Skip page header and navigation

BSc Amaethyddiaeth (BSc)

  • Campws y Gelli Aur
3 blynedd yn Llawn Amser 5 mlynedd yn Rhan-amser

Mae’r cwrs BSc mewn Amaethyddiaeth hwn yn rhoi hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer y rheiny sy’n camu i fyd ffermio ymarferol, rheolaeth fferm a diwydiannau gwasanaeth amaethyddol megis Maethegwyr, Ymgynghorwyr, Arolygwyr Llesiant Ffermydd a Masnachwyr Cyflenwadau Amaethyddol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
3 blynedd yn Llawn Amser 5 mlynedd yn Rhan-amser

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Caiff y BSc ei gyflwyno’n llawn amser ac yn rhan-amser, sy’n caniatáu i fyfyrwyr gyfuno gwaith gydag addysg uwch.
  • Mae’r cwrs yn un modiwlaidd a gall myfyrwyr ennill ardystiad (credyd) ar gyfer unrhyw fodiwlau sydd wedi’u cwblhau’n llwyddiannus
  • Mae’r cwrs ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg
  • Gwyddor Anifeiliaid Amaethyddol
  • Sgiliau astudio a chyfathrebu
  • Gwyddor cnydau amaethyddol, planhigion a phridd
  • Arferion a Pherfformiad y Diwydiant 1
  • Cynhyrchu Da Byw
  • Egwyddorion mecaneiddio ac amaethyddiaeth fanwl gywir
  • Cynhyrchu Glaswellt a Chnydau Porthiant
  • Rheoli Busnesau Ar Dir
  • Arferion a Pherfformiad y Diwydiant 2
  • Maetheg Anifeiliaid Fferm
  • Ffermio a’r Amgylchedd
  • Iechyd Anifeiliaid Fferm
  • Cynllunio Busnes Fferm
  • Lles Anifeiliaid Amaethyddol
  • Marchnata Amaethyddol
  • Rheoli Adnoddau Fferm
  • Prosiect Annibynnol

Mae ein gradd amaethyddol yn darparu hyfforddiant theori ac ymarferol realistig i’r rheiny sy’n bwriadu camu i’r diwydiant fel ffermwyr, rheolwyr mentrau busnes a rheolwyr ffermydd neu weithio yn y diwydiannau gwasanaethau amaethyddol.

Caiff perfformiad myfyrwyr ei fonitro trwy aseiniadau, asesu parhaus, arholiadau, gwaith ymarferol, asesu ar ddiwedd modiwl a thrwy gwblhad prosiect mawr.

Caniateir mynediad i ymgeiswyr sy’n dangos y gallu academaidd a’r potensial i elwa o’r rhaglen. Disgwylir i fyfyrwyr feddu ar bedwar TGAU gradd C ac uwch, ynghyd â 40 pwynt UCAS.

Bydd ceisiadau gan ddysgwyr hŷn nad ydynt efallai’n bodloni’r meini prawf hyn yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain mewn cyfweliad, yn seiliedig ar eu profiad a chymwysterau eraill y gallant fod wedi’u hennill a all fod yn berthnasol i’r diwydiant.

Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag ystod o gymwysterau galwedigaethol priodol a phrofiad yn ogystal â’r llwybr Safon Uwch traddodiadol. Gallai’r rhain gynnwys y Fagloriaeth Lefel 3, Prentisiaethau, NVQs, AVCEs, Diplomâu Cenedlaethol a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Diploma a Diploma Atodol NPTC Lefel 3.

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Mwy o gyrsiau Amaethyddiaeth

Chwiliwch am gyrsiau