn ystod ei astudiaethau Saesneg o gymorth mawr iddo wrth ennill swydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd, yn cynorthwyo aelodau o’r senedd. Mae wedi priodoli ei lwyddiant mewn maes cystadleuol iawn i’w allu i gyfathrebu’n effeithiol ac i feddwl yn feirniadol am y byd o’i gwmpas - sgiliau a ddysgwyd ganddo yn Saesneg@CSG.
Asesir ar ffurf arholiadau ysgrifenedig a phortffolio o waith cwrs.
Ar lefel UG, mae’r arholiadau’n canolbwyntio ar ddadansoddi barddoniaeth a thestunau nas gwelwyd o’r blaen, ynghyd â’r elfen ysgrifennu creadigol yn uned un. Yn ogystal, mae’n ofynnol i fyfyrwyr ysgrifennu sylwebaethau manwl lle maent yn archwilio’r dewisiadau y maent wedi’u gwneud o ran ffurf, strwythur ac iaith. Yn uned dau, bydd yr arholiadau’n asesu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r ddrama a’r testun nad yw’n destun llenyddol rydych wedi’i astudio.
Caiff gwaith cwrs ei gwblhau yn yr ail flwyddyn o astudio. Mae hwn yn cynnwys ysgrifennu annibynnol ac ymchwil trwy astudiaeth feirniadol o genre. Yma, mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ymwneud â genre y mae ganddynt ddiddordeb ynddo, gan gynhyrchu traethawd cymharol a darn o ysgrifennu creadigol o’r un genre. Mae arholiadau ym mlwyddyn dau yn cynnwys papur ar Shakespeare ar gyfer uned tri a dadansoddiad cymharol o destunau nas gwelwyd o’r blaen, a thraethawd ar destun rhyddiaith rydym wedi ei astudio ar hyd y flwyddyn yn uned pedwar.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ar radd B neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.