Skip page header and navigation

TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Drama

  • Campws Y Graig
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Theatr yw’r stori rydyn ni, fel yr hil ddynol, yn ei hadrodd i ni ein hunain amdanom ni ein hunain. Dyma ein cof cyfunol yn ogystal â’n ffordd o archwilio pwy ydym ac i ble rydym yn mynd. Rydym wedi adrodd y stori hon ers dros 2500 o flynyddoedd ac rydym yn parhau i’w hadrodd ar ffurfiau newydd bob dydd. 

Cynlluniwyd y cwrs Safon Uwch drama hwn i ganiatáu i fyfyrwyr barhau i ddatblygu eu diddordebau mewn drama fel ymarferwyr ac fel ymchwilwyr i gyd-destun a genre theatrig. Caiff techneg berfformio glasurol a chyfoes ei datblygu ochr yn ochr â meddwl beirniadol a theori sydd yn ymwneud â swyddogaeth a phwrpas drama. Bob blwyddyn mae teithiau i amrywiaeth o gynyrchiadau, megis Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD), lleoliadau theatrig amgen, ac mae teithiau wedi’u cynllunio i Lundain er mwyn gwella ac ehangu eich dealltwriaeth o’r deunydd a ddaw i’ch rhan. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Ffi Gweinyddu: £25.00

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs yn annog myfyrwyr i fynd i weld cymaint o berfformiadau byw ag sy’n bosibl trwy gydol eu hamser ar y rhaglen.  Caiff y myfyrwyr eu hintegreiddio’n llawn i’r adran celfyddydau perfformio ac maent yn cael cyfle i ymwneud â sesiynau allgyrsiol, gweithdai a chynyrchiadau. 

Mae’r cwrs yn weithredol, yn ymarferol, yn ysgogi’r meddwl ac, yn anad dim, yn bleserus, gan ei fod yn caniatáu i fyfyrwyr y cyfle i wneud gwaith ymarferol mewn amgylchedd realistig yn ogystal â gwaith dosbarth.   Mae’n datblygu sgiliau ein myfyrwyr o fewn cyd-destun theatr y byd drwy astudio dramâu, eu dehongli a’r modd o ddod â hwy’n fyw o’r dudalen i’r llwyfan. 

Mae’r cwrs yn ychwanegu dimensiwn Cymreig wrth astudio neu berfformio gwaith dramodwyr Eingl-Gymreig drwy waith ymarferol yn Saesneg.

UG Uned 1: GWEITHDY THEATR,

‘Yn y cyfnodau tywyll a fydd yna ganu? Bydd, bydd canu am gyfnodau tywyll’.

Yma byddwch yn archwilio arddull theatrig Bertolt Brecht, ymarferydd theatraidd chwyldroadol y rhoddodd ei dechnegau nad oeddent yn rhithiol enedigaeth i lawer o’r hyn yr ydym yn ei adnabod fel theatr fodern. Archwiliodd Brecht allu’r theatr i ddifyrru, addysgu a sicrhau newid yn y byd.

Yn dilyn cyflwyniad i’w theori a’i dechnegau, byddwn yn eu rhoi ar waith trwy ail-ddehongli drama glasurol Geroge Bernard Shaw, “Mrs. Warren’s Profession”.

UG Uned 2: TESTUN MEWN THEATR,

‘Gwnewch ddaioni i’ch ffrindiau a dewch â niwed i’ch gelynion’

Yma byddwn yn archwilio clasur Ewripides, “Medeia”. Mae’r hanes am fenyw sy’n cael ei dirmygu a’r dialedd y mae hi’n ei geisio yn parhau i syfrdanu a swyno cynulleidfaoedd 2500 o flynyddoedd ar ôl iddo gael ei ysgrifennu.

Ein ffocws ar gyfer yr uned hon fydd sut mae theatr yn dod yn fyw ar y llwyfan ac yn cael ei gwneud yn ystyrlon i gynulleidfa fodern.

U2 Uned 3: TESTUN AR WAITH,

U2 Uned 4: TESTUN MEWN PERFFORMIAD

Mae Safon Uwch yn darparu sail ardderchog ar gyfer dilyniant i gymwysterau lefel uwch megis graddau neu ddiplomâu cenedlaethol uwch naill ai yn y brifysgol neu ysgol ddrama. Mae nifer o yrfaoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â drama gan gynnwys actor, rheolwr llwyfan, gweinyddwr celfyddydau, athro drama, therapydd drama neu swyddi cynhyrchu. Byddai gyrfaoedd eraill lle gallai’r sgiliau a ddatblygir trwy ddrama fod yn ddefnyddiol yn cynnwys gwaith cymunedol, newyddiaduraeth neu ysgrifennu creadigol, marchnata a gwerthiant, y cyfryngau a’r gyfraith.

Yn ogystal, mae drama yn ychwanegiad gwych i’r rheiny sy’n dilyn llwybrau sy’n gysylltiedig â Saesneg, hanes, gwleidyddiaeth, y gyfraith a seicoleg.  

UG

Uned 1: GWEITHDY THEATR: Gwaith cwrs 24% ynghyd â log creadigol a gwerthusiad.

Uned 2: TESTUN MEWN THEATR: Arholiad ysgrifenedig 16%.                                                                                                                                                                                          

A2

Uned 3: TESTUN AR WAITH: Gwaith cwrs 36% a fydd yn cynnwys adroddiad proses a gwerthuso.

Uned 4: TESTUN MEWN PERFFORMIAD: Arholiad ysgrifenedig 24%.

Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys:  TGAU Mathemateg, Cymraeg (Iaith Gyntaf)/Saesneg Iaith ar radd C neu uwch Argymhellir gradd C neu uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Bydd rhai ohonom eisiau astudio Drama oherwydd nad ydym wedi cael y cyfle i wneud hynny o’r blaen, bydd gan rai ddiddordeb yn y perfformiad (neu gyfarwyddo, neu ddylunio), bydd rhai ohonom wedi gwirioni ar archwilio dramâu a dychmygu sut y byddem yn dod â nhw yn fyw ar y llwyfan, mae’n debyg na all rhai ohonom esbonio pam ein bod yn cael ein denu tuag at theatr - dim ond bod yna rywbeth y tu mewn i ni sy’n methu dychmygu PEIDIO â’i ddilyn. Ta waeth, os ydych chi’n barod i weithio mae croeso i chi i gyd.

Y tu hwnt i’r uchod, mae Drama ac Astudiaethau Theatr yn werthfawr i’r rheiny a hoffai archwilio’r byd ysgrifennu a pherfformio sydd wedi parhau ers sefydlu gwareiddiad. Mae’n gyfle i hogi sgiliau perfformiad, magu hyder, gwella galluoedd i ddod ar draws a dadansoddi testunau, ehangu galluoedd i feddwl yn greadigol a datblygu’r etheg waith i drosi hyn yn berfformiad ymarferol.

Mae cyfleoedd gyrfa yn amrywiol ac yn niferus yn y diwydiant theatr ond mae’r pwnc hefyd yn paru’n dda ar gyfer gyrfaoedd sy’n elwa o’r creadigrwydd, craffter meddyliol a’r dewrder y mae theatr yn gofyn amdanynt. Mae myfyrwyr yn aml yn dilyn theatr ar y cyd ag ystod o bynciau dyneiddiol gan gynnwys y Gyfraith, Saesneg, y Cyfryngau, Seicoleg a Hanes

Mwy o gyrsiau Safon Uwch

Chwiliwch am gyrsiau