
TAG Safon Uwch Celf a Dylunio
- Campws Y Graig
Rhaglen dwy flynedd yw’r cwrs celf a dylunio Safon Uwch hwn sy’n canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth eang o gelf, crefft a dylunio. Nod y rhaglen yw bod pob dysgwr yn datblygu ei lais unigryw ei hun gan ddefnyddio delweddaeth weledol, a chymhwyso dealltwriaeth dechnegol a chyd-destunol yn hyderus i wireddu ei weledigaeth a’i greadigrwydd.
Anogir dysgwyr i archwilio diddordebau a syniadau unigol dros ystod o genres trwy ddatblygu llyfrau braslunio i gofnodi eu cynnydd. Mae llyfrau braslunio yn ffurfio rhan annatod o’r cwrs a chaiff dysgwyr eu hannog i ddatblygu eu harddulliau creadigol eu hunain ar gyfer eu cyflwyno, a all gynnwys cynhyrchu llyfrau braslunio â llaw ac integreiddio gwaith digidol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys technegau megis peintio a lluniadu, darlunio, collage, technegau 3D a gwneud printiau. Mae datblygu syniadau gan ddefnyddio lluniadu arsylwadol uniongyrchol yn fan cychwyn hanfodol ar gyfer pob prosiect.
Darperir cyfleoedd a chystadlaethau allanol i’r holl ddysgwyr er mwyn eu gwthio y tu hwnt i’w cylch cysur a datblygu profiadau allgyrsiol. Mae’r holl ddysgwyr yn cael y newyddion diweddaraf am arddangosfeydd cyfredol a digwyddiadau o ddiddordeb, gyda theithiau’n cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn. Mae celf a dylunio UG yn cynnwys portffolio o waith cwrs ac mae Safon Uwch celf a dylunio yn cynnwys modiwl portffolio wedi’i gychwyn gan y dysgwr ei hun ac asesiad dan reolaeth a osodir yn allanol.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Stiwdio: £20.00 Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau mewn peintio, lluniadu, gwaith 3D, darlunio a gwneud printiau. Mae sesiynau stiwdio ar gael i ddysgwyr er mwyn iddynt allu defnyddio cyfarpar yn eu hamser rhydd. Caiff astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol eu hintegreiddio ym mhrosiectau personol pob dysgwr. Mae dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol, ymweliadau ag arddangosfeydd, orielau a threfnir gweithdai ar gyfer yr holl ddysgwyr. Mae holl ddysgwyr yr ail flwyddyn a dysgwyr dethol o’r flwyddyn gyntaf yn arddangos eu gwaith mewn arddangosfa diwedd y flwyddyn.
Lefel UG - Ymholiad Creadigol Personol
Un uned o waith cwrs sy’n cynnwys amrywiaeth o archwiliadau gweithdy. Gellir dangos dealltwriaeth feirniadol gyd-destunol trwy ffurfiau ysgrifenedig, gweledol, llafar neu ffurfiau priodol eraill.
Safon Uwch
Uned 2: Ymchwiliad Personol Celf a Dylunio
Un uned o waith cwrs yn seiliedig ar themâu a deunydd pwnc a ddatblygwyd o fannau cychwyn personol sy’n gofyn i’r ymgeisydd gyfathrebu ei ddealltwriaeth trwy ddelweddau a thestunau integredig sy’n cynnwys elfen ysgrifenedig nad yw’n llai na 1000 o eiriau. Gellir dangos dealltwriaeth feirniadol gyd-destunol trwy ffurfiau ysgrifenedig, gweledol, llafar neu ffurfiau priodol eraill.
Uned 3: Aseiniad dan Reolaeth Celf a Dylunio
Aseiniad wedi’i osod yn allanol a gyflwynir i’r ymgeiswyr ar ddechrau’r cyfnod paratoi ar gyfer y prawf dan reolaeth a fydd yn gyfnod parhaus o astudio canolbwyntiedig deuddeg awr o hyd. Bydd yr holl waith yn cael ei ddewis, ei werthuso a’i gyflwyno i’w asesu gan yr ymgeiswyr. Gellir dangos dealltwriaeth feirniadol gyd-destunol trwy ffurfiau ysgrifenedig, gweledol, llafar neu ffurfiau priodol eraill.
Mae’r rhaglen yn darparu sail ardderchog ar gyfer dilyniant i addysg uwch. Mae dysgwyr blaenorol wedi symud ymlaen i ystod o gyrsiau creadigol ledled y DU.
Mae’r coleg yn cynnig llwybrau celf a dylunio sylfaen a gradd BA anrhydedd mewn amrywiaeth o gyrsiau creadigol gyda bwrsariaethau ar gyfer y rheiny sy’n symud ymlaen o’r rhaglen hon.
Mae gyrfaoedd posibl mewn celf a dylunio’n cynnwys artist, darlunydd, golygydd lluniau, therapydd celf, curadur, pensaer, cynllunydd mewnol, dylunydd graffeg, dylunydd ffasiwn, cynllunydd set a gemydd.
Mae gan UG Celf a Dylunio un uned: Portffolio Gwaith Cwrs gwerth 100%
Mae gan Safon Uwch Celf a Dylunio ddwy uned: Uned gwaith cwrs ymchwiliad personol gwerth 60%, Aseiniad dan Reolaeth gwerth 40%.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Mathemateg, Saesneg Iaith, a phwnc seiliedig ar gelf (neu bortffolio o waith) ar radd C neu uwch.
Mae ffi stiwdio o £20.00 i dalu am adnoddau a chyfarpar arbenigol sydd eu hangen.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru. Efallai y bydd cost ychwanegol fechan os bydd ymweliadau ag orielau celf neu arddangosfeydd.
Mae ein manyleb UG a Safon Uwch mewn Celf a Dylunio yn cynnig profiadau dysgu creadigol diddorol ac arloesol, lle mae arfer celf, crefft a dylunio yn cael ei gyfuno’n ystyrlon â gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol.
Mae’r fanyleb yn rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr ddatblygu sylfaen eang o sgiliau beirniadol, ymarferol a damcaniaethol yn yr UG, gan gynnig dealltwriaeth gyfannol iddyn nhw o amrywiaeth o ymarferion a chyd-destunau yn y meysydd celf, crefft a dylunio gweledol, gan arbenigo mwy a chyflawni’n well yn y Safon Uwch.
Beth bynnag elfen o’r cwrs sydd gyda chi diddordeb ynddo mae’r manyldebau gwahanol yn cael ei werthfawrogi ar ledled y byd gwaith. Yn ychwanegol i hyn mae pob elfen o’r cwrs yn caniatau i chi ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfa neu dyfodol creadigol gan ehangu eich sgiliau creadigol, dadansoddiad, arbrofi, ymarferol, technolegol a mynegiannol.