
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Ffrangeg
- Campws Y Graig
Mae’r cwrs hwn yn gyfle gwych i ddysgwyr adeiladu ar eu gwybodaeth a’u sgiliau presennol mewn Ffrangeg. Trwy amrywiaeth o themâu cymdeithasol a diwylliannol, bydd dysgwyr sy’n astudio’r cwrs Safon Uwch Ffrangeg hwn yn gallu datblygu eu gwybodaeth ieithyddol a’u dealltwriaeth ddiwylliannol o’r byd sy’n siarad Ffrangeg.
Gyda’r sicrwydd o ddosbarthiadau bach, rhoddir cryn bwyslais ar feithrin hyder dysgwyr i siarad Ffrangeg yn rhugl. Mae’r cyfle i astudio llenyddiaeth a ffilm yn caniatáu i ddysgwyr ymgymryd â dadansoddiad dyfnach o strwythurau iaith a chynyddu eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol. Mae astudio iaith ar Safon Uwch nid yn unig yn gwella eu gallu mewn Ffrangeg ond mae’n gwella’n helaeth amrywiaeth eang o sgiliau megis; cyfathrebu, trefnu, datrys problemau, meddwl beirniadol, creadigrwydd, ymrwymiad, sgiliau ymchwil annibynnol, a gweithio gydag eraill.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r Adran Ffrangeg wedi cael canlyniadau rhagorol dros y blynyddoedd. Mae rhan o’r llwyddiant hwn yn ganlyniad i’r sicrwydd o grwpiau bach sy’n caniatáu sylw unigol i sgiliau, datblygiad a chaffael iaith trwy ymwneud ag ystod eang o bynciau cyfoes, diwylliannol a chymdeithasol.
Ffrangeg UG
- Uned 1 - UG Arholiad siarad
- Uned 2 - UG Arholiad ysgrifenedig (gwrando, darllen, cyfieithu, ymateb beirniadol ysgrifenedig)
- Thema 1: Bod yn berson ifanc mewn cymdeithas lle siaredir Ffrangeg.
- Thema 2: Deall y byd Ffrangeg ei iaith
Yn ogystal â’r themâu a enwyd eisoes, rydym yn astudio ffilm a gramadeg a chyfieithu.
Ffrangeg U2
- Uned 3 - U2 Arholiad siarad
- Uned 4 - Gwrando, darllen, cyfieithu
- Uned 5 - Ymateb beirniadol a dadansoddol ysgrifenedig
- Thema 3: Amrywiaeth a Gwahaniaeth
- Thema 4: Ffrainc 1940 -1950: Y Goresgyniad a’r Blynyddoedd wedi’r Rhyfel.
Yn ogystal â’r themâu a enwyd eisoes, rydym yn astudio gwaith llenyddol a gramadeg a chyfieithu.
Mae Safon Uwch mewn Ffrangeg yn agor llawer o ddrysau, mae iaith dramor fodern yn ategu unrhyw bwnc ac mae’r sgiliau a enillir ar Safon Uwch yn gwella cais dysgwyr i astudio unrhyw ddisgyblaeth ar lefel AU. Mae o leiaf 50% o’n myfyrwyr yn parhau i astudio iaith naill ai ar raglen gradd anrhydedd sengl neu ar raglen gradd anrhydedd gyfun.
Yn 2018 aeth myfyriwr gradd A ymlaen i astudio Gwleidyddiaeth a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl ennill gradd A mewn Ffrangeg yng Ngholeg Sir Gâr ac mae’n gobeithio gweithio fel lobïwr rhyngwladol yn y Cenhedloedd Unedig. Yn 2019, aeth myfyriwr gradd A tair-ieithog ymlaen i astudio Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Bryste ac mae cwmnïau mor amrywiol â KPMG (busnes) ac UNESCO (elusen ryngwladol) wedi cysylltu a gofyn iddo wneud cais am eu rhaglenni graddedig rhyngwladol.
Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r amcanion asesu canlynol yng nghyd-destun cynnwys y fanyleb:
UG Arholiad Uned 1 - 12% ac arholiad Uned 2 - 28%
U2 Arholiad Uned 3 - 18%; arholiad Uned 4 - 30%; arholiad Uned 5 - 12%
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Ffrangeg ar radd B neu uwch neu ddod o gefndir dwyieithog lle siaredir Ffrangeg (i’w asesu gan yr adran).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
I agor drysau: Mae astudio Ffrangeg ar lefel UG yn agor y drws i’r byd rhyngwladol cyffrous rydym yn byw ynddo. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, gwerthfawrogir ieithoedd yn fwy nag erioed Mae gallu cyfathrebu yn Ffrangeg yn sgil bywyd amhrisiadwy sy’n ein galluogi i gyfathrebu a chael gwell dealltwriaeth o’n hiaith gyntaf ein hunain. Ffrangeg yw iaith swyddogol 29 o wledydd ar draws nifer o gyfandiroedd gyda mwy na 284 miliwn o bobl yn siarad yr iaith. Mae astudio Ffrangeg yn eich galluogi i ddarganfod gwledydd a diwylliannau newydd.
I Dyfu: Mae astudio Ffrangeg yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu eich gwybodaeth ieithyddol a dealltwriaeth ddiwylliannol o wledydd a chymunedau lle siaredir Ffrangeg. Mae astudio’r themâu cymdeithasol, diwylliannol a pherthnasol wir yn eich helpu i ddysgu mwy am gymdeithas a diwylliant. Bydd dysgu Ffrangeg mewn dosbarth bach yn eich helpu i adeiladu eich hunanhyder yn ogystal â’ch rhuglder mewn Ffrangeg. Trwy astudio’r ffilm byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o’r plot, y cymeriadau, y themâu, a nodweddion arddull eraill. Wrth ddadansoddi’r ffilm yn fanwl byddwch yn gallu ymateb yn feirniadol yn ysgrifenedig. Mae’r sgiliau rydych chi’n eu hennill trwy ddysgu Ffrangeg yn drosglwyddadwy iawn i’r holl bynciau Safon Uwch eraill, mewn gwirionedd maen nhw’n ategu unrhyw gyfuniad o lefelau UG y dewiswch eu hastudio.
I Adeila du Eich Gyrfa: Waeth beth yr hoffech fynd ymlaen i’w wneud, ar ôl astudio iaith dramor fodern ar lefel UG, mae’n eich gosod ben ac ysgwydd uwchben y gweddill. Bydd y pwnc academaidd uchel ei barch hwn yn rhoi sicrwydd i ddarpar gyflogwyr neu adrannau derbyn prifysgolion eich bod nid yn unig yn gyfathrebwr rhagorol ond eich bod yn drefnus, yn llawn cymhelliant, yn frwdfrydig, yn ddyfeisgar, yn greadigol, yn gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal â gydag eraill.