
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Sbaeneg
- Campws Y Graig
Mae’r cwrs hwn yn gyfle gwych i ddysgwyr adeiladu ar eu gwybodaeth flaenorol o Sbaeneg ac i gynyddu eu cariad at iaith a diwylliant Sbaen. Ar hyd y cwrs, rydym yn archwilio gwybodaeth ieithyddol a dealltwriaeth ddiwylliannol y byd lle siaredir Sbaeneg, a lle mae defnydd o’r iaith Sbaeneg ar lwyfan gwaith y byd yn cynyddu. Cyfyngir ar ddosbarthiadau Sbaeneg felly mae yna’r amser, y gofod a’r potensial i ymarfer a gwella’r sgiliau ymarferol mewn Sbaeneg ond hefyd rhoddir pwyslais cryf ar feithrin hyder y dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth. Mae Safon Uwch Sbaeneg yn cynnwys y cyfle i astudio llenyddiaeth a ffilm sy’n dangos persbectif gwahanol o Sbaen a diwylliannau a dylanwadau Sbaeneg eu hiaith. Mae astudio iaith ar Safon Uwch nid yn unig yn gwella eu gallu mewn Sbaeneg ond mae’n gwella’n helaeth amrywiaeth eang o sgiliau megis; cyfathrebu, trefnu, datrys problemau, meddwl beirniadol, creadigrwydd, ymrwymiad, sgiliau ymchwil annibynnol, a gweithio gydag eraill.
Yn ychwanegol, bydd gofyn i ymgeiswyr Safon Uwch: ddefnyddio’r iaith i gyflwyno safbwyntiau, datblygu dadleuon, dadansoddi a gwerthuso’n llafar ac yn ysgrifenedig; deall a chymhwyso’r system ramadegol ac ystod o strwythurau; astudio agweddau ar gymdeithas gyfoes, cefndir diwylliannol a threftadaeth un neu fwy o’r gwledydd neu’r cymunedau y mae eu hiaith yn cael ei hastudio; trosglwyddo ystyr o’r Gymraeg/Saesneg i’r iaith dramor.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r Adran Sbaeneg wedi cael canlyniadau rhagorol dros y blynyddoedd. Mae rhan o’r llwyddiant hwn yn ganlyniad i’r sicrwydd o grwpiau bach sy’n caniatáu sylw unigol i sgiliau, datblygiad a chaffael iaith trwy ymwneud ag ystod eang o bynciau cyfoes, diwylliannol a chymdeithasol.
Sbaeneg UG
- Uned 1 - UG Arholiad siarad
- Uned 2 - UG Arholiad ysgrifenedig (gwrando, darllen, cyfieithu, ymateb beirniadol ysgrifenedig)
- Thema 1: Bod yn berson ifanc mewn cymdeithas lle siaredir Sbaeneg.
- Thema 2: Deall y byd lle siaredir Sbaeneg
Yn ogystal â’r themâu a enwyd eisoes, rydym yn astudio ffilm a gramadeg a chyfieithu.
Sbaeneg U2
- Uned 3 - U2 Arholiad siarad
- Uned 4 - Gwrando, darllen, cyfieithu
- Uned 5 - Ymateb beirniadol a dadansoddol ysgrifenedig
- Thema 3: Amrywiaeth a Gwahaniaeth
- Thema 4: Y Ddwy Sbaen
Yn ogystal â’r themâu a enwyd eisoes, rydym yn astudio gwaith llenyddol a gramadeg a chyfieithu.
Mae Safon Uwch mewn Sbaeneg yn agor llawer o ddrysau, mae iaith dramor fodern yn ategu unrhyw bwnc ac mae’r sgiliau a enillir ar Safon Uwch yn gwella cais dysgwyr i astudio unrhyw ddisgyblaeth ar lefel AU.
Mae o leiaf 50% o’n myfyrwyr yn parhau i astudio iaith naill ai ar raglen gradd anrhydedd sengl neu ar raglen gradd anrhydedd gyfun. Yn 2018 aeth myfyriwr gradd A ymlaen i astudio Gwleidyddiaeth a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl ennill gradd A mewn Ffrangeg yng Ngholeg Sir Gâr ac mae’n gobeithio gweithio fel lobïwr rhyngwladol yn y Cenhedloedd Unedig.
Yn 2019, aeth myfyriwr gradd A tair-ieithog ymlaen i astudio Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Bryste ac mae cwmnïau mor amrywiol â KPMG (busnes) ac UNESCO (elusen ryngwladol) wedi cysylltu a gofyn iddo wneud cais am eu rhaglenni graddedig rhyngwladol.
UG - 40% y Dyfarniad Safon Uwch terfynol
Uned 1 arholiad llafar - 12% ;
Uned 2 gwrando, darllen, cyfieithu ac arholiad ysgrifenedig - 28%
U2 - 60% y Dyfarniad Safon Uwch terfynol
Uned 3 arholiad llafar - 18% ;
Uned 4 gwrando, darllen, cyfieithu ac arholiad ysgrifenedig - 30%
Uned 5 arholiad ysgrifenedig - 12%
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Sbaeneg ar radd B neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.