
Mynediad i Addysg Uwch - Celf a Dylunio
- Campws Y Graig
Mae Bioleg yn bwnc UG poblogaidd iawn ac fe’i rhestrir fel ‘pwnc hwyluso’ gan brifysgolion y Grŵp Russell. Mae’n bwnc academaidd sy’n helpu i roi’r opsiynau mwyaf eang i chi wrth wneud cais i brifysgol oherwydd y manwl gywirdeb a’r ystod o sgiliau sydd eu hangen i’w astudio’n llwyddiannus. Cynigia’r cwrs ddigon o gyfle i fwynhau ochr ymarferol y pwnc.
Fodd bynnag, mae’n un o’r pynciau academaidd mwy heriol, sy’n gofyn am ymrwymiad cyson, sylw i fanylder a chwrdd â therfynau amser. Mae Bioleg yn ddewis gwych ar gyfer y rheiny sydd am ddilyn gyrfa yn y proffesiynau iechyd a chlinigol, megis meddygaeth, deintyddiaeth, milfeddygaeth, ffisiotherapi, fferylliaeth, optometreg, nyrsio, bioleg y môr neu wyddoniaeth fforensig.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae Safon Uwch bioleg yn gwrs heriol, gwerth chweil sy’n helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer gyrfa lwyddiannus. Mae’n bwnc hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio mewn gofal iechyd, fferylleg, y diwydiant bwyd, gwyddor amgylcheddol ac ystod eang o yrfaoedd eraill.
Mae llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn gradd sy’n ymwneud â bioleg, tra bod eraill yn defnyddio eu cymhwyster bioleg i gael lleoedd i astudio’r gyfraith, cyfrifiadura, cyfrifyddu, ieithoedd neu ddyniaethau. Felly, pa faes bynnag y byddwch chi’n gweithio ynddo yn y pen draw, byddwch yn gweld bod Bioleg yn gwrs boddhaus a heriol dros ben a fydd yn datblygu llawer o’r sgiliau sy’n hanfodol er mwyn cael gyrfa lwyddiannus.
Asesir unedau UG trwy ddau bapur arholiad ysgrifenedig (40% o’r Safon Uwch llawn) ac
Asesir unedau U2 trwy ddau arholiad ysgrifenedig (50%) ac arholiad ymarferol (10%).
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Mathemateg (Haen Ganolradd/Uwch), TGAU Gwyddoniaeth Ddwbl/Triphlyg ar radd B neu uwch, a TGAU Saesneg Iaith ar radd C neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Gall pob un o’r pynciau STEM eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, megis meddwl beirniadol, datrys problemau, meddwl ochrol, a gweithio fel rhan o dîm, sy’n rhinweddau y mae galw mawr amdanynt i unrhyw gyflogwr.
Maen nhw’n drwyadl yn academaidd, a hefyd yn dangos gallu i reoli llwythi gwaith trwm, cymhelliant a sgiliau cadw amser, a gallant arwain at y swyddi sy’n talu fwyaf.
Mae pynciau STEM yn heriol, a bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliad ac ymgysylltu’n llwyr i fod yn llwyddiannus. Mae cydberthynas gadarnhaol gref rhwng myfyrwyr sy’n mwynhau’r pynciau hyn a myfyrwyr sy’n llwyddiannus.