
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Cemeg
- Campws Y Graig
Mae Safon Uwch Cemeg yn darparu cwrs astudio eang, cydlynol, boddhaol a gwerth chweil. Mae’n annog dysgwyr i ddatblygu hyder mewn Cemeg, ac agwedd gadarnhaol tuag ati, ac i gydnabod ei phwysigrwydd yn eu bywydau eu hunain ac mewn cymdeithas.
Mae astudio Cemeg yn annog dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a hyder mewn amrywiaeth o sgiliau ymarferol, mathemategol a datrys problemau. Mae gwaith ymarferol yn rhan gynhenid o’r cwrs Safon Uwch Cemeg a chaiff ei werthfawrogi’n fawr iawn gan brifysgolion a sefydliadau ymchwil. Er mwyn ehangu profiad, anogir y rheiny sydd yn arddangos dawn mewn Cemeg i gymryd rhan yn yr Olympiad Cemeg; cystadleuaeth genedlaethol sy’n cael ei chynnal gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nodweddion y Rhaglen
- Cymhwyso cemeg bob dydd
- Mae’n cysylltu â materion cyfoes a datblygiadau ym maes Gwyddoniaeth
- Mae’n datblygu sgiliau ymarferol sy’n gymesur â’r cymhwyster
- Nodweddion y Rhaglen Bydd gan y dysgwyr fynediad i labordai wedi’u cyfarparu’n dda.
Lefel UG
Strwythur Atomig ac Ymbelydredd, Meintiau a Hafaliadau Cemegol, Cemeg Anorganig (adweithiau’r Tabl Cyfnodol), Cemeg Ddiwydiannol a Chemeg Amgylcheddol (gan gynnwys yr Effaith Tŷ Gwydr a Glaw Asid). Cyflwyniad i Gemeg Organig. Hefyd astudio a yw adweithiau’n digwydd (Egnïeg), pa mor gyflym maen nhw’n digwydd (Cineteg) a beth maen nhw’n debygol o’i gynhyrchu (Cydbwyseddau).
Lefel U2
Anorganig Pellach e.e. y Metelau Trosiannol, a chemeg ffisegol. Llawer mwy o gemeg Organig gan gynnwys: synthesis sylweddau pwysig fel cynhyrchion fferyllol a pholymerau, a thechnegau ar gyfer dadansoddi sylweddau e.e. Sbectrometreg is-goch a Sbectrometreg Màs. Hefyd gwaith ymarferol organig e.e. synthesis asbirin.
Mae’r adran gemeg wedi helpu ein myfyrwyr i wneud ceisiadau llwyddiannus i astudio meddygaeth, deintyddiaeth, milfeddygaeth, cemeg a gwyddorau biofeddygol ym mhrifysgolion y Grŵp Russell. Mae myfyriwr a enillodd A* bellach yn astudio Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd; mae un arall yn astudio Meddygaeth yn y Coleg Imperial yn Llundain ac mae myfyriwr gradd A nawr yn astudio Milfeddygaeth yng Ngholeg y Milfeddygon Prifysgol Nottingham.
Rydych yn cyflwyno gwaith ar gyfer ei asesu ar ddiwedd pob uned astudio. Caiff pob uned arbenigol ei graddio. Mae’r gwaith yn ddarostyngedig i ddilysu mewnol ac allanol.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Mathemateg (Haen Uwch), TGAU Gwyddoniaeth Ddwbl/Triphlyg ar radd B neu uwch, a TGAU Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith ar radd C neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Gall pob un o’r pynciau STEM eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, megis meddwl beirniadol, datrys problemau, meddwl ochrol, a gweithio fel rhan o dîm, sy’n rhinweddau y mae galw mawr amdanynt i unrhyw gyflogwr.
Maen nhw’n drwyadl yn academaidd, a hefyd yn dangos gallu i reoli llwythi gwaith trwm, cymhelliant a sgiliau cadw amser, a gallant arwain at y swyddi sy’n talu fwyaf.
Mae pynciau STEM yn heriol, a bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliad ac ymgysylltu’n llwyr i fod yn llwyddiannus. Mae cydberthynas gadarnhaol gref rhwng myfyrwyr sy’n mwynhau’r pynciau hyn a myfyrwyr sy’n llwyddiannus.