Astudio Sgiliau Byw'n Annibynnol yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
Hoffech chi ddysgu sgiliau pwysig a fydd yn eich helpu i deimlo’n fwy hyderus, byw ar eich pen eich hun neu gael swydd? Yna beth am ddod i ymuno â ni ar gwrs Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion?
Yma, byddwn yn dysgu pethau ymarferol i chi fel coginio prydau iach o’r newydd neu sut i baratoi ar gyfer cyfweliad swydd. Byddwch yn dysgu sut i ofalu amdanoch chi’ch hun, sut i gadw’n heini ac yn iach a sut i wneud penderfyniadau. Pan fyddwch chi’n dod i’r coleg byddwch chi hefyd yn dysgu sut i deimlo’n hapusach mewn pob math o sefyllfaoedd cymdeithasol, o’r gwaith a’r ysgol i dreulio amser gyda ffrindiau.
Byddwch yn dysgu drwy weithgareddau hwyliog ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch ar hyd y ffordd. Ein nod yw eich helpu i deimlo’n hyderus ac yn annibynnol wrth i chi dyfu i fyny. P’un a ydych chi’n mynd i’r coleg, yn dechrau swydd, neu’n ystyried eich opsiynau, byddwn ni’n rhoi’r offer i chi lwyddo.
A’r rhan orau? Bydd y sgiliau hyn yn aros gyda chi am oes, gan wneud popeth yn haws. Felly, os ydych chi’n barod i fod yn gyfrifol am eich bywyd a chael ychydig o hwyl ar hyd y ffordd, ymunwch â ni i astudio Sgiliau Byw’n Annibynnol. Gadewch i ni ddechrau ar eich taith i annibyniaeth!
Pam astudio Sgiliau Byw’n Annibynnol gyda ni?
Past Students
Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…
- Mae llawer o fyfyrwyr sydd wedi dechrau coleg ar ein cyrsiau ILS wedyn wedi mynd ymlaen i gael llwyddiant ar gyrsiau academaidd eraill, gyda rhai yn cyrraedd Lefel 3.
- Mae rhai o’n dysgwyr wedi mynd i swyddi fel actio, adeiladu neu ofal anifeiliaid.
- Mae rhai o’n dysgwyr ag anghenion cymhleth wedi mynd i fyw’n annibynnol ac wedi cael mynediad i brosiectau cymunedol lleol.
Dewch i weld beth mae ein dysgwyr yn ei wneud yn y coleg
Dewch i weld beth mae ein dysgwyr yn ei wneud yn y coleg a chael gwybod am rai o’u cyflawniadau anhygoel trwy ddilyn ein tudalen facebook. Gallai hefyd roi syniad i chi o’r hyn y gallech fod yn ei wneud pan fyddwch yn ymuno â ni.