
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Ffiseg
- Campws Y Graig
Mae Safon Uwch Ffiseg yn gymhwyster pwysig ar gyfer llawer o yrfaoedd. Mae’n faes astudio hynod ddiddorol ac ysgogol sy’n herio myfyrwyr yn barhaus ac sy’n gofyn am feddwl creadigol. Mae’n caniatáu i chi werthfawrogi sut mae Gwyddoniaeth sylfaenol yn gweithio a chymwysiadau Gwyddoniaeth yn y byd ehangach. Bydd yn datblygu eich sgiliau dadansoddol, gwerthusol a synoptig.
Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau ymarferol, gan gynnwys y gallu i gynllunio a thrin gwybodaeth a data. At hynny, bydd Ffiseg hefyd yn dysgu ac yn gwella llawer o’ch sgiliau allweddol ehangach megis cymhwyso rhif, TGCh, datrys problemau a meddwl yn rhesymegol.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cewch eich annog i ddatblygu brwdfrydedd a diddordeb mewn ffiseg trwy ddarllen llyfrau, cylchgronau a gwefannau yn ehangach a gwylio sianeli “you tube” a awgrymir e.e. Veritasium
Caiff gwersi eu hategu gydag arddangosiadau, clipiau fideo a gwneir gwaith ymarferol mewn grŵp neu’n unigol yn rheolaidd mewn labordy pwrpasol. Mae maint dosbarthiadau fel arfer o gwmpas 14 o fyfyrwyr. Defnyddir Google Classroom i rannu adnoddau digidol a darparu dolenni defnyddiol i ddysgwyr ymestyn eu dealltwriaeth y tu hwnt i ofynion Safon Uwch.
Byddwch yn cael tasgau gwaith cartref i gefnogi eich dysgu gydag adborth manwl ar sut i wella ac ar ben hynny mae profion dosbarth i helpu asesu eich cynnydd cyffredinol.
Cwrs UG (Blwyddyn 1)
- PH1 - Mudiant, Egni a Mater (50% o’r UG ac 20% o’r Safon Uwch)
- PH2 - Trydan a Golau (50% o’r UG ac 20% o’r Safon Uwch)
Cwrs U2 (Blwyddyn 2)
- PH3 - Osgiliadau a Niwclysau (25% o’r Safon Uwch)
- PH4 - Meysydd a Ffiseg Chwaraeon (Opsiwn - dewisir gan y tiwtor) (25% o’r Safon Uwch)
- PH5 - Arholiad Ymarferol - Asesiad dan Reolaeth (10% o’r Safon Uwch)
Mae Safon Uwch ffiseg yn bwnc Safon Uwch traddodiadol ac mae wedi cael ei nodi fel pwnc hwyluso allweddol gan Brifysgolion y Grŵp Russell. Mae yna lawer o lwybrau gyrfaol y gellir eu dilyn gyda chymhwyster ôl-16 mewn ffiseg - cyfathrebu, seryddiaeth, trafnidiaeth a pheirianneg awyrofod, ymchwil a datblygiad, addysg, meteoroleg, gwyddoniaeth amgylcheddol, meddygaeth ac iechyd, eigionegwr, technegydd sain a llawer o rai eraill.
Mae myfyrwyr Ffiseg diweddar o Goleg Sir Gâr wedi symud ymlaen i feysydd cysylltiedig mewn Addysg Uwch fel israddedigion, er enghraifft i Brifysgol Caerwysg i astudio Ffiseg, i Brifysgol Dundee i hyfforddi fel peilot masnachol, mae eraill yn astudio Ffiseg gyda Seryddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham a Pheirianneg Gemegol a Deunyddiau ym Mhrifysgol Caerfaddon.
UG -
- Uned 1 arholiad ysgrifenedig: 1.5 awr
- Uned 2 arholiad ysgrifenedig: 1.5 awr
- (100% o’r UG a 40% o’r Safon Uwch)
U2 -
- Uned 3 arholiad ysgrifenedig: 2.25 awr
- Uned 4 arholiad ysgrifenedig: 2 awr
- (50% o’r Safon Uwch)
- Uned 5 asesiad ymarferol: 2.5 awr dros ddwy sesiwn (10% o’r Safon Uwch)
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Mathemateg/Rhifedd a TGAU Ffiseg neu Wyddoniaeth Ddwbl ar radd B neu uwch, TGAU Gymraeg (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith ar radd C neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Gall pob un o’r pynciau STEM eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, megis meddwl beirniadol, datrys problemau, meddwl ochrol, a gweithio fel rhan o dîm, sy’n rhinweddau y mae galw mawr amdanynt i unrhyw gyflogwr.
Maen nhw’n drwyadl yn academaidd, a hefyd yn dangos gallu i reoli llwythi gwaith trwm, cymhelliant a sgiliau cadw amser, a gallant arwain at y swyddi sy’n talu fwyaf.
Mae pynciau STEM yn heriol, a bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliad ac ymgysylltu’n llwyr i fod yn llwyddiannus. Mae cydberthynas gadarnhaol gref rhwng myfyrwyr sy’n mwynhau’r pynciau hyn a myfyrwyr sy’n llwyddiannus.