
TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
- Campws Y Graig
Mae Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn bwnc diddorol sy’n cael effaith ar ein bywydau ni i gyd. Mewn byd sydd yn newid yn gyflym, bydd y cwrs Safon Uwch llywodraeth a gwleidyddiaeth hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut mae llywodraethau’n gweithredu, ymrwymiad Prydain i sefydliadau rhyngwladol, yr ideolegau y tu ôl i’r prif bleidiau gwleidyddol, materion hawliau dynol a hyd yn oed Brexit. Os oes gennych ddiddordeb mewn materion cyfoes, os ydych yn mwynhau darllen y newyddion, neu os ydych ond yn awyddus i wybod mwy am y newidiadau mawr yng ngwleidyddiaeth y byd, yna mae’r cwrs Safon Uwch hwn ar eich cyfer chi.
Mae’r gwersi yn fywiog, yn ysgogi trafodaeth ac yn graff. Byddwch yn cael cyfleoedd i fynychu dadleuon gwleidyddol ar y teledu, cyfrannu at raglenni ieuenctid gyda’r cyngor lleol ac ymweld â’r Senedd.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd astudio Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn datblygu eich diddordeb yn systemau llywodraeth a materion gwleidyddol Prydain ac America, ac yn rhoi dealltwriaeth i chi ohonynt. Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth am faterion cyfoes a ddysgir mewn ystafelloedd dosbarth modern sydd â chyfarpar da. Mae Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a meddwl beirniadol sydd yn sgiliau hanfodol allweddol ar gyfer Addysg Uwch.
Lefel UG:
Ym mlwyddyn 1 byddwch yn canolbwyntio ar Wleidyddiaeth Prydain. Byddwch yn astudio llywodraethau, pleidiau gwleidyddol, etholiadau a mudiadau cymdeithasol Prydain a Chymru.
Safon Uwch:
Rhennir y rhan hon yn ddau bapur: mae’r cyntaf ar ideolegau gwleidyddol a gwleidyddiaeth fyd-eang, ac mae’r uned olaf yn edrych yn fanwl ar wleidyddiaeth America a’i dylanwadau ar draws y byd.
Dau arholiad a asesir yn allanol ar ddiwedd blwyddyn 1, UG.
Dau arholiad a asesir yn allanol ar ddiwedd blwyddyn 2, U2.
Nid oes gwaith cwrs yn y cwrs hwn.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg ar radd C neu uwch. Argymhellir yn gryf gradd B mewn Saesneg Iaith.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Bydd gwleidyddiaeth yn rhoi ystod eang o sgiliau academaidd a chyfathrebu i chi, a werthfawrogir yn fawr iawn gan lawer o wahanol yrfaoedd. Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio gwleidyddiaeth yn y brifysgol ac wedi dilyn gyrfaoedd mewn addysgu, y gyfraith, gwleidyddiaeth Cymru, llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol.