
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Saesneg Llenyddiaeth
- Campws Y Graig
Oes gennych chi gariad at lyfrau? Ydych chi’n ymgolli yn emosiwn llenyddiaeth? O fewn y cwrs Safon Uwch Saesneg llenyddiaeth hwn, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio’r tri genre allweddol mewn llenyddiaeth: Rhyddiaith; Barddoniaeth; a Drama. Dewisir ystod o destunau o blith Nofelau Clasurol, megis Jane Eyre Charlotte Bronte i destunau mwy cyfoes megis Conversations with Friends Sally Rooney. Er, gall y testunau newid ar gylch o ddwy i dair blynedd.
Gofynnir i fyfyrwyr Saesneg yng Ngholeg Sir Gâr weithio ar destunau penodol, o wahanol ganrifoedd ar draws amser a datblygu eu sgiliau damcaniaethol a’u sgiliau cyfathrebu er mwyn dadansoddi llenyddiaeth. Asesir y cwrs hwn yn bennaf trwy arholiadau ffurfiol, allanol, er mae un uned gwaith cwrs yn cael ei chwblhau yn yr ail flwyddyn o astudio. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ymwneud â thestun cyn ac ar ôl 2000.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Darllenir amrywiaeth eang o destunau ar draws y genres allweddol o ryddiaith, barddoniaeth a drama. Yn arbennig, rydym yn canolbwyntio ar eich sgiliau trafod, cyflwyno ac ysgrifennu traethawd ffurfiol, ac yn eu mireinio. Mae datblygu sgiliau trosglwyddadwy a chymryd rhan mewn gweithgareddau allanol yn cynnwys ymweld â’r theatr a seminarau gan ddarparwyr addysg uwch yn cael eu hannog trwy gydol eich dwy flynedd gyda ni yn Saesneg@CSG.
Mae Safon Uwch Saesneg Llenyddiaeth yn cynnwys ystod eang o destunau ac ymagweddau ar draws Blwyddyn un a Blwyddyn dau. Ym Mlwyddyn un, rydym yn ymchwilio i’r dyfeisiau, y strategaethau a’r technegau llenyddol a ddefnyddir mewn drama, rhyddiaith a barddoniaeth. Rydym yn adeiladu ar y sgiliau hyn ym Mlwyddyn 2 ac yn ymchwilio ymhellach i’r dadansoddiad o Farddoniaeth Glasurol a Chyfoes, a thestun o waith Shakespeare. Eleni rydym yn astudio ‘The Tempest’.
Gan ddefnyddio’r sgiliau a’r technegau a ddysgwyd yn y dosbarth, cwblheir y gwaith cwrs ar ddau destun rhyddiaith: un cyn-2000 ac un ôl-2000. Caiff hyn ei gwblhau’n fewnol a’i gymedroli’n allanol.
Gall Safon Uwch Saesneg llenyddiaeth arwain at lwyddiant mewn addysg uwch a allai arwain at yrfaoedd mewn newyddiaduraeth, ysgrifennu creadigol, cyhoeddi, y cyfryngau, addysgu, y celfyddydau perfformio, hysbysebu a marchnata. Yn fwyaf diweddar, mae un o’r myfyrwyr Safon Uwch Saesneg llenyddiaeth wedi mynd ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Saesneg ac mae wedi gosod targed uchelgeisiol iddi ei hun i fynd ymlaen i herio J K Rowling fel awdur llwyddiannus nofelau i blant yn eu harddegau.
Mae Lefel UG Saesneg Llenyddiaeth yn cael ei asesu trwy ddau arholiad allanol:
- Drama a Rhyddiaith: 20% o’r radd Lefel-UG.
- Barddoniaeth Ôl-1900: 20% o’r radd Lefel-UG.
Ym mlwyddyn dau, mae Safon Uwch Saesneg Llenyddiaeth yn cael ei asesu trwy ddau arholiad allanol ac un modiwl gwaith cwrs:
- Barddoniaeth Cyn-1900 a Barddoniaeth Nas Gwelwyd 20% o’r radd Safon Uwch.
- Shakespeare: The Tempest: 20% o’r radd Safon Uwch.
- Uned gwaith cwrs ar ddau destun rhyddiaith, un cyn-2000 ac un ôl-2000: 20% o’r radd Safon Uwch.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Llenyddiaeth Saesneg ar radd B neu uwch. Argymhellir gradd B neu uwch mewn Saesneg Iaith hefyd.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
I Ddehongli eich Byd:
Rydym yn defnyddio llenyddiaeth Saesneg fel ffordd o archwilio a chael cipolwg ar gymdeithasau’r gorffennol a’r presennol. Mae llenyddiaeth yn helpu i lunio a datblygu ein dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas. Mae meddwl yn feirniadol am destunau canonaidd, eu cynhyrchu a’u derbyniad yn ein galluogi i herio ein rhagdybiaethau a’n syniadau ein hunain am y byd llenyddol.
I ddatblygu eich gwerthfawrogiad o ystod o destunau llenyddol:
Mae llenyddiaeth Saesneg yn bwnc amrywiol sy’n eich galluogi i archwilio prif elfennau llenyddiaeth: drama, barddoniaeth a rhyddiaith. Yn ychwanegol, mae’n eich cyflwyno i ystod o dechnegau, confensiynau a dulliau llenyddol, yr ydym yn eu gwerthuso mewn perthynas â sut y maent yn helpu awduron i gyfleu ystyr. Mae sgiliau llenyddiaeth Saesneg yn drosglwyddadwy iawn i bynciau Safon Uwch eraill, gan gynnwys y Gyfraith, Hanes, Cyfryngau a Chymdeithaseg.
I herio a dehongli:
Mae llenyddiaeth Saesneg nid yn unig yn canolbwyntio ar sut mae ysgrifenwyr yn creu bwriad awdurol, ond mae’n darparu cyfleoedd i herio rhagdybiaethau a dehongliadau sy’n bodoli eisoes o destunau allweddol. Sut mae safbwynt ffeministaidd yn newid y portread o Bertha yn Jane Eyre er enghraifft? Sut mae cymhwyso safbwynt ffurfiolaidd i farddoniaeth yn helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o brif syniadau Larkin? Mae llenyddiaeth Saesneg yn eich annog i ddatblygu eich ymatebion unigol a phersonol eich hun i genres llenyddol.