
Mae gwrteithiau fel slyri yn chwarae rhan bwysig mewn ffermio ac amaethyddiaeth. Fodd bynnag, mae angen eu defnyddio’n gywir i’w hatal rhag cael effaith negyddol ar bobl a’r amgylchedd. Cynlluniwyd y cwrs hwn i alluogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau wrth ddefnyddio a gwasgaru slyri a tail buarth fferm yn ddiogel.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Saesneg
£450 (Cyllid ReAct+ ar gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Cwmpesir amrywiaeth o bynciau gan gynnwys canlyniadau peidio â defnyddio a rheoli slyri a thail yn iawn, deddfwriaeth a chanllawiau sy’n effeithio ar ddefnyddio nitradau organig ac anorganig, adnabod gwahanol fathau o dail a gwrtaith a deall labeli cynnyrch a’r effeithiau amgylcheddol a sut y gellir eu goresgyn. Yn ogystal ag iechyd a diogelwch, delio â damweiniau, peiriannau gwasgaru, lleihau allyriadau amonia yn ystod gwasgaru, cadw cofnodion a rheoli tail.
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen ar ddysgwyr i allu storio a defnyddio gwrteithiau fel slyri yn ddiogel. Yn ogystal â deall rheoliadau, deddfwriaeth, gwybodaeth am gynnyrch, sut i ddelio â digwyddiadau pe baent yn digwydd a sut i gofnodi gwybodaeth yn gywir.
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno datblygu ei wybodaeth, ei ddealltwriaeth a’i sgiliau wrth ddefnyddio a gwasgaru slyri a thail buarth fferm yn ddiogel.
Gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill ar ôl iddynt ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.