Skip page header and navigation

Safon Uwch Cerddoriaeth

  • Campws Y Graig
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Mae cerddoriaeth yn bwnc aml-sgil sy’n datblygu disgyblaeth, dyfalbarhad, dibynadwyedd, hunanfeddiant a dewrder.  Mae’n cyfuno’r rhesymegol a’r creadigol ac mae’n hwyl. 

Mae cerddoriaeth yn hyfforddiant gwych ar gyfer amldasgio, mae cyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi ymgymryd â gweithgareddau sy’n arddangos dyfalbarhad.  

Hyd yn oed os nad ydych eisiau astudio cerddoriaeth y tu hwnt i lefel UG a Safon Uwch, bydd y sgiliau a’r profiad a enillir yn eich cynorthwyo gyda hyder mewn cyfweliadau a byddwch yn ennill sgil gydol oes.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
UG - 1 Flwyddyn / Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd

Ffi Gweinyddu: £25.00

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Elfen ganolog y cwrs yw dysgu technegau cyfansoddi a datblygu arddulliau a chwaeth unigol ar gyfer y darn dewis rhydd.  Mae’r darn clasurol gorllewinol yn golygu datrys problemau trwy weithio drwy dasgau cyfansoddi byr yn yr arddull glasurol. Elfen ganolog arall yw astudio dau symudiad o symffoni gan Haydn ac astudio caneuon theatr gerdd.  Rydym yn ymgorffori sesiynau ymarfer bob pythefnos i weithio ar eich sgiliau perfformio a chynllunio eich rhaglen ar gyfer y datganiad ym mis Mawrth.

Bydd dysgu sy’n digwydd mewn trafodaethau dosbarth, grŵp ac un i un gyda’ch athrawon a’ch cymheiriaid yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau cerddorol, a fydd yn ei dro yn rhoi’r hyder i chi ddatblygu eich gwaith eich hun a gwella ar eich graddau a’ch gwerthfawrogiad o’r gerddoriaeth.

Uned 1 (UG) Uned 4 (Safon Uwch) - Perfformio.

Byddwch yn perfformio dau i bedwar darn o safon Gradd 5 (UG) Gradd 6 (Safon Uwch) i arholwr ymweliadol ac mae unrhyw offeryn neu lais yn dderbyniol. Gallwch chi arbenigo mewn Perfformio ym Mlwyddyn 2.

Uned 2/Uned 5 - Cyfansoddi.

Byddwch yn cyfansoddi dau ddarn: cyfansoddiad rhydd o leiaf 2 funud o hyd a’r llall fel ymateb i friff a osodir gan CBAC yn Nhraddodiad Clasurol y Gorllewin. Gallwch chi arbenigo mewn Cyfansoddi ym Mlwyddyn 2.

Uned 3/Uned 6 - Arfarnu.

Arholiad ysgrifenedig 1 awr 30 munud (tua) ar ddau faes astudio: Traddodiad Cerddorfaol Clasurol y Gorllewin a Theatr Gerdd

Gall cymwysterau cerddoriaeth arwain at yrfa mewn addysg, therapi cerdd, fel perfformiwr, cyfansoddwr neu arweinydd ond mae hefyd yn agor drysau i yrfaoedd eraill megis mathemateg, meddygaeth, y gyfraith neu ddeintyddiaeth.

Lefel UG (blwyddyn un):
1. Perfformio - perfformiad yn ystod mis Mawrth (allanol)
2. Cyfansoddi - dau gyfansoddiad sy’n cynnwys sgôr, recordiad a darn ysgrifenedig ym mis Ebrill (allanol)
3. Arfarnu - arholiad ysgrifenedig ym mis Mehefin (allanol).

Safon Uwch (blwyddyn dau):
4. Perfformio - perfformiad yn ystod mis Mawrth
5. Cyfansoddi - dau gyfansoddiad sy’n cynnwys sgôr, recordiad a darn ysgrifenedig ym mis Ebrill (allanol)
6. Arfarnu - arholiad ysgrifenedig ym mis Mehefin.

Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys:  TGAU Cerddoriaeth ar radd B neu uwch, TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith ar radd C neu uwch. Mae theori Gradd 5 yn ddymunol ond nid yw’n ofyniad ar gyfer mynediad.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Mae’n cyfuno’r rhesymegol a’r creadigol ac mae’n hwyl! Mae’r Adran Gerdd yng Ngholeg Sir Gâr yn darparu ar gyfer unrhyw fath o gerddor, boed yn offerynnwr clasurol profiadol, yn ganwr neu’n gerddor roc. Rydym yn diwallu anghenion ein holl gerddorion drwy roi cymorth unigol i gyfansoddi, a thrwy feithrin eu diddordebau a’u chwaeth. Mae cerddoriaeth yn bwnc aml-sgil sy’n datblygu disgyblaeth, dyfalbarhad, dibynadwyedd, hunanfeddiant a dewrder. Mae cerddoriaeth yn hyfforddiant rhagorol ar gyfer gwneud mwy nag un peth ar y tro.

Mae cyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi bod yn rhan o weithgareddau sy’n dangos dyfalbarhad ac maent yn edrych yn benodol am bobl sydd wedi astudio Cerddoriaeth. Hyd yn oed os nad ydych eisiau astudio Cerddoriaeth y tu hwnt i lefel UG a Safon Uwch, bydd y sgiliau a’r profiad a enillir yn eich cynorthwyo gyda hyder mewn cyfweliadau a byddwch yn ennill sgil gydol oes.

I Dyfu: Mae cerddoriaeth yn caniatáu i chi dreulio amser yn perfformio neu wrando ar y gerddoriaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi eisoes ac rydych yn frwd yn ei chylch. Yn ychwanegol, mae’n eich cyflwyno i ystod enfawr o theori a genres eraill na fyddwch wedi dod ar eu traws o’r blaen.

Mae sgiliau Cerddoriaeth yn drosglwyddadwy iawn i bynciau Safon Uwch eraill, gan gynnwys Mathemateg, y Gyfraith, Saesneg, Hanes a Drama.

Gall cymwysterau cerddoriaeth arwain at yrfa mewn Addysg, Therapi Cerdd, fel Perfformiwr, Cyfansoddwr neu Arweinydd ond mae hefyd yn agor drysau i yrfaoedd eraill megis Mathemateg, Meddygaeth, y Gyfraith neu Ddeintyddiaeth.

I Greu: Mae’r Diwydiant Cerddoriaeth a’r Diwydiannau Creadigol yn ddiwydiannau twf enfawr yng Nghymru a thu hwnt. Byddwch yn dysgu sut i gyfansoddi a threfnu cerddoriaeth ar gyfer eich offeryn eich hun, ac ar gyfer offerynnau clasurol eraill hefyd!

I Adeiladu Eich Gyrfa: Waeth beth yr hoffech chi fynd ymlaen i’w wneud, mae Cerddoriaeth yn rhoi hyder i chi berfformio o flaen eraill (yn dda ar gyfer cyfweliadau) a gallwch ddangos brwdfrydedd am y maes cerddoriaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (hefyd yn dda ar gyfer cyfweliadau!).

Bydd dangos eich creadigrwydd wrth berfformio ar eich offeryn, cyfansoddi mewn genre rydych chi’n ei garu, a chynyddu eich gwybodaeth a’ch sgiliau dadansoddi y byddwch yn eu datblygu ar hyd y cwrs ond yn gwneud eich CV yn gryfach.

Mwy o gyrsiau Safon Uwch

Chwiliwch am gyrsiau