Skip page header and navigation

TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch y Gyfraith

  • Campws Y Graig
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Llofruddiaeth neu ddynladdiad? Euog neu ddieuog? Mae’r gyfraith yn bwnc cyfareddol, diddorol sy’n datblygu’n gyson ac sydd ag arwyddocâd trwy gydol ein bywydau o ddydd i ddydd. 

Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs Safon Uwch y gyfraith hwn yn dysgu am y system gyfreithiol, cyfraith trosedd, cyfraith camwedd a hawliau dynol, i enwi ond ychydig. Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau gan gynnwys cymhwyso rheolau cyfreithiol i gyflwyno dadl, dadansoddi a gwerthuso materion a chysyniadau cyfreithiol. Mae astudio’r gyfraith yng Ngholeg Sir Gâr yn eich galluogi i ddatblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol am rôl y gyfraith mewn cymdeithas. Mae ymweliadau â dosbarthiadau meistr a llysoedd barn yn rhan o’r cwrs ac o’r profiad ehangach o astudio’r gyfraith yng Ngholeg Sir Gâr.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Ffi Gweinyddu: £25.00

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn yn archwilio’r prosesau a’r strwythurau sy’n creu, gweinyddu a newid y gyfraith. Anogir trafodaethau ynghylch materion cyfreithiol cyfoes ac maen nhw’n arwain at wersi bywiog ar faterion yn ymwneud â throseddau, y farnwriaeth a deddfwriaeth. Mae yna ymweliadau addysgol â lleoedd o ddiddordeb fel y llysoedd lleol, y Goruchaf Lys a’r Old Bailey yn Llundain. Yn ychwanegol, mae ymweliadau â’r Senedd a chymryd rhan mewn dadleuon lleol. Mae siaradwyr gwadd fel cyfreithwyr lleol, ynadon, y CPS, yn aml yn mynychu dosbarthiadau i siarad â myfyrwyr ac mae myfyrwyr yn mynychu cynadleddau’r gyfraith Safon Uwch ym Mhrifysgol Abertawe a dosbarthiadau meistr y gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru.   

Mae llawer o gyfleoedd i’n myfyrwyr SEREN gymryd rhan mewn diwrnodau gwybodaeth, seminarau, ymweliadau a sgyrsiau sy’n canolbwyntio ar y gyfraith, y mae llawer ohonynt yn ddefnyddiol wrth ysgrifennu ceisiadau UCAS ar gyfer y gyfraith a graddau sy’n gysylltiedig â’r gyfraith ym mhrifysgolion gorau’r  Grŵp Russell.

Uned 1: Natur Y Gyfraith A Systemau Cyfreithiol Cymru A Lloegr

Mae’r uned hon yn gofyn i ddysgwyr ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o natur y gyfraith a systemau cyfreithiol Cymru a Lloegr. Mae’n canolbwyntio ar strwythur y system gyfreithiol, gwahanol ffynonellau deddfwriaeth, a sut mae’r systemau cyfiawnder troseddol a chyfiawnder sifil yn gweithio gan gynnwys personél cyfreithiol perthnasol ac ariannu achosion cyfreithiol. Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Deddfu
  • Dehongli Statudol
  • Barnwyr a Chynsail Farnwrol
  • Y Llysoedd Sifil
  • Y Broses Droseddol
  • Personél Cyfreithiol
  • Mynediad i Gyfiawnder

ASESU

Un arholiad ysgrifenedig ym mis Mai

(25% o’r Safon Uwch derfynol)

Uned 2: Cyfraith Camwedd

Mae’r uned hon yn gofyn i ddysgwyr ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o reolau a damcaniaeth cyfraith camwedd, gan gynnwys atebolrwydd o ran esgeuluster mewn perthynas ag anafiadau i bobl, atebolrwydd meddianwyr, a dealltwriaeth o rwymedïau, gan gynnwys iawndal, lliniaru colled a gwaharddebion. Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Rheolau a Damcaniaethau Cyfraith Camwedd
  • Atebolrwydd o ran Esgeuluster mewn perthynas ag Anafiadau i
  • Bobl a Difrod i Eiddo
  • Atebolrwydd MeddianwyrRhwymedïau

ASESU

Un arholiad ysgrifenedig ym mis Mai (15% o’r Safon Uwch derfynol)

Mae myfyrwyr llwyddiannus wedi symud ymlaen i astudio’r gyfraith a disgyblaethau eraill sy’n gysylltiedig â chyfraith ar lefel israddedig mewn nifer o brifysgolion y Grŵp Russell, gan gynnwys Caerdydd, Caerwysg, Bryste a’r Frenhines Mary yn Llundain.  Mae nifer wedi mynd ymlaen ymhellach i’r proffesiwn cyfreithiol ac ar hyn o bryd maent yn cael eu cyflogi fel cyfreithwyr a bargyfreithwyr mewn cwmnïau cyfreithiol llwyddiannus, siambrau a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae eraill wedi mynd i mewn i fusnes: corfforaethol ac annibynnol, addysgu, yr heddlu a’r gwasanaeth sifil. Caiff pob myfyriwr gefnogaeth lawn gan adran y gyfraith i lunio eu datganiadau personol ar gyfer ceisiadau prifysgol, gydag ymarfer ar gyfer y prawf LNAT, a gyda thechnegau cyfweliad. 

Mae cyn-fyfyriwr a wnaeth ennill gradd A yn y gyfraith ac sydd wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caerwysg bellach yn gyfreithiwr llwyddiannus a chyfarwyddwr mewn cwmni cyfreithiol lleol yn Llanelli. Graddiodd un arall gyda gradd yn y gyfraith o Brifysgol Abertawe, ar ôl astudio Safon Uwch y gyfraith gyda ni, ac mae wedi mynd ymlaen i fod yn bartner mewn cwmni cyfraith masnach blaenllaw ym Mryste.  Astudiodd cyn-fyfyriwr Safon Uwch y Gyfraith arall y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe ac mae bellach yn Uwcharolygydd gyda Heddlu Dyfed-Powys.

Yn fwy diweddar, mae myfyriwr a enillodd radd A* yn y coleg, yn cael ei gyflogi ar hyn o bryd fel gweithiwr paragyfreithiol mewn cwmni o gyfreithwyr lleol tra’n astudio hefyd ar y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn Abertawe gyda’r nod o gymhwyso fel cyfreithiwr: llwybr gwahanol tuag at leihau dyled, a chael yr un cymwysterau lefel uchel ar yr un pryd.

Lefel UG - 

Dau bapur ysgrifenedig: wedi’u marcio a’u cymedroli’n allanol. 

Lefel U2 - 

Dau bapur ysgrifenedig: wedi’u marcio a’u cymedroli’n allanol. 

DS: Nid oes yna elfen gwaith cwrs. 

Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys:  TGAU Saesneg Iaith/Llenyddiaeth Saesneg ar radd B neu uwch, TGAU Mathemateg ar radd C neu uwch.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Mwy o gyrsiau Safon Uwch

Chwiliwch am gyrsiau