Skip page header and navigation

TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Daearyddiaeth

  • Campws Y Graig
UG -1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Daearyddiaeth yw’r allwedd i ddeall lleoedd a phobl. Mae’n ein helpu i wneud synnwyr o’n bywydau ein hunain yn y byd ac i wynebu materion hanfodol megis erydu arfordirol, llygredd plastigion, newid yn yr hinsawdd, lleihad mewn cyflenwadau ynni, tlodi a gwrthdaro. Mae’n cwmpasu safbwyntiau ffisegol, dynol, geowleidyddol a gofodol/GIS ar y byd a’r dirwedd a’r ffiniau newidiol. Hefyd, mae’n bwnc ymarferol, sy’n dysgu llawer o sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr gan gynnwys, nodi patrymau, dadansoddi data, defnyddio ystadegau, deall gwahanol safbwyntiau, gwaith map, tirfesur, datrys problemau a meddwl yn feirniadol.

Mae myfyrwyr sy’n astudio’r pwnc Safon Uwch daearyddiaeth yn cael y cyfle i astudio daearyddiaeth trwy brofiadau gwaith maes rheolaidd.  Mae myfyrwyr yn astudio ardaloedd annibynnol a diwylliannol newidiol Bryste.  Mae myfyrwyr yn dringo ac yn cerdded dros glogwyni arfordirol, traethau a thwyni tywod, gan ddysgu am y berthynas rhwng y dirwedd, y ddaeareg oddi tani a rheolaeth tir. Yn yr ail flwyddyn, mae myfyrwyr yn cwblhau darn o waith cwrs (20%) sy’n rhoi’r cyfle iddynt astudio amrywiaeth o bynciau megis sbwriel traeth a llygredd dŵr, rheolaeth arfordirol, neu effaith mudo ar fannau adwerthu. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
UG -1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Ffi Gweinyddu: £25.00

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd ar lefelau lleol, rhanbarthol a byd-eang. Gwneir myfyrwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd datblygiad cynaliadwy. Mae daearyddiaeth yn darparu dealltwriaeth o’r gydberthynas rhwng dynion a’r amgylchedd ffisegol.  

Mae daearyddiaeth yn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan yn y broses ddysgu trwy waith maes a gwaith ymarferol.

Gall daearyddiaeth ategu ymdeimlad personol o ddinasyddiaeth a’r gallu i ffurfio barn ar sail gwybodaeth trwy astudio beirniadol a sensitif gydag ymwybyddiaeth o eraill.  Mae’r pwnc yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gwerthoedd a’u dealltwriaeth eu hunain o farn a chanfyddiadau pobl sy’n ymwneud â phrosesau gwneud penderfyniadau, yn enwedig y rheiny sy’n gysylltiedig â defnyddio a rheoli adnoddau a’r amgylchedd.

Lefel UG - Blwyddyn 1

Yn eich blwyddyn gyntaf yn astudio daearyddiaeth, byddwch yn archwilio’r broses arfordirol, tirffurfiau a rheolaeth, peryglon tectonig ac yn edrych ar leoedd newidiol, gan roi ymagwedd gytbwys tuag at ddaearyddiaeth ffisegol a dynol a’r berthynas rhwng pobl a’r amgylchedd, y prosesau ffisegol yr ydym yn byw ynddynt. Mae yna deithiau maes i helpu myfyrwyr wneud y cysylltiadau rhwng yr hyn sy’n cael ei astudio yn y dosbarth a sut y mae hi yn y byd go iawn. Hefyd, rydym yn datblygu sgiliau daearyddol hanfodol a fydd yn cael eu hadeiladu ymhellach ym mlwyddyn dau. 

U2 - Safon Uwch - Blwyddyn 2

Mae blwyddyn dau mor berthnasol i’r byd geowleidyddol yr ydym ni ynddo heddiw. Mae’r pynciau dan sylw yn ein cynorthwyo i archwilio systemau a llywodraethiant byd-eang sydd yn aml yn arwain at faterion ac anghydfodau sy’n croesi ffiniau. Defnyddiwn sgiliau dadansoddol i gael gwell dealltwriaeth o faterion megis ymateb i drychineb naturiol, llygru ein cefnforoedd, diogelwch bwyd ac ynni ac ati. Maent yn gyfoes ac yn berthnasol i ni gyd a byddant yn dylanwadu ar ein mannau gwaith, ein teuluoedd a’n perthnasoedd â gwledydd ledled y byd.

Mae myfyrwyr llwyddiannus wedi mynd ymlaen i astudio daearyddiaeth ym Mhrifysgolion Caergrawnt, Caerwysg, Queen’s yn Belfast, Bryste, Caerhirfryn a Plymouth.  Maen nhw wedi mynd ymlaen i astudio cysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol y Frenhines Mary, Llundain, cynllunio trefol ym Mhrifysgol Caerdydd a daeareg a daearyddiaeth ym Mhrifysgolion Aberdeen ac Aberystwyth. Mae myfyrwyr sydd â gradd mewn daearyddiaeth wedi sicrhau swyddi mewn adrannau cynllunio tref a dinas, cwmnïau olew a nwy, syrfeo tir, asiantaethau cludiant, Asiantaeth yr Amgylchedd/Cyfoeth Naturiol Cymru, ac elusennau tramor fel Oxfam.

Mae gyrfaoedd sy’n dilyn o radd mewn daearyddiaeth yn cynnwys rheolaeth afonydd, rheolaeth arfordirol, amddiffynfeydd rhag llifogydd, gweithiwr datblygu cadwraeth, rheolaeth digwyddiadau, logisteg, cyfrifeg a wardeniaid y Parc Cenedlaethol. 

Lefel UG - Blwyddyn un

  • Uned 1 Tirweddau Newidiol (Tirweddau Arfordirol a Pheryglon Tectonig) arholiad ysgrifenedig 24% 
  • Uned 2 Lleoedd newidiol arholiad ysgrifenedig 16% 

U2 - Safon Uwch - Blwyddyn dau

  • Uned 3 - Systemau byd-eang a llywodraethiant byd-eang (cylchred ddŵr, cylchred garbon, llywodraethiant cefnforoedd a mudo byd-eang) arholiad ysgrifenedig 24% 
  • Uned 4 - Themâu cyfoes mewn daearyddiaeth (Datblygiad yn Affrica Is-Sahara, Dilemâu ynni a pheryglon tectonig) arholiad ysgrifenedig 16% 
  • Uned 5 - Gwaith cwrs Ymchwiliad Annibynnol 20% - gwaith maes a rhai amodau dan reolaeth 

Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys:  TGAU Saesneg Iaith, Mathemateg, Gwyddoniaeth Ddwbl/Triphlyg, a Daearyddiaeth ar radd C neu uwch. Bydd myfyrwyr heb TGAU Daearyddiaeth ond sydd â lefel uchel o allu mewn pynciau cysylltiedig yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Mwy o gyrsiau Safon Uwch

Chwiliwch am gyrsiau