
Ffotograffiaeth Safon Uwch / Uwch Gyfrannol
- Campws Y Graig
Rhaglen dwy flynedd yw’r cymhwyster Safon Uwch Ffotograffiaeth hwn sy’n canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth eang o’r pwnc. Nod y rhaglen yw bod pob dysgwr yn datblygu ei lais unigryw ei hun gan ddefnyddio delweddaeth weledol, a chymhwyso dealltwriaeth dechnegol a chyd-destunol yn hyderus i wireddu ei uchelgais greadigol. Anogir dysgwyr i archwilio diddordebau a syniadau unigol dros ystod o genres trwy ddatblygu llyfrau braslunio i gofnodi eu cynnydd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cipio eiliad, archwilio eich amgylchedd neu mewn cymryd ffotograffau artistig cyffrous bydd y cwrs hwn yn archwilio’r themâu hyn. Bydd y cwrs yn edrych ar pam fod ffotograffiaeth yn bwysig fel cyfrwng gweledol, ei chyd-destun hanesyddol ac artistig yn ogystal â sut y gallwch ei datblygu fel offeryn gweledol i greu celfyddyd. Rydyn ni’n astudio cyfansoddiad, goleuo, technegau camera, Adobe Photoshop, triniaeth artistig a dysgu annibynnol. Mae dilyniant i gyrsiau sylfaen a gradd yn gyffredin mewn ffotograffiaeth, dylunio a chelfyddyd gain.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Caiff dulliau analog a digidol o greu delweddau eu dysgu yn ogystal â phrosesau arbrofol, e.e. Twll Pin
Caiff meddalwedd o safon ddiwydiannol, yn bennaf Adobe Creative Cloud - Photoshop eu dysgu trwy gydol y cwrs.
Mae camerâu, goleuadau a chyfarpar arall ar gael i’r myfyrwyr eu benthyg. Caiff astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol eu hintegreiddio ym mhrosiectau personol pob myfyriwr. Mae dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol. Trefnir ymweliadau ag arddangosfeydd, orielau a gweithdai ar gyfer yr holl ddysgwyr.
Mae holl ddysgwyr yr ail flwyddyn a dysgwyr dethol o’r flwyddyn gyntaf yn arddangos eu gwaith mewn arddangosfeydd rhithwir diwedd y flwyddyn.
Ar y cwrs hwn cewch gyflwyniad i amrywiaeth o ddulliau, technegau a phrosesau ffotograffig. Yna, cewch eich annog i edrych ar y byd o ongl newydd, yn weledol ac yn gysyniadol hefyd, gan ymateb i’r cysyniadau hyn gan ddefnyddio camera. Dysgir dulliau ffotograffig traddodiadol a digidol er mwyn datblygu sgiliau technegol hanfodol Bydd hyn yn rhoi ymagwedd hyderus, dan reolaeth, i chi wrth gynllunio, trefnu a chwblhau eich sesiynau tynnu lluniau, gyda ffotograffiaeth ar leoliad a ffotograffiaeth stiwdio yn cael eu hymarfer.
Cyflwynir ffynonellau cyd-destunol, eu trafod a’u dadansoddi i roi dealltwriaeth eang i chi o ffotograffiaeth, yn hanesyddol ac yn gyfoes. Bydd yn eich galluogi fel ffotograffydd wrth ei waith i adolygu’n feirniadol a phersonol a gwella eich ymarfer eich hun. Fel myfyriwr Ffotograffiaeth Safon Uwch byddwch yn cadw llyfr braslunio gweledol.
Byddwch yn datblygu balchder yn hwn ac ymrwymiad i gofnodi popeth sydd o bwys i chi mewn fformatau ysgrifenedig a gweledol. Cewch gyflwyniad i bedwar prif faen prawf asesu’r cymhwyster a byddwch yn defnyddio’r rhain yn effeithiol i ennill gradd cymhwyster Safon Uwch dda.
Ar y cwrs hwn byddwch yn datblygu eich gallu i:
-
ddefnyddio camera fel offeryn i archwilio syniadau, cysyniadau a safbwyntiau’n greadigol ac effeithiol.
-
dysgu sut i ddefnyddio iaith weledol ffotograffig mewn modd grymus i gyfathrebu ag eraill.
-
archwilio elfennau gweledol llinell, patrwm, siâp, ffurf, lliw a chyd-destun.
-
deall a defnyddio gosodiadau technegol fel agorfa, cyflymder caead, dyfnder ffocws a phylu i wella eich ymarfer.
-
deall arferion digidol a thechnegau ôl-gynhyrchu.
Mae llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio celfyddydau creadigol, gan arbenigo mewn ffotograffiaeth, i ysgolion celf yng Nghymru a Lloegr ac maen nhw wedi sefydlu gyrfaoedd mewn ffasiwn, hysbysebu, neu wedi sefydlu eu busnesau ffotograffiaeth eu hunain.
Lefel UG
Mae 100% o’r gwaith cwrs yn canolbwyntio ar y portffolio
Lefel U2
Gwaith cwrs 76%, Asesiad Dan Reolaeth 24%
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Mathemateg, Saesneg Iaith, a phwnc seiliedig ar gelf (neu bortffolio o waith) ar radd C neu uwch.
Mae yna ffi stiwdio o £20 i dalu am adnoddau a chyfarpar arbenigol sydd eu hangen.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. Efallai y bydd cost ychwanegol fechan os bydd ymweliadau ag orielau celf neu arddangosfeydd.