
TAG Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gofal plant
- Campws Y Graig
Pam dewis iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant? Bydd TAG y consortiwm City & Guilds/CBAC mewn iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant yn rhoi gwybodaeth drylwyr a manwl, dealltwriaeth a sgiliau i chi’n gysylltiedig â datblygiad a gofal unigolion ar hyd y rhychwant oes o genhedlu i oedolaeth ddiweddarach. Cewch y cyfle i ddatblygu eich dealltwriaeth o ddylanwadau ar dwf dynol, datblygiad, ymddygiad a lles.
Hefyd byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o anghenion cymdeithasol, corfforol, emosiynol a diwylliannol pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, ac yn cydnabod bod gan bob unigolyn gymysgedd unigryw o alluoedd ac anghenion. Byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o sut mae darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a lles unigolion, i allu gwneud penderfyniadau deallus nawr a nes ymlaen mewn bywyd.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r fanyleb hon yn cynnwys materion cyfoes mewn perthynas â darpariaeth system iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant foesegol a chynaliadwy yng Nghymru. Hybir dysgu gweithredol a phersonoli trwy roi cyfleoedd i chi ymchwilio i faterion gofal a phynciau o’ch dewis eich hun. Mae dilyn astudiaeth eang o iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant ar lefel UG a dewis o lwybr ar gyfer U2 yn rhoi cyfle i chi ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl naill ai mewn gofal plant neu mewn iechyd a gofal cymdeithasol oedolion.
Lefel UG Uned 1 UG: Hyrwyddo iechyd a lles - asesir trwy arholiad ysgrifenedig.
- Dwy awr 20% o’r cymhwyster
- 80 marc
- Ystod o fathau o gwestiynau wedi’u cyflwyno fel llyfryn cwestiwn-ac-ateb
- Mae’r holl gwestiynau yn orfodol
Uned 2 UG: Caiff cefnogi iechyd, lles a gwytnwch yng Nghymru ei hasesu trwy asesiad di-arholiad a’i marcio gan eich athro, ond caiff ei chymedroli’n allanol gan CBAC.
- Tua 30 awr
- 20% o’r cymhwyster 100 marc
- Tasg sy’n asesu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ynghylch sut y cefnogir iechyd, lles a gwytnwch unigolion yng Nghymru trwy ofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Safon Uwch Unedau 1 a 2, ynghyd â:
Llwybr gofal plant
Uned 3 U2: Safbwyntiau damcaniaethol am ddatblygiad plant a phobl ifanc. Asesir trwy arholiad ysgrifenedig.
- Dwy awr 30 munud
- 30% o’r cymhwyster 100 marc
- Ystod o fathau o gwestiynau wedi’u cyflwyno fel llyfryn cwestiwn-ac-ateb mewn dwy ran: - Adran A (40 marc) yn ymwneud â deunydd blaengyhoeddedig. - Adran B (60 marc)
- Mae’r holl gwestiynau yn orfodol
Uned 4 U2: Caiff cefnogi datblygiad, iechyd, lles a gwytnwch plant a phobl ifanc ei hasesu trwy asesiad di-arholiad, ei marcio gan eich athro, a’i chymedroli’n allanol gan CBAC.
- Tua 40 awr 30% o’r cymhwyster
- 100 marc
- Tasg sy’n asesu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ynghylch datblygiad, iechyd, lles a gwytnwch plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac mae gofyn i chi gynhyrchu adnodd gwybodaeth ar gyfer rhywun sy’n cynllunio gyrfa yn y sector gofal plant yn y dyfodol.
Mae’r fanyleb hon yn darparu cwrs astudio cydlynol, boddhaus a gwerth chweil i chi hyd yn oed os nad ydych yn symud ymlaen i astudiaeth bellach yn y pwnc hwn. Mae’n darparu sylfaen addas ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant drwy ystod o gyrsiau addysg uwch, neu i mewn i gyflogaeth. Yn ogystal mae’n bosibl y byddwch yn symud ymlaen i gymwysterau eraill o fewn y swît iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant. Nid yw’r fanyleb yn oed-benodol a, fel y cyfryw, mae’n darparu cyfleoedd i chi ehangu eich dysgu gydol oes.
Byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o sut mae darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a lles unigolion, i allu gwneud penderfyniadau deallus nawr a nes ymlaen mewn bywyd. Mae’r fanyleb yn cynnwys materion cyfoes ynghylch darpariaeth system iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant foesegol a chynaliadwy yng Nghymru, a bydd yn eich galluogi i wneud penderfyniadau deallus ynghylch cyfleoedd dysgu pellach neu i barhau i ddewisiadau gyrfaol perthynol.
Rydych yn cyflwyno gwaith ar gyfer ei asesu ar ddiwedd pob uned astudio. Caiff pob uned arbenigol ei graddio. Mae’r gwaith yn ddarostyngedig i ddilysu mewnol ac allanol.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C, i gynnwys: TGAU Mathemateg, Saesneg Iaith ar radd C neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.