Skip page header and navigation

Sut i ddewis eich cyrsiau coleg

Sut i ddewis eich cyrsiau coleg

Female student choosing a book from a library shelf.

Introduction

Gall gwneud penderfyniadau ynghylch eich pynciau neu fath o gymwysterau deimlo’n llethol, yn enwedig pan fydd yn teimlo y gallai eich dewisiadau nawr ddylanwadu ar eich dyfodol.  Ond peidiwch â phoeni, cynlluniwyd y dudalen hon i’ch helpu i rannu’r broses yn gamau a’i gwneud mor ddi-straen â phosibl. 

Ewch drwy’r cwestiynau isod, porwch drwy’r cyrsiau ar ein gwefan ac efallai ewch ati hyd yn oed i gofrestru ar gyfer diwrnod agored fel y gallwch weld sut le fydd y coleg. 

Ac yn bwysicaf oll, cofiwch hyn - Nid yw dewis eich cyrsiau coleg yn golygu eich bod yn dewis eich dyfodol am byth.  Mae’n wych os ydych chi’n gwybod y llwybr rydych am ei ddilyn, ond os nad ydych chi’n siŵr am yr hyn rydych am ei wneud fel gyrfa eto, neu rydych yn newid eich meddwl tra eich bod yn astudio, mae hynny’n iawn.   

Os byddwch chi’n dod i’r coleg ac yn manteisio i’r eithaf ar y profiad, byddwch yn ennill cymaint mwy na graddau. Yn ogystal â’r sgiliau trosglwyddadwy rydych yn eu hennill yn sgil addysg fel datrys problemau, ymchwilio, rheoli amser a gwaith tîm, byddwch hefyd yn ennill profiadau bywyd gwerthfawr, yn cynyddu eich hyder a’ch gwytnwch ac yn rhoi hwb i’ch sgiliau pobl.   

Ac os oes angen help arnoch o gwbl, siaradwch ag aelod staff yn y coleg, boed yn ddarlithydd, yn aelod o’r tîm lles neu’n ymgynghorydd gyrfaoedd, rydym am i chi lwyddo a bod yn hapus wrth i chi wneud hynny.

Beth ydych chi’n hoffi ei wneud?

Pa bynciau allech chi siarad amdanynt am byth?  Oes unrhyw hobïau yr hoffech chi gael dealltwriaeth ddyfnach ohonynt?  Oes rhywbeth rydych chi wastad wedi breuddwydio ei gyflawni?

Gofynnwch i chi eich hun beth rydych chi’n teimlo’n frwdfrydig ynglŷn ag ef ac edrychwch i weld a oes unrhyw gyrsiau sy’n cyd-fynd â’r hyn y mae gennych ddiddordeb ynddo eisoes.  Bydd yn llawer haws dysgu rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau, felly dyna fan cychwyn da.

Sut ydych chi’n dysgu orau?

Ydych chi wrth eich bodd â darlithoedd, darllen neu ymchwilio? Ydych chi’n berson mwy ymarferol, medrus â’ch dwylo? A fyddai dysgu yn y swydd yn fwy addas i chi?

Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion mae gennych amrywiaeth o opsiynau o ran y math o gymhwyster y gallwch wneud cais amdano.  Gofynnwch i chi eich hun, ble rydych chi’n teimlo’n fwyaf hyderus wrth ddeall gwybodaeth ac ewch ati i weld a oes math o gwrs fyddai’n fwyaf addas i chi.

  • Mae Safon Uwch yn rhoi’r cyfle i chi astudio nifer o bynciau gwahanol ar yr un pryd, byddwch yn dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn bennaf a chewch eich asesu ar waith cwrs a chanlyniadau arholiadau.
  • Mae cyrsiau galwedigaethol yn eich paratoi ar gyfer gyrfa o’ch dewis. Maen nhw’n cyfuno cymysgedd o waith theori a dysgu ymarferol a gallant gynnwys peth profiad gwaith.
  • Mae prentisiaethau’n ffordd o ennill arian wrth ennill cymwysterau hefyd. Byddwch yn dysgu yn y swydd, gydag un diwrnod yr wythnos yn y coleg i’w ategu.

Beth fyddwch chi’n ei wneud ar ôl coleg?

Oes gennych chi swydd neu ddiwydiant delfrydol mewn golwg?  Ydych chi wedi rhoi eich bryd ar y brifysgol?  A fyddwch chi’n dechrau eich busnes eich hun?

Meddyliwch am eich dyheadau ar gyfer y dyfodol a chofiwch y bydd rhai cyrsiau’n gofyn am gymwysterau penodol. Os ydych eisoes yn gwybod beth rydych am wneud, gwnewch ychydig o waith ymchwil a dewiswch gwrs sy’n cyd-fynd â’ch cyrchnodau ac a fydd yn eich helpu i’w cyflawni.   Os nad ydych chi’n siŵr, dewiswch rywbeth y mae gennych ddiddordeb ynddo a fydd yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy i chi er mwyn eich helpu i gadw eich opsiynau’n agored. 

Mynnwch beth cyngor a dewch i ddiwrnod agored.

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu ag athrawon, teulu, neu fyfyrwyr hŷn sydd â phrofiad.  Gallant rannu eu doethineb a’ch helpu i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.

Mae diwrnod agored yn gyfle gwych i ddod a rhoi tro o amgylch ein cyfleusterau a gofyn cwestiynau a allai fod gennych am gyrsiau neu fywyd coleg.   Bydd digon o bobl i siarad â nhw, gan gynnwys tiwtoriaid, llysgenhadon myfyrwyr, staff lles a’r tîm derbyn - beth bynnag sydd angen i chi ei wybod, bydd rhywun o gwmpas i’ch helpu.

Mae gennym sawl diwrnod agored ar hyd y flwyddyn, felly rhowch gipolwg i weld pryd mae’r un nesaf a rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur.  

Pa opsiynau bynnag rydych yn eu dewis, dylech wybod bod Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn lle diogel i ddysgu amdanoch chi eich hun, yn ogystal ag am y pynciau o’ch dewis.  Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a’ch helpu i setlo i fywyd coleg fel eich bod yn hyderus i fynd i’r afael â beth bynnag sy’n digwydd nesaf.