
TAG Safon Uwch Addysg Gorfforol
- Campws Y Graig
Bydd y cymhwyster UG a Safon Uwch CBAC hwn mewn addysg gorfforol yn galluogi dysgwyr i:
- Ddatblygu gwybodaeth ddamcaniaethol a dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n tanategu gweithgaredd corfforol a chwaraeon a defnyddio’r wybodaeth hon i wella perfformiad.
- Deall sut y mae cyflyrau ffisiolegol a seicolegol yn effeithio ar berfformiad.
- Archwilio’r ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol allweddol sydd yn dylanwadu ar gysylltiad pobl â gweithgaredd corfforol a chwaraeon
- Deall rôl technoleg mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon.
- Mireinio eu gallu i berfformio’n effeithiol mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon drwy ddatblygu sgiliau a thechnegau a dewis a defnyddio tactegau, strategaethau a/neu syniadau cyfansoddiadol
- Datblygu eu gallu i ddadansoddi a gwerthuso i wella perfformiad.
- Deall y cyfraniad mae gweithgaredd corfforol yn ei wneud i iechyd a ffitrwydd.
- Gwella fel dysgwyr effeithiol ac annibynnol ac fel meddylwyr beirniadol a myfyriol â meddyliau chwilfrydig a holgar.
Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o sut mae’r gwahanol gysyniadau damcaniaethol yn effeithio ar eu perfformiad nhw eu hunain, drwy integreiddio theori ac arfer. Bydd dysgwyr hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion cyfoes sy’n berthnasol i addysg gorfforol a chwaraeon yng Nghymru.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Rhai agweddau ar asesu ar sail gwaith ymarferol.
Cynigir ystod eang o weithgareddau ymarferol i’w hasesu i ddiwallu anghenion amrywiol y myfyrwyr.
Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn gysylltiedig ag academi chwaraeon Coleg Sir Gâr
UG Uned 1 (60% o’r cymhwyster UG): Archwilio addysg gorfforol
Mae’r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Pwnc 1 - Ffisioleg ymarfer corff, dadansoddi perfformiad ac ymarfer
- Pwnc 2 - Seicoleg chwaraeon
- Pwnc 3 - Caffael sgiliau
- Pwnc 4 - Chwaraeon a’r gymdeithas
Asesir uned 1 trwy arholiad ysgrifenedig: 1¾ awr
UG Uned 2 (40% o’r cymhwyster UG): Gwella perfformiad personol mewn addysg gorfforol
Mae’r uned hon yn cynnwys y canlynol:
- Pwnc 1 - Perfformiad ymarferol fel chwaraewr/perfformiwr. Rhaid i ddysgwyr arddangos a chymhwyso’r sgiliau a’r technegau perthnasol ar gyfer UN gamp/gweithgaredd. Dylid chwarae pob gweithgaredd dan amodau cystadleuol/ffurfiol.
- Pwnc 2 - Perfformiad ymarferol fel hyfforddwr neu ddyfarnwr Rhaid i ddysgwyr gynllunio a chyflwyno sesiwn hyfforddi fel rhan o raglen ymarfer, YR UN GAMP AG SYDD YM MHWNC 1.
- Pwnc 3 - Proffil Perfformiad Personol Rhaid i’r dadansoddi perfformiad personol fod o’r gweithgaredd ymarferol dewisol FEL YM MHWNC 1 A 2. Mae’n tanategu cynnwys damcaniaethol priodol y pwnc ac yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr arddangos sgiliau meintiol.
Mae Uned 2 yn Asesiad di-arholiad
UG Uned 1 - Gwerthuso addysg gorfforol
Mae’r pynciau’r un peth ag ar gyfer yr UG ond maent yn fwy gwerthusol ac mae’n hollbwysig eu bod yn cael eu cymhwyso i berfformiad.
Asesir uned 1 trwy arholiad ysgrifenedig: 2 awr
UG Uned 2 - Mireinio perfformiad personol mewn addysg gorfforol
- Pwnc 1 - Perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/perfformiwr, hyfforddwr neu ddyfarnwr
- Pwnc 2 - Ymchwil Ymchwiliol. Dylai’r ymchwil helpu’r dysgwr i wella perfformiad personol fel chwaraewr/perfformiwr, hyfforddwr neu ddyfarnwr. Rhaid iddo fod yn gysylltiedig â’r gweithgaredd ymarferol dewisol a chynnwys ymchwil i gynnwys pwnc damcaniaethol priodol. Mae’n rhoi cyfleoedd i ymgeiswyr arddangos sgiliau meintiol.
Mae Uned 2 yn asesiad di-arholiad
Mae cymwysterau Safon Uwch yn darparu sail ardderchog ar gyfer dilyniant i gymwysterau lefel uwch megis graddau neu ddiplomâu cenedlaethol uwch.
Gyda chymhwyster mewn addysg gorfforol gall ymgeiswyr fynd ymlaen i addysg uwch a dilyn gyrfa mewn addysgu a hyfforddi neu chwaraeon proffesiynol, neu waith yn y diwydiant hamdden, rheolaeth hamdden neu’r diwydiant iechyd a ffitrwydd
Lefel UG:
- Un arholiad diwedd blwyddyn
- Asesu trwy berfformiad ymarferol,
- Asesu hyfforddi/dyfarnu
- Cwblhau proffil perfformiad personol
Safon Uwch:
- Un arholiad diwedd blwyddyn
- Asesu trwy berfformiad ymarferol neu asesu hyfforddi/dyfarnu
- Cwblhau ymchwil ymchwiliol
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Addysg Gorfforol ar radd B neu uwch, TGAU Mathemateg, Cymraeg (Iaith Gyntaf)/Saesneg Iaith, a Gwyddoniaeth Ddwbl/Triphlyg ar radd C neu uwch. Dylai fod gan fyfyrwyr hanes profedig o gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon - yn unigol neu fel rhan o dîm.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.