
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Seicoleg
- Campws Y Graig
Mae seicoleg yn golygu edrych ar amrywiaeth o ymagweddau seicolegol megis yr ymagweddau Biolegol, Seicodynamig a Phositif, a ddefnyddir i esbonio ymddygiad dynol megis ymddygiad troseddol, sgitsoffrenia a straen. Ochr yn ochr â datblygu dealltwriaeth o’r damcaniaethau, sy’n sail i ymddygiad dynol, mae seicoleg hefyd yn canolbwyntio ar y defnydd o ddulliau ymchwil o fewn y maes.
Mae’r cwrs seicoleg hwn yn ymwneud â deall sut mae ymchwil seicolegol yn cael ei gasglu a’i ddefnyddio mewn sefyllfaoedd bob dydd sy’n helpu i ddatblygu hyder mewn amrywiaeth o sgiliau ymarferol, mathemategol a datrys problemau. Mae gan fyfyrwyr y cyfle hefyd i gynnal eu hymchwil eu hunain ar ystod o bynciau megis ffurfio perthynas.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o’r meddwl dynol ac ymddygiad pobl ac anifeiliaid. Bydd dysgwyr yn datblygu nifer o sgiliau hanfodol drwy astudio seicoleg. Byddant yn dysgu i feddwl yn feirniadol, ac i fynegi eu hunain yn glir. Mae’r sgiliau hyn yn baratoad hanfodol ar gyfer y brifysgol waeth beth fo’r cwrs prifysgol a astudir.
Mae’r cwrs yn elwa ar dîm o ddarlithwyr seicoleg hynod gymwys ac ymroddedig sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod dysgwyr yn cael profiad dysgu diddorol a chraff. Mae’r tîm yn darparu rhwydwaith o gefnogaeth ac anogaeth i ddysgwyr trwy gydol eu hastudiaethau.
Lefel UG
Uned 1 : Seicoleg - O’r Gorffennol i’r Presennol. Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar ddysgu pum agwedd seicolegol ymddygiad gan gynnwys y dulliau biolegol, seicodynamig, ymddygiadol, gwybyddol a phositif.
Unit 2 : Defnyddio Cysyniadau Seicolegol. Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar ddadleuon cyfoes mewn seicoleg, gan ffocysu ar faterion cyfredol, ond gan roi sylw hefyd i egwyddorion a chymhwyso ymchwil yn y ddisgyblaeth hon.
Lefel U2:
Uned 3: Seicoleg: Goblygiadau yn y Byd Real. Archwilio materion dadleuol mewn seicoleg a phroses archwiliol tri phrif ymddygiad gan gynnwys ymddygiad troseddol, sgitsoffrenia a straen.
Uned 4: Seicoleg: Dulliau Ymchwil Cymhwysol. Ymchwiliad annibynnol i ymddygiad dynol, trwy amrywiol ddulliau ymchwil a chymhwyso gwybodaeth i sefyllfaoedd newydd.
Mae gradd Seicoleg, y gellir ei chyfuno ag amrywiaeth o bynciau megis troseddeg, wedi arwain at fyfyrwyr yn gwneud cais am gyrsiau mewn troseddeg; seicoleg; fforenseg (gyda gwyddorau); graddau a phrentisiaethau uwch plismona; lles a seicoleg addysgol; graddau sylfaen meddygol ac amrywiaeth o raddau gwyddor gymdeithasol.
Lefel UG:
Dau arholiad ysgrifenedig, un ar gyfer pob uned - 40% y dyfarniad llawn
Lefel U2:
Dau arholiad ysgrifenedig, un ar gyfer pob uned - 60% y dyfarniad llawn.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Bioleg a Saesneg Iaith ar radd B neu uwch, TGAU Mathemateg ar radd C neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.