
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith
- Campws Y Graig
“Y Gymraeg yw un o drysorau Cymru. Mae’n rhan o’r hyn sy’n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl” (Llywodraeth Cymru). Ydych chi am fod yn un o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Ydych chi am y wefr o allu cyfathrebu mewn mwy nag un iaith? Ydych chi am well cyfleoedd gwaith? Ydych chi’n hoff o her? Yna, astudio Cymraeg yw’r opsiwn iawn i chi yn bendant! Yn ystod y cwrs Cymraeg Ail Iaith hwn byddwch yn dod ar draws ffilmiau Cymraeg a llenyddiaeth Gymraeg; byddwch yn ymgymryd ag ymchwil unigol; byddwch yn dysgu am hanes yr iaith ac yn caffael yr adnoddau iaith i’ch galluogi i gyfathrebu mewn ystod eang o sefyllfaoedd a chyd-destunau.
Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy megis datrys problemau, hyblygrwydd deallusol, gwaith tîm a chreadigrwydd - a bydd y rhain i gyd yn eich gwneud yn gyflogadwy iawn ac yn fyfyriwr dymunol ar gyfer unrhyw gwrs prifysgol.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Fe’ch anogir i ddefnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu ar bob cyfle er mwyn datblygu eich hyder a’ch rhuglder.
Byddwch yn cael cyfle i weithio ar y cyd ac yn unigol, gan ganiatáu i chi archwilio themâu a phynciau mewn dyfnder a manylder.
Byddwch yn cael cefnogaeth a chyngor penodol i’ch helpu gyda chywirdeb eich gwaith.
Mae’r cwrs yn cynnwys chwe uned fel a ganlyn:
UG
- Uned 1 - Y ffilm a llafaredd
- Uned 2 - Asesiad diarholiad (portffolio o waith ysgrifenedig)
- Uned 3 - Defnyddio iaith a barddoniaeth
Safon Uwch
- Uned 4 - Y Ddrama a llafaredd
- Uned 5 - Y Gymraeg yn y gymdeithas a thrawsieithu
- Uned 6 - Defnyddio iaith a’r stori fer
Mae galw mawr am bobl sydd â sgiliau Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae cael Safon Uwch mewn Cymraeg yn golygu eich bod wedi cyflawni hyfedredd uchel yn yr iaith ac, o ganlyniad, bydd yn eich gwneud yn apelgar iawn i lawer o gyflogwyr yng Nghymru. Mae sgiliau Cymraeg yn arbennig o ddymunol mewn meysydd fel iechyd a gofal cymdeithasol, y cyfryngau a ffilm, llywodraeth leol ac addysg.
Os hoffech barhau â’ch astudiaeth o’r Gymraeg ar lefel gradd, mae yna ystod o gyrsiau ar gael sy’n caniatáu i chi ganolbwyntio ar eich meysydd diddordeb penodol, gyda llawer ohonynt yn dod gyda grantiau a bwrsariaethau.
UG
- Uned 1 - Arholiad llafar - 15%
- Uned 2 – Gwaith cwrs - 10%
- Uned 3 - Arholiad ysgrifenedig - 15%
U2
- Uned 4 - Arholiad llafar - 25%
- Uned 5 - Arholiad ysgrifenedig - 15%
- Uned 6 - Arholiad ysgrifenedig - 20%
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Cymraeg ar radd B neu uwch, TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith ar radd C neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.