
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Mathemateg / Mathemateg Bellach
- Campws Y Graig
Mae Mathemateg yn iaith gyffredinol, ac yn llythrennol, dyma’r ffordd mae’r bydysawd yn datgelu ac yn cyfathrebu ei ddirgelion i’r hil ddynol. Yn aml caiff deddfau gwyddorau naturiol (Ffiseg, Cemeg a Bioleg) eu mynegi’n gryno gan ddefnyddio hafaliaid mathemategol, megis PV=nRT, V=IR, n = 2s2 F=ma ac ati, felly argymhellir yn gryf eich bod yn cwblhau o leiaf cwrs Uwch Gyfrannol mewn Mathemateg os ydych yn meddwl am astudio gwyddorau ar lefel UG/Safon Uwch.
Mae Mathemateg yn modelu’r byd go iawn, a thrwy ddefnyddio hafaliaid mae ganddi’r gallu i ragfynegi beth allai ddigwydd yny dyfodol, gyda phethau megis trawiadau asteroidau, cynhesu byd-eang, twf poblogaeth, lledaeniad clefydau ac ati, pob un ohonynt yn achos pryder i’r hil ddynol, gyda chyngor a roddir i asiantaethau’r llywodraeth.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs UG/Safon Uwch Mathemateg hwn yn adeiladu ar wybodaeth a enillwyd o’r cwrs TGAU mathemateg haen uwch, ond mae’n datblygu’r deunydd yn drwyadl i lefel uchel wrth baratoi ar gyfer gradd brifysgol mewn mathemateg/gwyddoniaeth.
Cyflwynir y cwrs drwy fformat arddull darlith sydd hefyd yn cynnwys trafodaeth ddosbarth a’r cyfle i ymarfer cwestiynau, ynghyd â thrafodaeth un i un gyda’ch darlithwyr a chymheiriaid. Ar ddiwedd y rhan fwyaf o ddarlithoedd, gosodir ymarferion gwaith cartref graddedig sy’n cael eu marcio/eu hasesu a’u dychwelyd i chi gyda chywiriadau ac awgrymiadau addas ar sut i wella.
Mae’r rhaglenni UG/Safon Uwch mathemateg a mathemateg bellach yn cynnwys astudio elfennau craidd mathemateg bur, mecaneg ac ystadegau. Dyma bileri’r holl gyrsiau mathemateg, sy’n darparu paratoad cadarn a thrwyadl i chi ar gyfer astudiaeth bellach mewn addysg uwch neu ar gyfer cyflogaeth.
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr Safon Uwch mathemateg yn symud ymlaen i addysg uwch i ddilyn cwrs gradd. Fodd bynnag, mae rhai yn dewis cyflogaeth.
Bydd y sgiliau rhifiadol, rhesymegol, dadansoddol a meddwl yn feirniadol y byddwch yn eu datblygu drwy’r cwrs hwn yn sicrhau lefelau uchel o gyflogadwyedd.
I’r myfyrwyr hynny sy’n gobeithio sicrhau lle yn Rhydychen a Chaergrawnt neu brifysgolion y Grŵp Russell ar gyfer y gwyddorau naturiol, economeg, ac ati, mae cael Safon Uwch mewn Mathemateg Bellach yn aml yn ddymunol, neu mewn rhai achosion, yn hanfodol.
Trwy arholiadau allanol yn unig.
Dau arholiad modiwl ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a dau arall ar ddiwedd yr ail flwyddyn ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch.
Mae myfyrwyr mathemateg bellach yn sefyll Safon Uwch mathemateg ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf ac yna’n mynd ymlaen i astudio pum uned mathemateg bellach ychwanegol yn yr ail flwyddyn.
UG Mathemateg: Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Mathemateg (Haen Uwch) ar Radd B neu uwch. UG Mathemateg Bellach: Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Mathemateg (Haen Uwch) ar radd A neu uwch. Yn ddelfrydol, bydd myfyrwyr hefyd wedi astudio cymhwyster CBAC Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Bydd angen cyfrifiannell Casio fx 991 EX arnoch hefyd.
Gall pob un o’r pynciau STEM eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, megis meddwl beirniadol, datrys problemau, meddwl ochrol, a gweithio fel rhan o dîm, sy’n rhinweddau y mae galw mawr amdanynt i unrhyw gyflogwr.
Maen nhw’n drwyadl yn academaidd, a hefyd yn dangos gallu i reoli llwythi gwaith trwm, cymhelliant a sgiliau cadw amser, a gallant arwain at y swyddi sy’n talu fwyaf.
Mae pynciau STEM yn heriol, a bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliad ac ymgysylltu’n llwyr i fod yn llwyddiannus. Mae cydberthynas gadarnhaol gref rhwng myfyrwyr sy’n mwynhau’r pynciau hyn a myfyrwyr sy’n llwyddiannus.