
Technoleg Ddigidol UG/Safon Uwch
- Campws Y Graig
Mae’r cwrs UG/Safon Uwch mewn Technoleg Ddigidol wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn cael y wybodaeth ddiweddaraf am dechnolegau digidol gan eu galluogi i ddatblygu sgiliau y gellir eu defnyddio mewn gyrfaoedd sy’n defnyddio technolegau digidol.
Defnyddir technoleg ddigidol ym mhobman yn y byd sydd ohoni heddiw ac mae galw mawr am bobl sydd â sgiliau i ddefnyddio a datblygu’r technolegau hyn. Mae’r rhaglen yn cyfuno sgiliau ymarferol gyda theori academaidd. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o sut mae datblygiadau ym maes technoleg ddigidol, a’r lefelau cynyddol o gysylltedd rhyngddynt, yn effeithio ar fywydau’r rheiny sy’n eu defnyddio. Yn ogystal, bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau ymarferol wrth ddatblygu cynnyrch digidol creadigol a datrysiadau digidol i broblemau a wynebir gan sefydliadau.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y fanyleb TAG CBAC hon mewn Technoleg Ddigidol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu:
- dealltwriaeth o dechnolegau arwyddocaol o’r gorffennol, y presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg
- dealltwriaeth o natur integredig a chysylltiedig technolegau digidol a ddefnyddir gan unigolion a sefydliadau
- sgiliau ymchwilio ac archwilio materion cyn dod o hyd i ddatrysiadau effeithiol iddynt a’u rhoi ar waith
- sgiliau cynllunio, dylunio a chreu cynnwys ar y we a chynnwys amlgyfrwng arloesol sy’n diwallu anghenion cynulleidfaoedd penodol
- dealltwriaeth o effeithiau cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol ac amgylcheddol technolegau digidol ar unigolion a’r gymdeithas ehangach
- gwybodaeth am gylchred oes datblygu systemau a’i natur iterus a chylchol
UG Uned 1: Arloesi ym maes Technoleg Ddigidol, 50% o’r Cymhwyster UG (Arholiad ar-sgrin)
Mae’r uned yn ymwneud â chael gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnolegau digidol. Mae pynciau’n cynnwys systemau cysylltiedig, dyfeisiau clyfar ac egwyddor y Rhyngrwyd Pethau. Datblygiad deallusrwydd artiffisial, gan gynnwys dysgu peirianyddol a roboteg. Dulliau cylchredau oes technoleg ddigidol, dyluniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a chyfryngau cymdeithasol a’u defnydd.
UG Uned 2: Arferion Digidol Creadigol, 50% o’r Cymhwyster UG (Tasg Ymarferol)
Bydd yr uned yn gofyn i’r dysgwyr gynllunio prosiect sy’n arwain at greu, profi a mireinio gêm fideo sy’n bodloni anghenion cynulleidfa benodol. Bydd dysgwyr yn dylunio cydrannau’r gêm fideo gan gynnwys ‘sprites’ cymeriadau a modelau, lefelau a thiroedd, effeithiau clywedol a sain, systemau gemau a dulliau rhyngweithio.
U2 Uned 3: Systemau Cysylltiedig, 50% o’r Cymhwyster U2 (Arholiad ar-sgrin)
Mae’r uned yn archwilio pynciau megis dadansoddi data, seiberddiogelwch, rheolaethau gwydnwch a theilwra cymdeithasol. Rhwydweithiau technoleg ddigidol a’u rôl mewn cyfathrebu a thrawsyrru, a thechnolegau symudol.
U2 Uned 4: Datrysiadau Digidol, 50% o’r Cymhwyster U2 (Tasg Ymarferol)
Mae’r uned yn cynnwys dylunio, creu a phrofi datrysiad ar ffurf cronfa ddata gyda phen blaen seiliedig ar wefan gysylltiedig, i ddatrys problem realistig. Caiff offer rheoli project eu defnyddio fel rhan o ddull iterus.
Mae’r cwrs yn darparu sylfaen dda ar gyfer astudio technolegau digidol ymhellach mewn rhaglen radd gysylltiedig.
Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn llawer o yrfaoedd sy’n ymwneud â thechnoleg ddigidol fel cyfrifiadura fforensig, dylunio gwefannau neu apiau, marchnata digidol, dadansoddi data a gemau cyfrifiadurol.
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau ymarferol wrth ddatblygu cynnyrch digidol creadigol a datrysiadau digidol i broblemau a wynebir gan sefydliadau.
- UG Uned 1: Arloesi ym maes Technoleg Ddigidol - 50% o’r cymhwyster UG, 20% o’r cymhwyster Safon Uwch - Asesir trwy arholiad ar-sgrin.
- UG Uned 2: Arferion Digidol Creadigol - 50% o’r cymhwyster UG, 20% o’r cymhwyster Safon Uwch - Asesir trwy dasg ymarferol.
- U2 Uned 3: Systemau Cysylltiedig - 30% o’r cymhwyster Safon Uwch - Asesir trwy arholiad ar-sgrin.
- U2 Uned 4: Cronfeydd Data Perthynol - 30% o’r cymhwyster Safon Uwch - Asesir trwy dasg ymarferol.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Mathemateg, Saesneg Iaith ar radd C neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.