
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Cyfrifiadureg
- Campws Y Graig
Defnyddir cyfrifiaduron yn helaeth ym mhob agwedd ar fusnes, diwydiant, llywodraeth, addysg, hamdden a’r cartref. Yn yr oes dechnolegol hon, mae astudiaeth o gyfrifiadureg, ac yn enwedig sut mae cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio i ddatrys amrywiaeth o broblemau yn hanfodol i les y wlad yn y dyfodol. Mae’r gallu i feddwl yn rhesymegol a gallu dylunio a chynllunio’n ofalus yn sgil gwerthfawr. Mae’r cwrs Safon Uwch cyfrifiadureg hwn yn rhoi pwyslais mawr ar raglennu cyfrifiadurol gan ddefnyddio ieithoedd gweledol modern.
Mae diddordeb mawr a brwdfrydedd dros fod eisiau ysgrifennu eich rhaglenni pwrpasol eich hun yn hanfodol a bydd diddordeb mewn caledwedd a meddalwedd yn fantais gan fod y cynnwys theori yn ymdrin â sawl agwedd ar y pynciau hyn.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd disgwyl i chi gael dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau sylfaenol cyfrifiadureg, a’r gallu i’w cymhwyso, yn cynnwys crynodebu, dadelfennu, rhesymeg, algorithmau a chynrychioliad data.
Y gallu i ddadansoddi problemau yn nhermau cyfrifiadurol trwy brofiad ymarferol o ddatrys problemau o’r fath, gan gynnwys ysgrifennu rhaglenni i wneud hynny.
Y gallu i feddwl yn greadigol, yn arloesol, yn ddadansoddol, yn rhesymegol ac yn feirniadol, y gallu i weld perthnasoedd rhwng gwahanol agweddau ar gyfrifiadureg.
Sgiliau mathemategol.
Y gallu i gyfleu cyfleoedd a risgiau unigol (moesol), cymdeithasol (moesegol), cyfreithiol a diwylliannol technoleg ddigidol.
Rhennir y cwrs hwn yn bum uned. Mae dwy yn cael eu gwneud ar lefel UG. Mae tair yn cael eu gwneud ar lefel U2.
- UG UNED 1: Hanfodion cyfrifiadureg
- UG UNED 2: Rhaglennu ymarferol i ddatrys problemau
- U2 UNED 3: Rhaglennu a datblygu systemau
- U2 UNED 4: Pensaernïaeth Gyfrifiadurol, Cyfathrebu Data a Chymwysiadau U2
- U2 UNED 5: Datrysiad wedi’i Raglennu i Broblem
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r blociau adeiladu hanfodol o feddwl yn rhesymegol a chymhwysol. Bydd yn caniatáu trosglwyddo’r sgiliau hyn i bob rhan o fywyd. Byddwch yn gallu adnabod problem, ei dadansoddi a darparu datrysiad.
Gyda phwyslais yn cael ei roi ar gyfrifiadureg, gall y maes hwn ddarparu llawer o gyfleoedd cyflogaeth i chi mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau.
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis astudio cyfrifiadureg yn y brifysgol, tra bod eraill yn ei defnyddio fel sylfaen resymegol gadarn i astudio pynciau eraill. Mae myfyrwyr wedi sicrhau lleoedd i astudio’r pwnc hwn yn nifer o brifysgolion nodedig y Grŵp Russell fel Caerdydd, Bryste, Leeds a Chaerwysg.
Caiff unedau UG eu hasesu.
- UNED 1 - arholiad ysgrifenedig - 2 awr - 25% o’r cymhwyster
- UNED 2 - arholiad ar sgrin - 2 awr - 15% o’r cymhwyster
Caiff unedau U2 eu hasesu.
- UNED 3 - arholiad ysgrifenedig - 2 awr - 20% o’r cymhwyster
- UNED 4 - arholiad ysgrifenedig - 2 awr - 20% o’r cymhwyster
- UNED 5 - prosiect di-arholiad - 20% o’r cymhwyster
Gellir dilyn cyfrifiadureg ar lefel UG heb fod wedi astudio’r pwnc cyn hynny. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr 16 i 19 oed fod ag o leiaf chwech TGAU graddau A*. Caniateir dysgwyr sy’n oedolion ar y cwrs yn ôl disgresiwn yr adran.
Gradd B mewn TGAU mathemateg (Haen Uwch);
Gradd C mewn TGAU Saesneg;
Mae TGAU cyfrifiadureg yn fanteisiol, ond nid yw’n hanfodol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Cyfrifiadur cartref sy’n gallu rhedeg Windows 10 a Microsoft Visual Studio 2019.
Gellir gwneud y rhan fwyaf o waith wedi’i deipio gan ddefnyddio Google Docs a Google Slides, felly nid oes angen prynu meddalwedd ar gyfer hyn.
Gall fod gofyniad yn uned pump i ddefnyddio Microsoft Access, felly gall cost hyn fod yn rhywbeth i’w ystyried.
Gall pob un o’r pynciau STEM eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, megis meddwl beirniadol, datrys problemau, meddwl ochrol, a gweithio fel rhan o dîm, sy’n rhinweddau y mae galw mawr amdanynt i unrhyw gyflogwr.
Maen nhw’n drwyadl yn academaidd, a hefyd yn dangos gallu i reoli llwythi gwaith trwm, cymhelliant a sgiliau cadw amser, a gallant arwain at y swyddi sy’n talu fwyaf.
Mae pynciau STEM yn heriol, a bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliad ac ymgysylltu’n llwyr i fod yn llwyddiannus. Mae cydberthynas gadarnhaol gref rhwng myfyrwyr sy’n mwynhau’r pynciau hyn a myfyrwyr sy’n llwyddiannus.