
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Dylunio Tecstilau
- Campws Y Graig
Rhaglen dwy flynedd yw’r cwrs tecstilau hwn sy’n canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth eang o decstilau. Nod y rhaglen yw bod pob dysgwr yn datblygu ei arddull unigryw ei hun a defnyddio dulliau llawn dychymyg i ddatblygu sgiliau ac ymagweddau unigol i’w creadigrwydd mewn dylunio tecstilau. Anogir dysgwyr i archwilio diddordebau a syniadau unigol dros ystod o genres trwy ddatblygu llyfrau braslunio digidol a ffisegol i gofnodi eu cynnydd. Mae llyfrau braslunio yn ffurfio rhan annatod o’r cwrs a chaiff dysgwyr eu hannog i ddatblygu eu harddulliau creadigol eu hunain ar gyfer eu cyflwyno. Cânt eu defnyddio i gefnogi cynhyrchu canlyniadau wedi’u cwblhau a chynhyrchion gorffenedig.
Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau mewn lluniadu a darlunio, patrymau arwyneb, llunio dillad a gwnïo. Mae sesiynau stiwdio ar gael i ddysgwyr wneud defnydd o gyfarpar yn ystod eu hamser rhydd. Caiff astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol eu hintegreiddio o fewn prosiectau personol pob dysgwr er mwyn cynorthwyo i danategu eu gwaith ymarferol ac i ddatblygu eu llythrennedd a’u gwybodaeth o’r pwnc. Mae dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol, ymweld ag arddangosfeydd ac orielau. Trefnir gweithdai ar gyfer yr holl ddysgwyr ac mae dysgwyr UG a dysgwyr Safon Uwch yn cael cyfle i arddangos eu gwaith mewn arddangosfa diwedd y flwyddyn.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau mewn dulliau printio traddodiadol a/neu ddigidol, tecstilau lluniedig, gosodiadau tecstil, cyfwisgoedd a ffasiwn. Mae sesiynau stiwdio ar gael i ddysgwyr wneud defnydd o gyfarpar yn ystod eu hamser rhydd.
Caiff astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol eu hintegreiddio ym mhrosiectau personol pob dysgwr.
Trefnir ymweliadau ag arddangosfeydd, orielau a gweithdai ar gyfer yr holl ddysgwyr.
Mae holl ddysgwyr yr ail flwyddyn a dysgwyr dethol o’r flwyddyn gyntaf yn arddangos eu gwaith mewn arddangosfa diwedd y flwyddyn.
LEFEL UG - Ymholiad creadigol personol
SAFON UWCH: Ymchwiliad personol ac aseiniad wedi’i osod yn allanol
Mae’r rhaglen yn darparu sail ardderchog ar gyfer dilyniant i addysg uwch. Mae myfyrwyr blaenorol wedi symud ymlaen i ystod o gyrsiau creadigol a damcaniaethol ar draws y DU a thu hwnt. Mae’r coleg yn cynnig llwybrau Sylfaen Celf a Dylunio a Graddau BA (Anrh) mewn ystod o gyrsiau creadigol i gefnogi dilyniant pellach. Mae dilyniant creadigol trwy’r diwydiannau creadigol, y cyfryngau, dylunio graffig a dylunio sail ddigidol ac amrywiaeth o bynciau hanesyddol a damcaniaethol.
O ganlyniad i’r ffocws ar gymhwyso ysgrifenedig ac ymarferol hefyd, nid yw dilyniant yn gyfyngedig i’r meysydd creadigol ac mae’r rhaglen astudio hon yn cefnogi ystod eang o astudiaethau pellach.
UG
Mae gan decstilau un uned: portffolio gwaith cwrs gwerth 100%
Safon Uwch
Mae gan decstilau ddwy uned: uned gwaith cwrs ymchwiliad personol gwerth 60%, aseiniad dan reolaeth gwerth 40%.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Mathemateg, Saesneg Iaith, a phwnc seiliedig ar gelf (neu bortffolio o waith) ar radd C neu uwch.
Mae yna ffi stiwdio o £20 i dalu am adnoddau a chyfarpar arbenigol sydd eu hangen.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. Efallai y bydd cost ychwanegol fechan os bydd ymweliadau ag orielau celf neu arddangosfeydd.